[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
United Kingdom Statutory Instruments |
||
You are here: BAILII >> Databases >> United Kingdom Statutory Instruments >> The Relocation Grants (Form of Application) (Welsh Form of Application) Regulations 1999 No. 2315 URL: http://www.bailii.org/uk/legis/num_reg/1999/uksi_19992315_en.html |
[New search] [Help]
Statutory Instruments
HOUSING, ENGLAND AND WALES
Made
25th June 1999
Coming into force
5th August 1999
The Secretary of State for Wales, in exercise of the powers conferred on him by sections 132(4) and 133(3) of the Housing Grants, Construction and Regeneration Act 1996(1) as extended by section 26(3) of the Welsh Language Act 1993(2) and of all other powers enabling him in that behalf, hereby makes the following Regulations:
1. These Regulations may be cited as the Relocation Grants (Form of Application) (Welsh Form of Application) Regulations 1999 and shall come into force on 5th August 1999.
2. In these Regulations "the principal Regulations" means the Relocation Grants (Form of Application) Regulations 1997(3).
3. The form set out in the Schedule to these Regulations is hereby the prescribed version in Welsh which may be used instead of the corresponding form in the Schedule to the principal Regulations for the purpose set out in regulation 2 of the principal Regulations.
4. These Regulations shall not have effect in relation to applications for a relocation grant made before 5th August 1999.
Signed by authority of the Secretary of State for Wales
Jon Owen Jones
Parliamentary Under Secretary of State Welsh Office
25th June 1999
Regulation 3
Yn y nodiadau hyn, ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 ac, oni nodir yn wahanol, cyfeiriadau at adrannau etc o'r Ddeddf yw'r holl gyfeiriadau at adrannau.
1. Nid yw grant yn daladwy ond i -�berson cymwys'. Mae adran 133(1) yn dweud:
"A person is a qualifying person for the purposes of section 132 (relocation grants: applications and payments) if-
(a)an interest of his in a dwelling in the clearance area ("the original dwelling") has been, or is to be, acquired by the local housing authority under section 290 of the Housing Act 1985 or section 154 of the Town and Country Planning Act 1990;
(b)that interest on the acquisition date was greater than a tenancy for a year or from year to year; and
(c)the original dwelling was his only or main residence both on the declaration date and throughout the period of twelve months ending with the acquisition date".
2. Cyfeirio y mae pob "chi" ac "eich" yn y ffurflen gais hon at y ceisydd grant, oni nodir yn wahanol.
3. O dan adran 133, ni chaiff y Cyngor ystyried y cais hwn am grant adleoli oni fyddant wedi'u hargyhoeddi eich bod wedi byw yn yr annedd fel eich unig neu brif breswylfa ar ddyddiad datgan yr ardal glirio yn ogystal â thrwy gydol y cyfnod o ddeuddeng mis a ddaeth i ben ar y dyddiad caffael.
4. Rhaid eich bod chi, neu aelod o'ch teulu (gweler Nodyn 5), yn bwriadu caffael -�buddiant perchennog' yn eich cartref newydd. O dan adran 140 ystyr buddiant perchennog yw eiddo a brynwyd drwy rydd-ddaliad neu lesddaliad y mae o leiaf bum mlynedd o'r brydles ar ôl. Gall hyn gynnwys perchenogaeth a rennir.
5. Mae adran 140(4) yn diffinio "aelod o deulu" drwy gyfeirio at adran 113 o Ddeddf Tai 1985. Mae'r diffiniad yn cynnwys gwŷr a gwragedd; personau sy'n byw gyda'i gilydd fel gŵr a gwraig; rhieni; teidiau a neiniau (tad-cuod a mam-guod); plant; wyrion ac wyresau; brodyr; chwiorydd; ewythrod; modrybedd; neiaint; a nithoedd. Ni all y Cyngor dalu grant ond os yw'r ceisydd neu aelod o'i deulu yn bwriadu byw yn y cartref newydd.
6. Os ydych yn prynu'ch cartref newydd drwy brydles, rhaid bod o leiaf bum mlynedd o'r brydles ar ôl. (Gweler Nodyn 4 uchod).
7. Gall grant adnewyddu, grant cyfleusterau i'r anabl a chymorth trwsio cartref fod ar gael gan eich Cyngor lleol. Gall y Cyngor ddarparu'r manylion.
8. Cymerodd y lwfans ceisio gwaith (LCG) le budd-dâl diweithdra a chymhorthdal incwm ar gyfer pobl ddi-waith o 7 Hydref 1996 ymlaen. Cymerodd LCG ar sail cyfraniadau le Budd-dâl Diweithdra a chymerodd LCG ar sail incwm le Cymhorthdal Incwm.
Os ydych wedi ateb "Ydw/Ydy" i gwestiwn 4.1 neu 4.22, nid oes angen i chi ateb y cwestiynau sy'n weddill yn Rhan 4 (prawf adnoddau). Gall helpu'r Cyngor i brosesu'ch cais yn gyflymach os bydd pob person sy'n cael cymhorthdal incwm yn llenwi'r awdurdodiad ar ddiwedd Rhan 4. Er hynny, nid oes rheidrwydd gwneud hynny, a gallwch fynd yn syth i Ran 5 os dymunwch.
9. Rhywun o'r rhyw arall sy'n byw gyda chi fel gŵr neu wraig, p'un a ydych yn briod neu beidio, yw partner. Dylech ateb "Nac oes" i gwestiwn 4.2 os yw person o'r fath sydd fel rheol yn byw gyda chi yn absennol ac yn debygol o aros felly am fwy na 52 wythnos; ond dylech ateb "Oes" os yw absenoldeb y person hwnnw yn ganlyniad i amgylchiadau eithriadol sydd y tu hwnt i'w r(h)eolaeth ac yn annhebygol o fod yn sylweddol fwy na 52 wythnos.
10. Os oes gennych fwy nag un partner, ac os ydych wedi'ch priodi'n amlwreiciol/aml-wraidd o dan gyfraith gwlad sy'n caniatáu priodasau o'r fath, dylech roi'r manylion y gofynnir amdanynt mewn perthynas â phob partner sy'n byw gyda chi, ac ateb cwestiynau 4.3 i 4.40 mewn perthynas â phob un ohonynt. Dylech sicrhau hefyd fod eich atebion i gwestiynau 4.14 i 4.19 yn cynnwys pob plentyn a pherson ifanc yr ydych chi neu unrhyw rai o'ch partneriaid yn gyfrifol amdanynt ac sydd fel rheol yn byw gyda chi.
11. Hyd yn oed os ydych chi neu'ch partner wedi bod yn alluog i weithio yn ystod yr wythnosau diwethaf, gall eich bod yn dal yn gymwys i gael y "premiwm anabledd" os oes gennych chi neu'ch partner hanes hir o analluogrwydd. Os ydych yn meddwl bod hyn yn gymwys i chi, dylech ateb "Nac ydw/Nac ydy" i'r cwestiwn hwn, ond rhowch y manylion llawn.
12. Pan fo dau neu ragor o gyfnodau o analluogrwydd wedi'u gwahanu gan fwlch neu fylchau a phob un o'r rheiny heb fod yn fwy na 56 o ddiwrnodau, ymdrinnir â'r cyfnodau hynny fel un cyfnod parhaus o analluogrwydd.
13. Mae person yn derfynol wael os yw'n dioddef gan glefyd sy'n gwaethygu'n raddol ac y byddai'n rhesymol disgwyl iddo farw o ganlyniad i'r clefyd hwnnw o fewn 6 mis. Pan fo dau neu ragor o gyfnodau o analluogrwydd wedi'u gwahanu gan fwlch neu fylchau a phob un o'r rheiny heb fod yn fwy na 56 o ddiwrnodau, ymdrinnir â'r cyfnodau hynny fel un cyfnod parhaus o analluogrwydd.
14. Dylech ateb "Ydw/Ydy" i'r cwestiwn hwn hyd yn oed os yw talu'r budd-dâl hwn i chi neu'ch partner wedi'i atal, neu os yw swm y budd-dâl wedi'i leihau am eich bod chi neu'ch partner yn cael triniaeth claf mewnol am ddim mewn ysbyty neu sefydliad tebyg (ond nid carchar na sefydliad sy'n ddalfa i'r ifanc).
15. Atebwch "Ydw/Ydy" i'r cwestiwn hwn hyd yn oed-
(a)os byddai hawl gennych chi neu'ch partner i gael lwfans gofal analluedd oni bai am fudd-dâl sy'n gorgyffwrdd (h.y. budd-dâl anafiadau, atodiad i'r anghyflogadwy, budd-dâl marwolaeth ddiwydiannol, budd-dâl marwolaeth pensiynau rhyfel, a lwfans hyfforddi); neu
(b)os ydych chi a'ch partner yn cael taliad consesiynol fel iawndal am lwfans gofal analluedd na chafodd ei dalu; neu
(c)os byddech chi neu'ch partner yn cael y lwfans, ond bod y person yr oeddech chi, neu'ch partner, yn gofalu amdano yn glaf mewnol mewn ysbyty neu sefydliad tebyg am gyfnod hwy na 28 o ddiwrnodau.
16. Atebwch "Ydw/Ydy" i'r cwestiwn hwn hefyd os bu i chi neu'ch partner beidio â chael y pensiwn hwn am fod pensiwn ymddeol yn cael ei dalu. (Ar ôl Ebrill 12 1995 cymerwyd lle pensiwn analluedd gan fudd-dâl analluogrwydd hir-dymor.)
17. Atebwch "Ydw/Ydy" i'r cwestiwn hwn hefyd os bu i chi neu'ch partner beidio â chael budd-dâl analluogrwydd hir-dymor am fod pensiwn ymddeol yn cael ei dalu. (Ar ôl 12 Ebrill 1995 cymerodd budd-dâl analluogrwydd le pensiwn analluedd o wythnos 53 o analluogrwydd person ymlaen.)
18. Atebwch "Ydw/Ydy" i'r rhan briodol o'r cwestiwn hwn hefyd os bu i chi neu'ch partner beidio â chael budd-dâl analluogrwydd tymor-byr yn ôl y gyfradd hir-dymor neu yn ôl cyfradd sy'n gyfartal â hynny am fod pensiwn ymddeol yn cael ei dalu. (Ar ôl 12 Ebrill 1995 cymerodd budd-dâl analluogrwydd tymor-byr le budd-dâl salwch a budd-daliadau analluedd am wythnosau 1 i 52 o analluogrwydd person.)
19. Mae plentyn dibynnol neu berson ifanc yn rhywun:
sydd o dan 19 oed;
yr ydych chi neu'ch partner yn gyfrifol amdano;
yr ydych chi neu'ch partner yn cael budd-dâl plant mewn perthynas ag ef, neu sy'n cael ei drin fel plentyn at ddibenion budd-dâl plant; ac
sydd fel rheol yn byw gyda chi.
Ni ddylech gynnwys unrhyw berson ifanc sy'n cael cymhorthdal incwm, neu lwfans ceisio gwaith ar sail incwm.
Dylech ateb "Nac oes" os yw plentyn neu berson ifanc sydd fel rheol yn byw gyda chi yn absennol ac yn debygol o aros yn absennol am fwy na 52 wythnos; ond dylech ateb "Oes" os yw absenoldeb y plentyn neu'r person ifanc hwnnw o ganlyniad i amgylchiadau eithriadol sydd y tu hwnt i'w r(h)eolaeth ac sy'n annhebygol o fod yn sylweddol fwy na 52 wythnos.
20. Os ydych chi neu'ch partner yn cael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, nid oes angen i chi ateb cwestiynau 4.16 a 4.17.
21. Peidiwch â chynnwys unrhyw blant sy'n iau na 16 oed neu sy'n dal i gael addysg amser-llawn.
22. Wrth gyfrif nifer yr oriau sy'n cael eu gweithio bob wythnos, dylech edrych ar gylch diwethaf oriau gwaith y plentyn (os oes gan y plentyn gylch canfyddadwy) neu (os nad felly) ar y pum wythnos ddiwethaf, yn union cyn cyflwyno'r cais hwn. Ni ddylech gynnwys unrhyw ddiwrnod pryd y bydd y plentyn a fyddai fel arall yn gweithio yn cael seibiant mamolaeth neu'n absennol o'r gwaith am ei fod/bod yn sâl.
23. Dylech gynnwys budd-daliadau, taliadau elusennol a gwirfoddol, a thaliadau cynhaliaeth.
24. Nid oes rhaid i chi gynnwys lwfans gweini, lwfans byw i'r anabl neu atodiad symudedd.
25. Dylech gynnwys unrhyw un o'r canlynol:
cynilion arian parod;
arian mewn cyfrifon banc, cymdeithas adeiladu neu Swyddfa'r Post;
Tystysgrifau Cynilion Cenedlaethol a Bondiau Premiwm;
stociau, cyfranddaliadau ac unedau buddsoddi.
26. Dylech gynnwys manylion am unrhyw gyfalaf sydd i'w dalu fesul rhandal, gan gynnwys yn benodol cyfanswm unrhyw randal neu randaliadau sydd heb eu talu.
27. I'r diben hwn, mae person yn byw gyda chi os yw'n rhannu ystafell neu ystafelloedd gyda chi heblaw ystafell ymolchi, toiled neu fan cyffredin, ee cyntedd; ond nid felly os ydych yn talu landlord ar wahân i'ch gilydd am eich llety.
[28.]-
29. Os oes gennych bartner ac os ydych yn cael eich talu ar y cyd, fel pâr, rhowch y manylion yn y naill golofn neu'r llall (nid yw o bwys ba un) ond nid yn y ddwy.
30. Dylai tâl gros gynnwys bonws neu gomisiwn, goramser, tâl gwyliau, tâl salwch neu dâl mamolaeth.
31. Ystyr "pensiwn galwedigaethol" yw unrhyw bensiwn neu daliad cyfnodol arall o dan gynllun pensiwn galwedigaethol ond nad yw'n cynnwys unrhyw daliad disgresiynol o gronfa a sefydlwyd ar gyfer lliniaru ar galedi mewn achosion penodol.
32. Mae i "cynllun pensiwn personol" yr un ystyr ag a geir yn adran 191 o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 ac, yn achos enillydd hunan-gyflogedig, mae'n cynnwys cynllun sydd wedi'i gymeradwyo gan Fwrdd Cyllid y Wlad o dan Bennod IV o Ran XIV o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988.
Ystyr "pensiwn personol" yw pensiwn neu daliad cyfnodol arall o dan gynllun pensiwn personol.
33. Ystyr "contract blwydd-dâl ymddeol" yw contract neu gynllun ymddiriedolaeth wedi'i gymeradwyo o dan Bennod III o Ran XIV o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaethau 1988.
Ystyr "blwydd-dâl ymddeol" yw taliad cyfnodol o dan gynllun blwydd-dâl ymddeol.
34. Wrth gyfrif nifer yr oriau sy'n cael eu gweithio bob wythnos, dylech edrych ar gylch diwethaf eich oriau gwaith (os oes gennych gylch canfyddadwy) neu (fel arall) ar y pum wythnos ddiwethaf, yn union cyn cyflwyno'r cais hwn. Ni ddylech gynnwys unrhyw ddiwrnod pryd y bydd y person a fyddai fel arall yn gweithio yn cael seibiant mamolaeth neu'n absennol o'r gwaith am ei fod/bod yn sâl. Os ydych chi neu'ch partner yn gweithio mewn ysgol neu goleg neu mewn swydd lle ceir gwyliau ysgol neu gyfnodau tebyg pryd na fyddwch chi neu'ch partner yn gweithio, dylech ddiystyru'r cyfnodau hynny-ac unrhyw gyfnodau eraill pryd na fydd yn ofynnol i chi neu'ch partner weithio-wrth gyfrif yr oriau cyfartalog sy'n cael eu gweithio bob wythnos.
35. Darperwch gopïau o'r cyfrifon diweddaraf sy'n rhoi manylion am eich hunangyflogaeth. Cynhwyswch fanylion unrhyw daliadau o gynllun pensiwn neu flwydd-dâl ymddeol, a threth incwm, cyfraniadau yswiriant cenedlaethol a TAW net a dalwyd. Ystyr "TAW net" yw faint y mae unrhyw dreth ar werth a dalwyd gennych mewn perthynas â chyflenwadau trethadwy a ddarparwyd i chi, yn fwy nag unrhyw dreth a gafwyd gennych mewn perthynas â chyflenwadau trethadwy a ddarparwyd gennych, a hynny wedi'i gyfrif gyda golwg ar y 12 mis blaenorol.
36. Rhowch y swm net os yw'ch pensiwn neu'ch blwydd-dâl ymddeol yn cael ei drethu.
37. Mae hyn yn golygu pensiwn sy'n cael ei dalu i'r rhai a gafodd eu herlid gan y Sosialwyr Cenedlaethol o dan unrhyw ddarpariaeth arbennig a wnaed drwy gyfraith Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, neu unrhyw ran ohoni, neu gyfraith Gweriniaeth Awstria.
38. Telir pensiynau ychwanegol i weddwon milwyr, er enghraifft: (i) pan fo'r weddw yn 40 oed neu drosodd; (ii) pan nad yw'n gallu ei chynnal ei hun; neu (iii) mewn perthynas â rhai o blant ei diweddar ŵr.
39. Soniwch am unrhyw bensiwn cyfatebol a geir gan wlad y tu allan i Brydain Fawr. Dylech ateb y cwestiwn hwn hefyd os byddwch yn cael iawndal am nad yw'r pensiwn yn cael ei dalu, waeth beth fo'i ffynhonnell.
40. Mae hyn yn golygu pensiwn sy'n daladwy i weddw o dan Orchymyn Pensiynau Gwasanaeth y Llynges, y Fyddin a'r Awyrlu etc. (Anablu a Marwolaeth) 1983 cyn belled â bod y Gorchymyn hwnnw wedi'i wneud o dan Ddeddf Tâl a Phensiynau Llyngesol a Mor-filwrol 1865 neu Ddeddf Pensiynau a Thâl yr Iwmoniaeth 1884, neu wedi'i wneud o dan adran 12(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Darpariaethau Amrywiol) 1977 yn unig ac unrhyw bŵer sydd gan Ei Mawrhydi i wneud darpariaeth bensiynau ar gyfer personau sydd wedi'u hanablu neu sydd wedi marw o ganlyniad i wasanaeth fel aelodau o luoedd arfog y Goron neu mewn perthynas â hwy.
Soniwch am unrhyw bensiwn cyfatebol a geir gan wlad y tu allan i Brydain Fawr. Dylech ateb y cwestiwn hwn hefyd os ydych yn cael iawndal am bensiwn o'r fath sydd heb gael ei dalu, waeth beth fo'i ffynhonnell.
41. Gwneir y taliadau hyn i weddwon personau a laddwyd cyn 31 Mawrth 1973 wrth wneud gwasanaeth sy'n cyfateb i wasanaeth yn lluoedd arfog y Goron.
42. O dan y Cynllun hwn, telir pensiynau a lwfansau i sifiliaid a anafwyd neu a laddwyd yn Rhyfel 1939-�45 neu mewn perthynas â hwy.
43. Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw un o'r canlynol:
lwfans gweini;
budd-dâl treth gyngor;
lwfans byw i'r anabl;
lwfans gwarcheidwad;
budd-dâl tai;
unrhyw lwfans ceisio gwaith neu gymhorthdal incwm (gweler cwestiynau 4.1 a 4.22);
taliadau gan Ymddiriedolaethau MacFarlane, Ymddiriedolaeth Eileen neu'r Cronfeydd Byw yn Annibynnol;
taliadau o'r Gronfa, h.y. arian sydd wedi'i roi ar gael gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan gynllun a sefydlwyd ar 24 Ebrill 1992 neu, yn yr Alban, ar 10 Ebrill 1992;
taliadau o dan gynllun "busnes ar eich liwt eich hun", y "gwasanaeth darllenydd personol" neu'r cynllun "tocynnau teithio i'r gwaith";
taliadau cronfa gymdeithasol o dan Ran VIII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.
taliadau atodol gorfodol a wnaed i chi am gymryd rhanyn Newis Sector Gwirfoddol y Fargen Newydd neu yn Newis Tasglu Amglychedd y Fargen Newydd lle'r ydych chi yn hunangyflogedig o dan Ddewis Cyflogaeth y Fargen Newydd a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973;
taliadau disgresiynol ar gyfer anghenion arbennig a wnaed i chi am gymryd rhan yn Newis Addysg a Hyfforddiant Amser-Llawn y Fargen Newydd a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973;
Gellir anwybyddu budd-daliadau a lwfansau penodol eraill wrth gyfrif eich incwm, ond at ddibenion llenwi'r ffurflen dim ond y taliadau a grybwyllir uchod y dylech beidio â'u cynnwys. Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch a yw taliad yn perthyn i un o'r categorïau hyn, dylech ei gynnwys a darparu manylion llawn am natur y taliad fel bod y Cyngor yn gallu penderfynu a oes modd ei anwybyddu ai peidio.
43A. Ystyr hyn yw taliad a wnaed o dan Ddeddf Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1996 neu o dan adran 12B o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968.
44. Ystyr atodiad enillion yw'r lwfans a delir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan y Cynllun Atodiad Enillion. Cynllun allstatudol yw'r Cynllun, nad yw'n gymwys ond mewn ardaloedd penodol ym Mhrydain Fawr. Fe'i cyflwynwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Nawdd Cymdeithasol a daeth i rym ar 8 Hydref 1996.
44A. Ystyr hyn yw unrhyw lwfans adsefydlu a delir i chi o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973.
45. Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw un o'r canlynol:
unrhyw beth a restrir yn Nodyn 43 neu Nodyn 43A;
taliadau rhoi mewn cartref maeth neu daliadau meithrin a wnaed gan awdurdod lleol, awdurdod iechyd neu gorff gwirfoddol ac, yn achos Gogledd Iwerddon, bwrdd iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ac eithrio fel a ddarperir yng Ngorchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995;
lwfans dechrau gwaith;
taliadau "Rhan III", hy taliadau a wnaed gan awdurdod lleol o dan adran 17 neu 24 o Ddeddf Plant 1989 mewn perthynas â phlant a phobl ifanc;
taliadau a wneir i chi fel deiliad Croes Fictoria neu Groes Siôr.
Gellir anwybyddu taliadau penodol eraill wrth gyfrif eich incwm, ond at ddibenion llenwi'r ffurflen dim ond y taliadau a grybwyllir uchod y dylech beidio â'u cynnwys. Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch a yw taliad yn perthyn i un o'r categorïau hyn dylech ei gynnwys a darparu manylion llawn am natur y taliad fel bod y Cyngor yn gallu penderfynu a ddylid ei anwybyddu ai peidio.
45A. Ystyr hyn yw Benthyciad Datblygu Gyrfa sy'n cael ei dalu o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973.
45B. Peidiwch â chynnwys unrhyw daliadau incwm a gawsoch am gymryd rhan yn y canlynol-
Dewis Cyflogaeth y Fargen Newydd;
Dewis Sector Gwirfoddol y Fargen Newydd;
Dewis Tasglu Amgylchedd y Fargen Newydd;
Dewis Addysg a Hyfforddiant Amser-Llawn y Fargen Newydd;
cwrs cysylltiedig â chyflogaeth nad yw'n para'n hwy na deuddeng mis yn olynol ac sy'n cyrraedd y safon sy'n ofynnol o dan reoliad 17A o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996;
oni fydd y paragraff dilynol yn gymwys.
Lle'r ydych yn cael neu wedi cael cymorth er mwyn sefydlu neu gyflawni gweithgaredd masnachol o dan Ddewis Cyflogaeth y Fargen Newydd, dylech grybwyll unrhyw daliadau i'ch galluogi i dalu'r treuliau wrth gyflawni'r gweithgaredd hwnnw, neu wneud ad-daliadau ar fenthyciad cysylltiedig. Lle'r ydych yn mynychu cwrs sy'n ymwneud â'ch gwaith, dylech grybwyll hefyd unrhyw daliad a gawsoch mewn cysylltiad â'ch anghenion arbennig.
46. Peidiwch â chynnwys unrhyw daliadau a wneir i chi gan awdurdod iechyd, awdurdod lleol neu gorff gwirfoddol ar gyfer plant yr ydych yn gofalu amdanynt yn eich cartref neu ar gyfer personau eraill y darperwch lety ar eu cyfer ac, yn yr achos hwn hefyd, anwybydder unrhyw daliadau gan y bobl hyn.
46A. Ystyr "taliadau yswiriant" yw unrhyw daliadau a geir o dan bolisi yswiriant i alluogi gwneud ad-daliadau:
(a)ar forgais eich cartref eich hun;
(b)ar gytundeb credyd defnyddwyr neu gytundeb hur defnyddwyr a reoleiddir gan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974; neu
(c)ar gytundeb hurbrynu neu gytundeb gwerthiant amodol fel y'u diffinnir at ddibenion Deddf Hurbrynu 1964.
Anwybyddir y taliadau hyn i'r graddau nad ydynt yn uwch na'r swm y mae ei angen er mwyn caniatáu i'r ad-daliadau uchod gael eu gwneud. O ran eich morgais, bydd y swm i'w anwybyddu yn cynnwys unrhyw swm y mae angen i dalu premiymau ar bolisi yswiriant adeiladau sy'n ofynnol yn ôl telerau'r morgais ar eich cartref.
47. Ystyr hyn yw lwfans a dalwyd i chi mewn perthynas â'ch cyfranogaeth mewn cynllun hyfforddi ieuenctid cydnabyddedig a sefydlwyd o dan Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973.
48. Gall y Cyngor ofyn i chi ddarparu tystiolaeth ynglŷn â holl gynilion, buddsoddiadau a chyfalaf arall.
49. Os oes gennych bartner a bod gennych unrhyw gynilion, buddsoddiadau neu gyfalaf arall ar y cyd, nodwch y manylion yn y naill golofn neu'r llall (nid yw o bwys pa un) ond nid yn y ddwy.
Os ydych yn dal unrhyw gyfalaf ar y cyd â phobl eraill heblaw'ch partner, cynhwyswch swm llawn y cyfalaf hwnnw (os yw'n hysbys) a dywedwch faint o bobl eraill sydd â chyfran ohono.
50. Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw un o'r canlynol:
glo mantais neu daliadau a wnaed yn lle hynny o dan adran 19(1)(a) o Ddeddf Diwydiant Glo 1994;
budd-dâl treth gyngor;
budd-dâl tai, neu daliadau trosiannol o fudd-dâl tai;
taliadau "Rhan III" (gweler Nodyn 45);
taliadau yswiriant (gweler Nodyn 46A);
taliadau gan Ymddiriedolaethau MacFarlane, Ymddiriedolaeth Eileen neu'r Cronfeydd Byw yn Annibynnol;
taliadau o'r Gronfa (gweler Nodyn 43);
taliadau o dan gynllun "busnes ar eich liwt eich hun", "gwasanaeth darllenydd personol" neu gynllun "tocynnau teithio i'r gwaith";
taliadau "cychwyn" i weithwyr cartref sy'n cael cymorth o dan Gynllun Gweithwyr Cartref Dall;
taliadau cronfa gymdeithasol o dan Ran VIII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
unrhyw daliad a wneir i chi neu'ch partner fel deiliad Croes Fictoria neu Groes Siôr; neu
unrhyw fonws yn-ôl-i'r-gwaith sy'n daladwy fel lwfans ceisio gwaith neu gymhorthdal incwm yn unol ag adran 26 o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995, neu daliad cyfatebol o dan erthygl 28 o Orchymyn Ceisio Gwaith (Gogledd Iwerddon) 1995.
Gellir anwybyddu mathau penodol eraill o gynilion a thaliadau cyfalaf wrth gyfrif eich cyfalaf, ond at ddibenion llenwi'r ffurflen dim ond y taliadau a grybwyllir uchod y dylech beidio â'u cynnwys. Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch a yw taliad yn perthyn i un o'r categorïau hyn, dylech ei gynnwys a darparu manylion llawn am natur y taliad fel bod y Cyngor yn gallu penderfynu a ddylid ei anwybyddu ai peidio.
50A. Peidiwch â chynnwys unrhyw daliadau cyfalaf a gawsoch am gymryd rhan yn y canlynol-
Dewis Cyflogaeth y Fargen Newydd;
Dewis Sector Gwirfoddol y Fargen Newydd;
Dewis Tasglu Amgylchedd y Fargen Newydd;
Dewis Addysg a Hyfforddiant Amser-Llawn y Fargen Newydd;
cwrs cysylltiedig â chyflogaeth nad yw'n para'n hwy na deuddeng mis yn olynol ac sy'n cyrraedd y safon sy'n ofynnol gan reoliad 17A o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996;
oni fydd y paragraff canlynol yn gymwys.
Lle'r ydych yn cael neu wedi cael unrhyw gymorth o dan Ddewis Hunangyflogaeth y Fargen Newydd, bydd angen i chi grybwyll unrhyw swm cyfalaf yr ydych wedi'i gaffael o fewn y flwyddyn ddiwethaf er mwyn sefydlu neu gyflawni gweithgaredd masnachol y ceir neu y cafwyd cymorth mewn cysylltiad ag ef. Lle'r ydych yn mynychu cwrs sy'n ymwneud â'ch gwaith, dylech grybwyll hefyd unrhyw daliad a gafwyd o fewn y flwyddyn ddiwethaf mewn cysylltiad â'ch anghenion arbennig.
51. Dylech gynnwys ail gartrefi, cartrefi gwyliau ac unrhyw eiddo arall, gan gynnwys eiddo tramor. Soniwch ar wahân am unrhyw dir yr ydych yn cael rhent amdano o dan brydles sy'n bodoli eisoes neu is-brydles.
Nid oes rhaid i chi gynnwys unrhyw un o'r canlynol:
eich cartref eich hun;
yr eiddo sy'n destun i'r cais hwn;
unrhyw eiddo a feddiannir gan berthynas oedrannus (h.y. 60 oed neu drosodd) neu berthynas i chi sydd wedi'i (h)analluogi, neu aelod o'ch teulu fel ei (h)unig neu brif breswylfa. Mae "perthynas" yn cynnwys unrhyw un o'r canlynol: rhieni, rhieni-yng-nghyfraith, llys-rieni, meibion, merched, meibion- a merched-yng-nghyfraith, llysfeibion a llysferched, brodyr a chwiorydd, teidiau a neiniau (tad-cuod a mam-guod), wyrion ac wyresau, ewythredd a modrybedd, neiaint a nithoedd;
os ydych yn hunan-gyflogedig, asedau'ch busnes;
cyfalaf a weinyddir gan lysoedd Cymru a Lloegr neu'r Alban ar gyfer unrhyw berson, sy'n tarddu o ddyfarnu iawndal am anaf personol i'r person hwnnw neu, yn achos person o dan 18 oed, sy'n tarddu o iawndal am farwolaeth un o'i r(h)ieni neu'r ddau ohonynt.
Gellir anwybyddu taliadau cyfalaf penodol eraill hefyd wrth gyfrif eich cyfalaf, ond at ddibenion llenwi'r ffurflen hon dim ond y taliadau a grybwyllir uchod y dylech beidio â'u cynnwys. Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch a yw eiddo neu gyfalaf arall yn perthyn i un o'r categorïau hyn, dylech ei gynnwys a darparu manylion llawn fel bod y Cyngor yn gallu penderfynu a fydd modd ei anwybyddu ai peidio.
52. Taliad yw cyfraniad y bernir eich bod yn ei wneud at grant y myfyriwr, pa un ai fydd y taliad yn cael ei wneud i'r myfyriwr mewn gwirionedd neu beidio.
53. Dylech ateb "Nac ydw" i'r cwestiwn hwn pan fo'r gofal yn cael ei ddarparu gennych chi neu'ch partner am blentyn a enwir yng nghwestiwn 4.15 a bod un partner yn codi tâl ar y llall am ddarparu'r gofal.
Dylech ateb "Nac ydw" i'r cwestiwn hwn hefyd pan fo'ch treuliau gofal plant wedi'u talu'n ôl mewn perthynas â'ch cyfranogaeth mewn rhaglen gyflogaeth a nodir yn rheoliad 75(1)(a)(ii) o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996 neu mewn cynllun hyfforddiant a nodir yn rheoliad 75(1)(b)(ii) o'r Rheoliadau hynny.
54. Dyma'r ysgolion a'r sefydliadau eraill y cyfeirir atynt, ac sydd wedi'u hesemptio rhag cofrestru o dan adran 71 o Ddeddf Plant 1989 gan baragraffau 3 a 4 o Atodlen 9 i'r Ddeddf honno:
(a)gan baragraff 3 o Atodlen 9-
ysgol a gynhelir neu a gynorthwyir gan awdurdod addysg lleol;
ysgol o dan reolaeth awdurdod addysg;
ysgol y gwneir taliadau mewn perthynas â hi gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 100 o Ddeddf Addysg 1944;
ysgol annibynnol;
ysgol a gynorthwyir â grant;
ysgol a gynhelir â grant;
ysgol hunanlywodraethol;
canolfan chwarae a gynhelir neu a gynorthwyir gan awdurdod addysg lleol o dan adran 53 o Ddeddf Addysg 1944;
pan ofelir am y plentyn dan sylw o dan drefniadau gofal dydd wedi'u gwneud gan y person sy'n rhedeg y sefydliad fel rhan o'i weithgareddau neu gan un o'i weithwyr cyflogedig yn y sefydliad a hwnnw wedi'i awdurdodi i wneud y trefniadau hynny fel rhan o weithgareddau'r sefydliad; a
(b)gan baragraff 4 o'r Atodlen honno-
cartref plant cofrestredig;
cartref gwirfoddol;
cartref cymuned;
cartref gofal preswyl, cartref nyrsio neu gartref nyrsio meddwl y mae'n ofynnol ei gofrestru o dan Ddeddf Cartrefi Cofrestredig 1984;
ysbyty gwasanaeth iechyd;
cartref a ddarperir, a gyfarperir ac a gynhelir gan yr Ysgrifennydd Gwladol; pan ofelir am y plentyn dan sylw o dan drefniadau gofal dydd a wneir gan yr adran, yr awdurdod neu unrhyw berson arall sy'n rhedeg y sefydliad fel rhan o'i weithgareddau neu gan weithiwr cyflogedig yn y sefydliad sydd wedi'i awdurdodi i wneud y trefniadau hynny fel rhan o weithgareddau'r sefydliad.
55. Rhowch "Ydw (etc)" yn ateb i'r cwestiwn hwn-
(1) os ydych chi, neu'ch partner, o dan 60 oed ac os yw un neu ragor o'r amodau canlynol wedi'u bodloni:
(a)yr ydych chi, neu'ch partner, yn cael lwfans gweini, lwfansau byw i'r anabl, lwfans gweithio i'r anabl, atodiad symudedd, budd-dâl analluogrwydd hir-dymor neu lwfans anabledd difrifol (ond yn achos budd-dâl analluogrwydd hir-dymor neu lwfans anabledd difrifol, dim ond pan gaiff ei dalu mewn perthynas â'r person sy'n cael y budd-dâl neu'r lwfans);
(b)yr ydych chi, neu'ch partner, wedi peidio â chael budd-dâl analluogrwydd hir-dymor (neu, os yw paragraff (2) yn gymwys, os gwnaethoch chi neu'ch partner beidio â chael pensiwn analluogrwydd cyn 13 Ebrill 1995) am fod pensiwn ymddeol yn cael ei dalu ac, yn achos eich partner, y mae ef/hi yn dal yn aelod o'ch teulu;
(c)yr oeddech chi, neu'ch partner, yn cael lwfans gweini neu lwfans byw i'r anabl ond
(i)mae taliadau'r budd-dâl wedi'u hatal o dan adran 113(2) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992, neu
(ii)maent wedi peidio fel arall am eich bod chi, neu'ch partner, yn cael triniaeth am ddim fel claf mewnol mewn ysbyty neu sefydliad tebyg (ond nid pan fyddwch chi, neu ef/hi, yn bwrw tymor mewn carchar neu sefydliad sy'n ddalfa i'r ifanc);
(d)y mae cerbyd yr anabl neu gerbyd arall neu grant ar gyfer cerbyd o'r fath wedi'i ddarparu ar eich cyfer chi neu'ch partner o dan ddeddfwriaeth Cymru a Lloegr neu'r Alban;
(e)yr ydych chi, neu'ch partner, wedi'ch cofrestru'n ddall neu wedi peidio â bod wedi'ch cofrestru felly nid mwy na 28 wythnos yn ôl;
(f)(i)yr ydych yn analluog i weithio, neu'n cael eich trin felly, o dan Ran XIIA o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992; ac
yr ydych wedi bod â hawl i gael tâl salwch statudol neu yr ydych wedi bod yn analluog i weithio, neu'n cael eich trin felly, am o leiaf y 364 diwrnod diwethaf yn barhaus neu, os ydych yn derfynol wael, am o leiaf y 196 diwrnod diwethaf yn barhaus (gan gynnwys unrhyw gyfnod o analluogrwydd cyn 13 Ebrill 1995 sy'n bodloni amod (f)(ii) isod; ac anwybyddwch unrhyw fwlch neu fylchau, hyd at 56 o ddiwrnodau yr un, rhwng cyfnodau o analluogrwydd ac, ar ôl i chi orffen y cyfnod cymhwyso, unrhyw gyfnod o hyfforddiant cyflogaeth neu gyfnod cael lwfans hyfforddi); neu
yn union cyn 13 Ebrill 1995, mewn perthynas â chyfnod parhaus o 28 wythnos o leiaf,
y gwnaethoch chi neu'ch partner ddarparu tystiolaeth am analluogrwydd yn unol â rheoliad 2 o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Tystiolaeth Feddygol) 1976 (neu ddeddfwriaeth gyffelyb yng Ngogledd Iwerddon) fel yr oedd mewn grym ar y pryd i gefnogi cais am fudd-dâl salwch, pensiwn analluedd neu lwfans anabledd difrifol o fewn ystyr adrannau 31, 33 neu 68 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 (neu ddeddfwriaeth gyffelyb yng Ngogledd Iwerddon) fel yr oedd mewn grym ar y pryd, ar yr amod nad oedd swyddog dyfarnu wedi penderfynu nad oeddech chi neu, yn ôl yr achos, eich partner heb allu gweithio, neu
yr oeddech chi neu'ch partner yn cael tâl salwch statudol o dan Ran XI o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 fel yr oedd mewn grym ar y pryd;
ac o 13 Ebrill 1995 yr ydych chi neu, yn ôl yr achos, eich partner wedi parhau i fod yn analluog i weithio yn unol â Rhan XIIA o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 yn barhaus (anwybyddwch unrhyw fwlch neu fylchau o hyd at 56 o ddiwrnodau yr un rhwng cyfnodau o analluogrwydd);
(2) os ydych chi, neu'ch partner, o dan 80 oed ond heb fod o dan 60 oed bod un neu ragor o'r amodau yn (a) i (f) ym mharagraff (1) wedi'i fodloni (ond yn achos amod (f)(i), ar ôl i chi orffen y cyfnod cymhwyso, ni fydd modd anwybyddu unrhyw gyfnod o hyfforddiant cyflogaeth neu gyfnod cael lwfans hyfforddi); neu
(3) os byddai paragraff (1) neu (2) yn gymwys i'ch partner, heblaw bod eich partner yn cael ei drin/thrin fel petai'n gallu gweithio drwy ddyfarniad o dan adran 171E o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992; neu
(4) os ydych wedi bod yn analluog i weithio, neu os ydych wedi cael eich trin fel person o'r fath, o dan Ran XIIA o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 am gyfnod di-dor o 196 o ddiwrnodau o leiaf (anwybyddwch unrhyw fwlch neu fylchau hyd at 56 o ddiwrnodau yr un rhwng cyfnodau o analluogrwydd); neu
(5) os yw un neu ragor o'r canlynol (gan gynnwys y rhai cyfatebol a geir yng Ngogledd Iwerddon) yn daladwy ar eich cyfer chi neu'ch partner:
(a)budd-dâl analluogrwydd hir-dymor;
(b)budd-dâl analluogrwydd tymor-byr yn ôl y gyfradd uwch;
(c)lwfans gweini;
(d)lwfans anabledd difrifol;
(e)lwfans byw i'r anabl;
(f)cynyddu pensiwn anabledd ar gyfer gweini cyson;
(g)cynydd mewn pensiwn o dan gynllun pensiwn rhyfel neu gynllun anafiadau diwydiannol ar gyfer gweini, gweini cyson, neu'r hyn sy'n cyfateb i lwfans byw i'r anabl; neu
(6) os oedd un o (5)(b), (e), (f) neu (g) yn daladwy oherwydd eich analluogrwydd chi neu analluogrwydd eich partner ond peidiodd â bod yn daladwy o ganlyniad i chi neu iddo/iddi gael triniaeth feddygol neu driniaeth arall am ddim fel claf mewnol mewn ysbyty NHS neu sefydliad tebyg neu o dan drefniadau a wnaed gan gorff NHS neu'r Ysgrifennydd Gwladol (sylwer: nid yw person sy'n bwrw tymor mewn carchar neu sefydliad sy'n ddalfa i'r ifanc yn cael ei gyfrif yn "glaf mewnol"); neu
(7) os yw cerbyd yr anabl neu gerbyd arall neu lwfans ar gyfer cerbyd o'r fath wedi'i ddarparu ar eich cyfer chi neu'ch partner (gan gynnwys pan fo'r cerbyd neu'r lwfans wedi'i ddarparu o dan ddeddfwriaeth Gogledd Iwerddon).
55A. Mae'n bosibl y byddai'n helpu'r Cyngor í brosesu'r cais yn gyflymach petai pob person sy'n cael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith ar sail incwm yn llenwi'r awdurdodiad ar ddiwedd Rhan 3. Er hynny, nid yw'n orfodol gwneud hynny.
56. Diffinnir person perthnasol gan reoliad 5(1) o Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 fel y'i diwygiwyd gan reoliad 5 o Reoliadau Grantiau Adleoli 1997 fel person sy'n geisydd neu berson nad yw'n geisydd ond sydd â hawl i wneud y cais (hy mae ganddo fuddiant yn yr annedd fel cyd-berchennog neu gyd-denant) ac sy'n byw neu sy'n bwriadu byw yn yr annedd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi ffurf Gymraeg cais am grant adleoli sy'n daladwy o dan adran 134 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.
1996 c. 53; see section 140 for the meaning of "prescribed".