BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Cymhelliant Hyfforddi Athrawon Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cymru) 1999
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/992816w.html

[New search] [Help]



1999 Rhif 2816 (Cy.17)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cymhelliant Hyfforddi Athrawon Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cymru) 1999

  Wedi'u gwneud 31 Awst 1999 
  Yn dod i rym 1 Medi 1999 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 50 o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986[1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a diddymu
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymhelliant Hyfforddi Athrawon Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 1 Medi 1999.

    (2) Diddymir Rheoliadau (Addysgedau Hyfforddi Athrawon) 1994[
3] a Rheoliadau (Addysgedau ar gyfer Hyfforddiant Athrawon) (Diwygio) 1995[4] yn eu hymwneud â Chymru.

Dehongli
     2. Yn y Rheoliadau hyn  - 

Gwneud taliadau cymhelliant
     3.  - (1) Caiff y Cynulliad, yn unol â'r Rheoliadau hyn, wneud taliadau fel cymhelliant i bersonau gael eu hyfforddi i fod yn athrawon mathemateg a gwyddoniaeth, os yw'r personau hynny yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr o dan reoliadau sy'n cael eu gwneud o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[7].

    (2) Bydd taliad cyntaf nad yw'n fwy na £2,500 ar gyfer unrhyw berson yn daladwy yn unol â rheoliad 4.

    (3) Bydd ail daliad nad yw'n fwy na £2,500 ar gyfer unrhyw berson yn daladwy yn unol â rheoliad 5.

Y Taliad Cymhelliant Cyntaf
     4.  - (1) Bydd taliad cyntaf (a all fod yn daladwy drwy randaliadau) fod yn daladwy i berson mewn perthynas â chwrs ôl-raddedig o hyfforddiant cychwynnol i athrawon addysgu mathemateg neu wyddoniaeth i ddisgyblion sy'n cael addysg uwchradd, a ddarperir mewn sefydliad achrededig yng Nghymru, ac sy'n peri bod y person yn dod yn athro cymwysedig.

    (2) Gall y Cynulliad wneud taliad o dan baragraff (1) drwy ddarparu cyllid i sefydliad achrededig i'w talu i berson ar yr adegau hynny a gyfarwyddir gan y Cynulliad.

    (3) Ni wneir unrhyw daliad o dan baragraff (1) i berson sydd wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon.

    (4) Bydd taliadau o dan baragraff (1) yn daladwy ynglyn â'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs y maent wedi'u rhoi ar ei gyfer.

    (5) Os na fydd person yn cwblhau'r cwrs am resymau afiechyd neu oherwydd gohiriad o fewn y cyfnod y mae ei angen fel arfer, gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru estyn y cyfnod y gellir gwneud y taliadau ar ei gyfer o dan baragraff (1).

Yr Ail Daliad Cymhelliant
    
5.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) bydd taliad nad yw'n fwy na £2,500 yn daladwy i berson  - 

    (2) Ni wneir unrhyw daliad o dan baragraff (1) i berson sydd wedi derbyn swydd mewn ysgol gynradd oni fydd gan y person hwnnw'r cyfrifoldeb arweiniol dros y cwricwlwm mathemateg a/neu wyddoniaeth yn yr ysgol.

    (3) Ni wneir unrhyw daliad o dan baragraff (1) i berson sydd wedi derbyn swydd fwy na 10 mis (plws unrhyw hawl mamolaeth statudol) ar ôl gorffen y cwrs y cafodd y person hwnnw daliad ar ei gyfer o dan reoliad 4 (1).


Dafydd Elis Thomas
The Presiding Officer of the National Assembly for Wales

31 Awst 1999



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r Nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi cymelliannau newydd ar waith i hybu mwy o bobl i hyfforddi ar gyfer addysgu mathemateg a/neu wyddoniaeth. Mae'r Rheoliadau'n caniatáu bod hyd at £2,500 yn daladwy yn ystod cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant cychwynnol athrawon, mewn sefydliad achrededig yng Nghymru, mewn mathemateg, bioleg, cemeg neu ffiseg uwchradd. Bydd ail daliad o £2,500 yn daladwy i bobl sydd wedi cael y £2,500 gyntaf ac wedi dechrau swydd addysgu naill ai mathemateg, bioleg, cemeg neu ffiseg o fewn 10 mis ar ôl cwblhau eu cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon yn llwyddiannus.

Mae'r Rheoliadau yn caniatáu i'r rhai sydd wedi'u hyfforddi yn Lloegr, ac wedi cael y taliad cyntaf drwy'r cynllun cymhelliant cyfochrog yn Lloegr, ddechrau addysgu yng Nghymru a bod yn gymwys i gael yr ail £2,500.

Mae'r Rheoliadau'n diddymu Rheoliadau addysgedau athrawon blaenorol nad oes eu hangen bellach.


Notes:

[1] 1986 p.61back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672)back

[3] O.S. 1994/2016back

[4] O.S. 1995/603back

[5] 1988 p.40.back

[6] Sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38). Trosglwyddwyd pob un o swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn i'r Cynulliad gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 o 1 Gorffennaf 1999 ymlaen. Yn unol â hynny, dylid, mewn perthynas â Chymru, ddehongli cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y darpariaethau perthnasol o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986 fel cyfeiriad, neu gyfeiriad sy'n cynnwys cyfeiriad, at y Cynulliad - gweler adran 43 Deddf Llywodraeth Cymru 1998.back

[7] 1998 p.30; Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 1999 O.S. 1999/496 yw'r Rheoliadau cyfredol.back



English version



ISBN 0 11 090005 7


  Prepared 30 October 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/992816w.html