BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/992817w.html

[New search] [Help]



1999 Rhif 2817 (Cy.18)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999

  Wedi'u gwneud 31 Awst 1999 
  Yn dod i rym 1 Medi 1999 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 218(1)(a), (b), (d), (2), (2A), (2B), (3), (5), a 232(5) a (6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1998[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:



RHAN 1

CYFFREDINOL

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 1 Medi 1999.

Diddymiadau a darpariaethau trosiannol
    
2.  - (1) Bydd i Ran I o Atodlen 1 effaith o ran y diddymiadau a grybwyllir yno.

    (2) Bydd i Ran II o Atodlen 1 effaith o ran y materion trosiannol a grybwyllir yno.

Dehongli
    
3.  - (1) Ac eithrio lle bo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn  - 

    (2) Ac eithrio lle bo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn  - 

    (3) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    (4) Ac eithrio lle bo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, gall cymeradwyaeth at ddibenion y Rheoliadau hyn fod yn gymwys yn gyffredinol (yn ddarostyngedig i'r eithriadau, os oes rhai, a bennir ynddynt) neu mewn achos penodol yn unig. Ystyr "wedi'i gymeradwyo" yngln â chwrs yw wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad.

    (5) Mae unrhyw gyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu at Atodlen i hyn yn gyfeiriad at reoliad a gynhwysir yma neu at Atodlen i hyn. Mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff yn gyfeiriad at baragraff o'r rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno. Mae unrhyw gyfeiriad mewn paragraff at is-baragraff yn gyfeiriad at is-baragraff ohono.



RHAN II

DARPARIAETHAU SY'N GYMWYS I YSGOLION A SEFYDLIADAU ADDYSG BELLACH

Staffio ysgolion a sefydliadau addysg bellach
     4.  - (1) Mewn unrhyw ysgol neu sefydliad addysg bellach cyflogir staff o athrawon sy'n addas ac y mae eu nifer yn ddigon i ddibenion sicrhau bod addysg briodol i oedrannau, galluoedd, doniau ac anghenion y disgyblion neu'r myfyrwyr yn cael ei darparu gan roi sylw i unrhyw drefniadau ar gyfer defnyddio gwasanaethau'r athrawon a gyflogir y tu allan i'r ysgol neu'r sefydliad addysg bellach dan sylw.

    (2) Heb ragfarnu'r egwyddor gyffredinol paragraff (1) *mdash;

    (3) Mae'r gofyniad ym mharagraff (1) yn ychwanegol at y gofynion yngln â'r cymwysterau ar gyfer cyflogaeth mewn ysgolion a gynhwysir yn Rhan IV o'r Rheoliadau hyn.



RHAN III

DARPARIAETHAU SY'N GYMWYS YN GYFFREDINOL

    
5.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at gyflogaeth berthnasol yn gyfeiriad at gyflogaeth  - 

    (2) At ddibenion y Rhan hon, mae cyflogaeth yn cynnwys cyflogi person i roi ei wasanaethau fel athro heblaw o dan gontract cyflogaeth a dehonglir cyfeiriadau at gyflogaeth neu gyflogaeth berthnasol yn unol â hynny.

Safonau iechyd-penodiadau
    
6.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), ni chaiff person ei benodi i gyflogaeth berthnasol os nad oes ganddo'r iechyd na'r gynneddf feddyliol a chorfforol ar gyfer y gyflogaeth honno, gan roi sylw i unrhyw ddyletswydd ar y cyflogwr o dan Ran II o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995[10].

    (2) Os caiff person ei benodi'n athro am y tro cyntaf a bod y Cynulliad yn fodlon fod ganddo'r iechyd a'r gynneddf feddyliol a chorfforol i addysgu, caiff ei gyflogwyr dderbyn casgliadau'r Cynulliad ar y mater os ymddengys yn rhesymol iddynt wneud hynny.

    (3) Os caiff person a fu gynt mewn cyflogaeth berthnasol ei benodi i gyflogaeth berthnasol, caiff ei gyflogwyr ddibynnu ar gofnod meddygol y person tra oedd yn y gyflogaeth honno er mwyn penderfynu a oes gan y person yr iechyd a'r gynneddf feddyliol a chorfforol ar gyfer cyflogaeth o'r fath.

    (4) Ni fernir bod gan berson sy'n cael pensiwn ymddeol yn rhinwedd Rheoliad E4(4) o Reoliadau Pensiynau Athrawon 1997[11] (ymddeol ar sail afiechyd) yr iechyd a'r gynneddf feddyliol a chorfforol i gael ei benodi i gyflogaeth berthnasol neu i gael ei gyflogi i roi ei wasanaethau fel athro mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach heblaw o dan gontract cyflogaeth, ond ceir penodi neu gyflogi person y daeth ei hawl i bensiwn o'r fath yn weithredol cyn 1 Ebrill 1997 i wasanaethu'n rhan amser.

    (5) Nid oes dim ym mharagraff (4) yn atal penodi na chyflogi person nad yw wedi'i analluogi bellach ac y mae ei bensiwn ymddeol o'r herwydd wedi peidio â bod yn daladwy.

Safonau iechyd-parhau mewn swydd gyflogedig
     7.  - (1) Ni fydd person mewn swydd gyflogedig berthnasol yn parhau yn y swydd honno os nad oes ganddo'r iechyd a'r gynneddf feddyliol a chorfforol ar gyfer y swydd honno, gan roi sylw i unrhyw ddyletswydd ar y cyflogwr o dan Ran II o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995.

    (2) At ddibenion y rheoliad hwn, os ymddengys i'w gyflogwyr nad oes gan berson yr iechyd na'r gynneddf feddyliol neu gorfforol bellach ar gyfer ei swydd gyflogedig  - 

    (3) Ar unrhyw adeg cyn yr archwiliad meddygol y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(c) caiff y cyflogwyr, neu'r person ei hun, gyflwyno i'r meddyg penodedig ddatganiad sy'n cynnwys tystiolaeth neu ddeunydd arall sy'n berthnasol i'r archwiliad: a gall meddyg a chanddo gymhwyster priodol a benodir at y diben hwnnw gan y person sy'n cael ei archwilio fod yn bresennol yn yr archwiliad.



RHAN IV

DARPARIAETHAU SY'N GYMWYS I YSGOLION YN UNIG

Cyflogaeth y mae Rhan IV yn gymwys iddi
    
8. Yn ddarostyngedig i reoliad 9 bydd y rhan hon yn gymwys i gyflogi personau fel athrawon mewn ysgolion, onid ydynt yn cael eu cyflogi'n unig i ddarparu  - 

     9. At ddibenion y Rhan hon, mae cyflogi yn cynnwys cyflogi person i roi ei wasanaethau fel athro heblaw o dan gontract cyflogi a dehonglir cyfeiriadau at gyflogi neu at fod yn gyflogedig yn unol â hynny.

Cyflogi sydd wedi'i gyfyngu fel rheol i athrawon cymwysedig
    
10. Ac eithrio yn yr achosion ac o dan yr amgylchiadau a nodir yn Atodlen 2, ac yn ddarostyngedig i reoliadau 11, 12, 13 a 14 ni chaiff neb ei gyflogi fel athro mewn ysgol onid yw'n athro cymwysedig yn unol ag Atodlen 3.

Cyflogi athrawon disgyblion a nam ar eu clyw
    
11. Yn ddarostyngedig i reoliadau 13 a 14, ni fydd neb yn athro cymwys i gael ei gyflogi mewn ysgol fel athro dosbarth o ddisgyblion y mae ganddynt nam ar eu clyw (ac eithrio er mwyn rhoi hyfforddiant mewn crefft, masnach neu bwnc cartref), onid yw'n meddu ar gymhwyster y mae'r Cynulliad yn ei gymeradwyo am y tro at ddibenion y rheoliad hwn yn ychwanegol at fod yn athro cymwysedig yn unol ag Atodlen 3.

Cyflogi athrawon disgyblion a nam ar eu golwg
    
12. Yn ddarostyngedig i reoliadau 13 a 14, ni fydd neb yn athro cymwysedig at ddibenion cyflogaeth mewn ysgol fel athro dosbarth o ddisgyblion y mae nam ar eu golwg (ac eithrio er mwyn rhoi hyfforddiant mewn crefft, masnach neu bwnc cartref); onid yw'n meddu ar gymhwyster y mae'r Cynulliad yn ei gymeradwyo am y tro at ddibenion y rheoliad hwn yn ychwanegol at fod yn athro cymwysedig yn unol ag Atodlen 3.

Cyflogi athrawon disgyblion y mae ganddynt nam ar eu clyw a'u golwg
    
13.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 14, ni fydd neb yn athro cymwysedig at ddibenion cyflogaeth mewn ysgol fel athro dosbarth o ddisgyblion y mae ganddynt nam ar eu clyw a'u golwg (ac eithrio er mwyn rhoi hyfforddiant mewn crefft, masnach neu bwnc cartref); onid yw'n meddu ar gymhwyster y mae'r Cynulliad yn ei gymeradwyo am y tro at ddibenion y rheoliad hwn yn ychwanegol at fod yn athro cymwysedig yn unol ag Atodlen 3.

    (2) Bydd person sy'n meddu ar gymhwyster a gymeradwyir o dan reoliad 11 neu 12 yn athro cymwysedig at y diben a grybwyllir ym mharagraff (1) er nad yw'n meddu ar gymhwyster a gymeradwyir at ddibenion y paragraff hwnnw os yw ei gyflogwyr wedi'u bodloni nad oes unrhyw athro â chymhwyster o'r fath ar gael i addysgu'r dosbarth o dan sylw.

Cyflogi dros dro athrawon disgyblion a nam ar eu golwg neu nam ar eu clyw (neu'r ddau)
    
14. Gellir cyflogi person mewn ysgol arbennig fel athro dosbarth o ddisgyblion y mae ganddynt  - 

er nad yw'n athro cymwysedig yn unol â rheoliad 11, 12, neu 13(1), fel y bo'r achos, at ddibenion cyflogaeth o'r fath os yw ei gyflogwyr wedi'u bodloni ei fod yn bwriadu ennill cymhwyster a gymeradwyir gan y Cynulliad o dan reoliad 11, 12 neu 13(1), fel y bo'r achos, ar yr amod, er hynny, nad yw'r cyfnod agregedig y mae wedi'i gyflogi ar ei gyfer, mewn un neu ragor o ysgolion, fel athro'r dosbarth o ddisgyblion a grybwyllir yn is-baragraff (a), (b) neu (c), fel y bo'r achos, yn fwy na thair blynedd.


Dafydd Elis Thomas
Presiding Officer, National Assembly for Wales

31 Awst 1999



ATODLEN 1
Rheoliad 2



RHAN I:

DIDDYMIADAU

Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1993 (O.S.1993/543)
Diddymir y darpariaethau canlynol:

Rheoliadau Addysg (Athrawon)(Diwygio) 1997 (O.S.1997/368)
Diddymir y Rheoliadau cyfan yngln â Chymru.

Rheoliadau Addysg (Athrawon)(Diwygio) (Rhif 2) 1997 (O.S. 1997/2679)
Diddymir y darpariaethau canlynol:

Rheoliadau Addysg (Athrawon)(Diwygio) (O.S. 1998/1584)
Diddymir rheoliad 4 yngln â Chymru.



RHAN II

DARPARIAETHAU TROSIANNOL CYFFREDINOL

Y cymwysterau presennol ar gyfer addysgu disgyblion â nam ar eu clyw
     1. Ymdrinnir ag unrhyw berson a oedd yn union cyn 1 Medi 1999 yn meddu ar y canlynol  - 

fel person sy'n meddu ar gymhwyster a gymeradwyir at ddibenion 11.

Y cymwysterau presennol ar gyfer addysgu disgyblion a nam ar eu golwg
     2. Ymdrinnir ag unrhyw berson a oedd yn union cyn 1 Medi yn meddu ar y canlynol  - 

fel person sy'n meddu ar gymhwyster a gymeradwyir at ddibenion rheoliad 12.

Parhau i gyflogi athrawon presennol disgyblion y mae ganddynt nam ar eu clyw neu eu golwg neu'r ddau
     3. Caiff person sydd wedi bodloni gofynion rheoliad 18 o Reoliadau 1982 ar gyfer cyflogaeth mewn ysgol arbennig fel athro dosbarth o ddisgyblion a oedd yn fyddar neu'n rhannol fyddar ac yn ddall gael ei gyflogi mewn ysgol fel athro dosbarth o ddisgyblion y mae ganddynt nam ar eu clyw a'u golwg, er nad yw'n athro cymwysedig at ddibenion rheoliad 13(1).

Cyfnod cyflogi myfyrwyr-athrawon
     4. Bydd i gymeradwyaeth at ddibenion paragraff 2(2)(a) o Atodlen 3 i Reoliadau 1989 am gyfnod sy'n fwy na dwy flynedd ac y gall person gael ei gyflogi fel myfyriwr-athro ynddo effaith fel petai wedi'i rhoi at ddibenion 2(2)(a) o Atodlen 2.

Achredu sefydliadau sy'n darparu hyfforddiant cychwynnol athrawon
     5. Bydd i unrhyw achrediad at ddibenion paragraff 3 o Atodlen 3 i Reoliadau 1993 sydd mewn grym yn union cyn 1 Medi 1999 effaith fel petai wedi'i roi at ddibenion paragraff 2 o Atodlen 3.

Penderfyniadau prawf gan y Cynulliad
     6.  - (1) Yn achos person, a oedd ar 1 Medi 1992 wedi cychwyn ond heb gwblhau cyfnod prawf o dan reoliad 14 o Reoliadau 1989, ac Atodlen 6 iddynt, bydd rheoliad 14 ac Atodlen 6 yn parhau i gael effaith tan y cydymffurfir â'u holl ddarpariaethau.

    (2) Ni chaiff athro  - 

ei gyflogi fel athro mewn ysgol heb ganiatâd y Cynulliad.

Athrawon trwyddedig, athrawon sydd wedi'u hyfforddi dramor ac athrawon cofrestredig
     7. Bydd Rheoliadau 1993 yn parhau i fod yn gymwys fel petai Rheoliadau Addysg (Athrawon) (Diwygio) (Rhif 2) 1997[13] a'r Rheoliadau hyn heb gael eu gwneud at ddibenion  - 

     8. Lle cyflawnwyd swyddogaeth a roddwyd gan y Rheoliadau hyn i'r Cynulliad cyn 1 Gorffennaf 1999 gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â Rheoliadau 1982, bydd Rheoliadau 1989 neu Reoliadau 1993, bydd unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at gyflawni'r swyddogaeth honno gan y Cynulliad yn cynnwys, yngln ag unrhyw amser cyn 1 Gorffennaf 1999, yn cynnwys cyfeiriad at ei gyflawni gan yr Ysgrifennydd Gwladol.



ATODLEN 2
Rheoliad 10


ACHOSION AC AMGYLCHIADAU LLE GELLIR CYFLOGI ATHRAWON ANGHYMWYSEDIG MEWN YSGOLION




RHAN 1

CYFFREDINOL

Yr athrawon anghymwysedig presennol mewn dosbarthiadau meithrin ac mewn ysgolion meithrin
     1.  - (1) Bydd y paragraff hwn yn gymwys yn achos athro anghymwysedig y caniatawyd ei gyflogi fel athro cynorthwyol mewn ysgol feithrin neu fel athro dosbarth meithrin gan baragraff 4 o Atodlen 4 i Reoliadau 1982 ac a oedd yn cael ei gyflogi felly yn union cyn 1 Medi 1989.

    (2) Caiff athro o'r fath barhau i gael ei gyflogi fel y'i cyflogwyd yn union cyn 1 Medi 1989.

Myfyrwyr-athrawon
     2.  - (1) Bydd y paragraff hwn yn gymwys yn achos athro anghymwysedig dros 18 oed sydd naill ai-

    (2) Gellir cyflogi athro o'r fath fel athro mewn ysgol (heblaw mewn uned cyfeirio disgyblion) fel na fydd, er hynny  - 

Hyfforddwyr gyda chymwysterau neu brofiad arbennig
     3.  - (1) Bydd y paragraff hwn yn gymwys yn achos athro anghymwysedig a benodwyd neu y bwriedir ei benodi, i roi hyfforddiant mewn unrhyw grefft neu fedr neu mewn unrhyw bwnc neu grwˆp o bynciau (gan gynnwys unrhyw ffurf ar hyfforddiant galwedigaethol) y mae eu haddysgu yn gofyn am gymwysterau neu brofiad arbennig os, ar adeg ei benodiad  - 

    (2) Gellir cyflogi'r cyfryw athro mewn ysgol i roi'r hyfforddiant fel uchod, yn ddarostyngedig i baragraff (3), am y cyfnod nad oes athro cymwysedig, athro graddedig neu athro cofrestredig addas ar gael i'w benodi neu i roi hyfforddiant.

    (3) Yn achos athro o'r fath a benodwyd cyn 8 Ebrill 1982, bydd i baragraff (2) effaith fel petai'r geiriau "yn ddarostyngedig i baragraff (3)" tan y diwedd wedi'u hepgor  - 

Athrawon dros dro
     4.  - (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) isod, gellir cyflogi athro anghymwysedig mewn ysgol (heblaw mewn uned gyfeirio disgyblion)-

    (2) Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys yn achos athro anghymwysedig ar ôl i gyfnod o ddwy flynedd yn dechrau ar y diwrnod y caiff ei gyflogi gyntaf fel athro mewn ysgol ddirwyn i ben.



RHAN II

ATHRAWON GRADDEDIG

     5.  - (1) Bydd y paragraff hwn yn gymwys i berson nad yw'n athro cymwysedig ond a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â'r Rhan hon o'r Atodlen hon.

    (2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rhan hon o'r Atodlen hon, gellir cyflogi'r fath berson fel athro mewn ysgol, ac eithrio uned cyfeirio disgyblion.

     6.  - (1) Yn dilyn argymhelliad y corff, gall y Cynulliad rhoi awdurdodiad addysgu i'r person a enwir yn yr argymhelliad hwnnw.

    (2) Bydd argymhelliad i awdurdodi yn cynnwys y manylion a benderfynnir gan y Cynulliad a bydd hefyd yn cynnwys y manylion a nodir yn is-baragraffau (3) i (6).

    (3) Bydd yn cynnwys datganiad gan y corff argymell fod y person a enwir yn yr argymhelliad  - 

    (4) Bydd yn cynnwys manylion am yr hyfforddiant y bwriedir ei roi i'r person a enwir yn yr argymhelliad ac am hyd cyfnod arfaethedig yr hyfforddiant.

    (5) Bydd yn cynnwys manylion am yr ysgol neu'r ysgolion lle bwriedir neu lle gellir cyflogi'r person a enwir yn y cais (ac y mae'n bosibl na fydd, yn unol â pharagraff 5(2), yn cynnwys uned cyfeirio disgyblion).

    (6) Bydd yn cynnwys enw'r sefydliad neu'r corff a fydd yn gyflogwr i'r person.

     7. Bydd hyd cyfnod arfaethedig yr hyfforddiant yn briodol i angen y person am brofiad a hyfforddiant o addysgu ymarferol, ac yn achos argymhelliad cyntaf lle bydd y person yn cael ei gyflogi'n llawn amser, ni fydd yn llai na thri mis nac yn fwy nag un flwyddyn.

     8. Os yw'r corff argymell wedi cyflwyno argymhelliad i'r Cynulliad, gellir cyflogi'r person a enwir yn yr argymhelliad hwnnw dros dro fel athro graddedig yn yr ysgol neu'r ysgolion a bennir yn yr argymhelliad tan 14 diwrnod ar ôl i'r Cynulliad roi gwybod i'r corff argymell am ei benderfyniad i roi'r awdurdodiad neu beidio.

     9.  - (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd awdurdodiad yn parhau mewn grym am gyfnod yr hyfforddiant a gynigir yn yr argymhelliad.

    (2) Bydd awdurdodiad yn dod i ben yn unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol  - 

     10. Bydd y corff argymell yn peri i'r athro graddedig gael yn ystod cyfnod yr awdurdodiad yr hyfforddiant, y rhoddwyd y manylion amdano yn unol â pharagraff 6(4).

     11. Pan fydd awdurdodiad yn dirwyn i ben yn rhinwedd paragraff 9(2) bydd y corff argymell yn adrodd ffeithiau'r achos i'r Cynulliad.



RHAN III

ATHRAWON COFRESTREDIG

     12.  - (1) Bydd y paragraff hwn yn gymwys i berson nad yw'n athro cymwysedig ond sydd wedi cael awdurdodiad i addysgu yn unol â'r Rhan hon o'r Atodlen hon.

    (2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rhan hon o'r Atodlen hon, gellir cyflogi'r fath berson fel athro mewn ysgol, ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion.

     13.  - (1) Yn unol ag argymhelliad y corff argymell gall y Cynulliad roi awdurdodiad addysgu i'r person a enwir yn yr argymhelliad hwnnw.

    (2) Bydd argymhelliad i awdurdodi yn cynnwys y manylion hynny y bydd y Cynulliad yn penderfynu arnynt a bydd hefyd yn cynnwys y manylion a nodir yn is-baragraffau (3) i (6).

    (3) Bydd yn cynnwys datganiad gan y corff argymell fod y person a enwir yn yr argymhelliad  - 

    (4) Bydd yn cynnwys manylion o'r hyfforddiant y bwriedir ei roi i'r person a enwir yn yr argymhelliad a hyd cyfnod yr hyfforddiant arfaethedig.

    (5) Bydd yn cynnwys manylion am yr ysgol neu'r ysgolion lle bwriedir neu lle gellir cyflogi'r person a enwir yn y cais (ac na fydd, yn unol â pharagraff 12(2), yn cynnwys uned cyfeirio disgyblion).

    (6) Bydd yn cynnwys enw'r sefydliad neu'r corff a fydd yn gyflogwr i'r person.

     14. Bydd hyd cyfnod arfaethedig yr hyfforddiant yn briodol i angen y person am brofiad a hyfforddiant o addysgu ymarferol a hyfforddiant, ac yn achos argymhelliad cyntaf lle bydd y person yn cael ei gyflogi'n amser llawn, ni fydd yn llai na un flwyddyn nac yn fwy na ddwy flynedd.

     15. Lle mae'r corff argymell wedi cyflwyno argymhelliad i'r Cynulliad, gellir cyflogi'r person a enwir yn yr argymhelliad hwnnw dros dro fel athro cofrestredig yn yr ysgol neu'r ysgolion a bennir yn yr argymhelliad tan 14 diwrnod ar ôl i'r Cynulliad roi gwybod i'r corff argymell ei benderfyniad i roi'r awdurdodiad neu beidio.

     16.  - (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd awdurdodiad yn parhau mewn grym am gyfnod yr hyfforddiant a gynigir yn yr argymhelliad.

    (2) Bydd awdurdodiad yn dod i ben yn unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol  - 

     17. Bydd y corff argymell yn peri i'r athro cofrestredig gael yn ystod cyfnod yr awdurdodiad yr hyfforddiant, y rhoddwyd y manylion amdano yn unol â pharagraff 13(4).

     18. Lle mae'r awdurdodiad yn dirwyn i ben yn rhinwedd paragraff 16(2) bydd y corff argymell yn adrodd ffeithiau'r achos i'r Cynulliad.



ATODLEN 3
Rheoliadau 3(2) a 10


ATHRAWON CYMWYSEDIG A DARPARIAETHAU TROSIANNOL YN YMWNEUD AG ATHRAWON CYMWYSEDIG


     1.  - (1) Bydd person yn athro cymwysedig i ddiben rheoliad 10 (ond yn ddarostyngedig i reoliadau 11 i 13)  - 

ac yn achos person sy'n cael hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff (b) bydd y person, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (4), yn gymwysedig o'r dyddiad y bydd y Cynulliad yn ei ddarparu yn yr hysbysiad.

    (2) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4), gall y Cynulliad ddarparu i berson a grybwyllir ym mharagraffau 2 i 9 fod yn athro cymwysedig o ddyddiad nad yw'n fwy na blwyddyn cyn yr hysbysiad i'r graddau bod hynny'n briodol gan roi sylw i holl amgylchiadau'r achos.

    (3) Yn achos person a grybwyllir ym mharagraff 7 neu 9, ni fydd y Cynulliad yn darparu i'r person fod yn athro cymwysedig o ddyddiad cyn y dyddiad pan fydd yr asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff 7 neu 9 (fel y bo'r achos), wedi'i gwblhau.

    (4) Yn achos person a grybwyllir ym mharagraff 8, ni fydd y Cynulliad yn darparu i'r person fod yn athro cymwysedig o ddyddiad cyn y dyddiad pan gwblhaodd y cyfnod o wasanaeth fel athro a drwyddedwyd gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey fel a bennir yn natganiad Cyngor Addysg Taleithiau Guernsey.

     2.  - (1) Mae'r person  - 

    (2) At ddibenion y paragraff hwn  - 

     3. Mae'r person wedi cwblhau'n llwyddiannus gwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon mewn ysgolion mewn sefydliad addysgol yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

     4. Mae'r person wedi'i gofrestru fel athro addysg gynradd neu uwchradd gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.

     5. Rhoddwyd cadarnhad i'r person ei fod wedi'i gydnabod fel athro mewn ysgolion yng Ngogledd Iwerddon gan yr Adran Addysg, Swyddfa Gogledd Iwerddon, a'r cadarnhad hwnnw heb gael ei ddileu wedyn.

     6. Mae'r person yn berson sydd o ran proffesiwn athro ysgol, yn dod o dan Erthygl 3 o Gyfarwyddeb 89/48 EEC y Cyngor[15] ar system gyffredinol i gydnabod diplomâu addysg-uwch a ddyfernir i'r sawl sy'n cwblhau addysg a hyfforddiant proffesiynnol sy'n parhau am dair blynedd o leiaf, fel y'i hestynnir gan Gytundeb Ardal Economaidd Ewrop a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992[16] fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993[17].

     7.  - (1) Pan roddir awdurdodiad i'r person, mae'r corff argymell wedi cyflwyno i'r Cynulliad  - 

    (2) Mae'r datganiad yn ddatganiad bod y person  - 

    (b) wedi'i asesu gan berson cymwys fel un sy'n bodloni'r safonau penodedig; ac

    (c) yn dal gradd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol a roddwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig, neu gymhwyster o safon gyfatebol i hynny a roddwyd gan sefydliad addysgol yn rhywle arall.

    (3) Yn y paragraff hwn  - 

     8. Mae Cyngor Addysg Taleithiau Guernsey wedi cyflwyno i'r Cynulliad argymhelliad y dylid dyfarnu statws athro cymwysedig i'r person ac-

     9.  - (1) Mae'r person  - 

    (2) Yn y paragraff hwn  - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


At ei gilydd mae'r Rheoliadau hyn yn ailddeddfu'r darpariaethau presennol yn Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1993. Maent hefyd yn cyflwyno darpariaethau newydd sy'n tynhau'r moddion archwilio a gwirio sy'n ymwneud â chyflogaeth a chymwysterau athrawon

Mae'r Rheoliadau yn cynnwys amrywiaeth o fesurau sy'n ymwneud â chyflogaeth a chymwysterau athrawon mewn ysgolion yn ogystal â newidiadau sy'n deillio o'r fframwaith newydd i ysgolion a amlinellir yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Byddant yn:

  • darparu ar gyfer staffio ysgolion a gynhelir a rhai sefydliadau addysg bellach;

  • ei gwneud yn ofynnol bod cyflogwyr athrawon a rhai aelodau eraill o staff mewn ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach yn fodlon ar iechyd a chyneddfau corfforol a meddyliol eu staff;

  • adlewyrchu darpariaethau Deddf Gwahaniaethau ar Sail Anabledd 1995;

  • darparu bod athrawon a gyflogir mewn ysgolion a gynhelir yn athrawon cymwysedig, gyda rhai eithriadau, ac yn gwneud darpariaeth arbennig i athrawon disgyblion a nam ar eu clyw, a nam ar eu golwg ac a nam ar eu clyw a'u golwg;

  • darparu bod person sy'n athro cymwysedig at ddibenion Rheoliadau sy'n ymwneud â chymywso athrawon yn Lloegr yn cael ei drin yn gyfartal fel athro cymwysedig yng Nghymru.

    Nid yw'r Rheoliadau hyn yn disodli darpariaethau sy'n ymwneud â gwahardd a gynhwysir yn Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1993.


    Notes:

    [1] 1988 p.40; diwygiwyd adran 218 gan baragraff 49 o Atodlen 8 ac Atodlen 9 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13), adran 290 o Ddeddf Addysg 1993 (p.35), adrannau 290 a 291 o Ddeddf Addysg 1993 (p.35), adran 14 o Ddeddf Addysg 1994 (p.30), paragraff 76 o Atodlen 37 ac Atodlen 38 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56), Adran 49 o Ddeddf Addysg 1997 (p.44), ac Atodlen 4 i Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30). Mae adran 218 wedi'i diwygio'n rhagolygol gan adrannau 11, 13 ac 18 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, a pharagraff 17 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Diwygiwyd adran 232(6) gan adran 14 o Ddeddf Addysg 1994 a pharagraff 6 o Atodlen 3 ac Atodlen 4 i Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.back

    [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/1672).back

    [3] Sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38). Trosglwyddwyd holl swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn i'r Cynulliad gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 o 1 Gorffennaf 1999 ymlaen. Yn unol â hynny, dylid dehongli, mewn perthynas â Chymru, gyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr adrannau perthnasol o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 a'r Atodlenni iddi fel cyfeiriad, neu fel petai'n cynnwys cyfeiriad, at y Cynulliad. Gweler adran 43 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.back

    [4] 1985 p.6.back

    [5] O.S. 1959/364; O.S. 1968/1281, 1969/1777, 1971/342, 1973/2021 a 1975/1054 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back

    [6] O.S. 1959/365; O.S. 1968/1281 a 1971/342 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back

    [7] O.S. 1982/106 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1988/542 a 1989/329.back

    [8] O.S. 1989/1319.back

    [9] O.S. 1993/543.back

    [10] 1995 p.50back

    [11] .S. 1997/3001 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

    [12] O.S.1959/365; O.S. 1968/1281 a 1971/342 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back

    [13] O.S. 1997/2679.back

    [14] O.S. 1993/543; amnewidiwyd Atodlen 3 newydd gan O.S.1997/2679.back

    [15] OJ Rhif L19, 24.1.89, t16.back

    [16] Gorch 2073.back

    [17] Gorch 2183.back



    English version



    ISBN 0 11 090006 5


      Prepared 30 October 2001


    BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
    URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/992817w.html