BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Offerynnau Statudol 1999 Rhif 2888 (Cy. 25)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/992888w.html

[New search] [Help]



1999 Rhif 2888 (Cy. 25)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwerthuso Athrawon Ysgol) (Cymru) 1999

  Wedi'u gwneud 31 Awst 1999 
  Yn dod i rym 1 Medi 1999 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 49 a 63(3) o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986[1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] ac wedi ymgynghori yn unol ag adran 49(4) o'r Ddeddf â'r cymdeithasau hynny o awdurdodau lleol, a chynrychiolwyr athrawon, ag yr oedd yn ymddangos eu bod yn berthnasol phersonau eraill yr oedd yn ymddangos yn ddymunol ymgynghori â hwy:

Enwi, cychwyn, hyd a lled a darpariaeth drosiannol
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwerthuso Athrawon Ysgol) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 1 Medi 1999.

    (2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag athrawon ysgol mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru, ac, mewn perthynas â'r athrawon ysgol hynny, daw effaith Rheoliadau Addysg (Gwerthuso Athrawon Ysgol) 1991[
3] ("Rheoliadau 1991") i ben.

    (3) Bydd i unrhyw beth a wnaed cyn 1 Medi 1999 gan neu mewn perthynas ag athro o dan unrhyw ddarpariaeth a gynhwyswyd yn Rheoliadau 1991 effaith, ar y dyddiad hwnnw, fel pe bai wedi'i wneud o dan y darpariaethau cyfatebol yn y Rheoliadau hyn.

Dehongli
     2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall  - 

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, nid yw unrhyw gyfeiriad at ysgol gymunedol neu arbennig gymunedol, wirfoddol a reolir, wirfoddol a gynorthwyir, neu sefydledig neu arbennig sefydledig yn cynnwys unrhyw ysgol o'r fath sy'n ysgol a gynhelid gynt â grant.

Y ddyletswydd i werthuso
     3. Dyletswydd pob corff gwerthuso fydd sicrhau bod perfformiad yr athrawon ysgol y maent yn gorff gwerthuso ar eu cyfer wrth gyflawni eu dyletswyddau yn cael ei werthuso yn rheolaidd yn unol â'r Rheoliadau hyn.

Nodau gwerthuso
    
4.  - (1) Bydd y cyrff gwerthuso'n sicrhau bod gwerthuso yn helpu  - 

    (2) Wrth gyflawni eu dyletswydd o dan Reoliad 3, bydd y cyrff gwerthuso'n anelu at wella ansawdd addysg ar gyfer disgyblion, drwy helpu athrawon ysgol i wireddu eu potensial ac i gyflawni eu dyletswyddau'n fwy effeithiol.

    (3) Yn benodol, bydd gweithdrefnau gwerthuso'n anelu at  - 

    (4) Ni fydd gweithdrefnau gwerthuso'n ffurfio rhan o unrhyw weithdrefnau disgyblu neu ddiswyddo, ond fe all datganiadau gwerthuso gael eu defnyddio at y dibenion a bennir yn Rheoliad 14.

Y cylch gwerthuso
    
5.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (4), bydd cylch gwerthuso pob athro ysgol yn gyfnod parhaus o ddwy flynedd.

    (2) Os bydd yr athro ysgol yn symyd i swydd mewn ysgol arall neu i swydd newydd yn bennaeth, bydd y cylch gwerthuso yn dechrau eto.

    (3) Os bydd yr athro ysgol yn symud i swydd newydd yn yr un ysgol, gall y pennaeth benderfynu bod y cylch gwerthuso yn dechrau eto.

    (4) Os daw'r athro ysgol yn bennaeth dros dro, caiff y corff gwerthuso benderfynu  - 

     6. Dyletswydd y corff gwerthuso fydd sicrhau bod pob athro ysgol y maent yn gorff gwerthuso ar ei gyfer yn destun cylch gwerthuso, a bod y cylch gwerthuso, ar ôl ei ddechrau ar gyfer unrhyw athro ysgol, yn gylch di-dor.

    
7. Dyletswydd corff llywodraethu ysgol heblaw ysgol a gynhelid gynt â grant fydd sicrhau y cydymffurfir, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol iddynt wneud hynny, yn eu hysgol â threfniadau yn unol â'r Rheoliadau hyn a wneir gan yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol a rhoi'r cymorth i'r awdurdod hwnnw y gofynnir yn rhesymol amdano mewn cysylltiad â'r trefniadau hynny.

Gweithdrefnau gwerthuso
    
8.  - (1) Bydd yr awdurdod addysg lleol yn penodi dau werthuswr ar gyfer pennaeth pob ysgol gymunedol, pob ysgol wirfoddol a reolir neu bob ysgol arbennig gymunedol a gynhelir ganddynt, wedi ymgynghori â chorff llywodraethu yr ysgol.

    (2) Bydd yr awdurdod addysg lleol a chorff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig yn ceisio cytuno ar benodi dau werthuswr ar gyfer pennaeth yr ysgol. Yn niffyg cytundeb o'r fath, rhaid i'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu benodi un gwerthuswr yr un.

    (3) Bydd corff llywodraethu ysgol a gynhelid gynt â grant yn penodi dau werthuswr ar gyfer pob pennaeth.

    (4) Bydd gwerthuswyr pennaeth yn cynnwys un person sy'n cael ei gyflogi neu sydd wedi cael ei gyflogi  - 

a'r rheiny, ym marn y corff gwerthuso, yn ystod y gyflogaeth honno wedi cael profiad sy'n berthnasol i amodau presennol yr ysgol lle cyflogir y pennaeth.

    (5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i'r pennaeth benodi gwerthuswr (a all fod y pennaeth) i bob athro arall yn yr ysgol ag fe gaiff benodi gwerthuswr newydd yn lle un o'r gwerthuswyr presennol ar unrhyw adeg.

    (6) Caiff y corff gwerthuso benderfynu penodi dau werthuswr ar gyfer dirprwy bennaeth.

    (7) Caiff y person sy'n gyfrifol am benodi gwerthuswr pennaeth o dan y Rheoliad hwn benodi gwerthuswr newydd yn lle un o'r gwerthuswyr lle bo'n angenrheidiol.

    (8) Lle bo gwerthuswr wedi'i benodi gan awdurdod addysg lleol neu gan y corff llywodraethu, fel bo'r achos, o dan baragraff (2) mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig, gwneir y penodiad y cyfeirir ato yn y paragraff blaenorol gan y person a wnaeth y penodiad blaenorol.

    (9) Bydd y cylch gwerthuso'n parhau er gwaethaf unrhyw newid gwerthuswr.

    
9.  - (1) Ar ddechrau neu tua dechrau'r cylch gwerthuso ar gyfer pennaeth, bydd y gwerthuswyr a'r pennaeth yn cyfarfod i gynllunio'r gwerthusiad a pharatoi ato.

    (2) Wrth werthuso athro ysgol nad yw'n bennaeth, yn ystod blwyddyn gyntaf y cylch gwerthuso, bydd y gwerthuswr yn arsylwi ar yr athro ysgol wrth iddo addysgu o leiaf ddwywaith.

    (3) Bydd o leiaf un o werthuswyr y pennaeth, yn ystod blwyddyn gyntaf y cylch gwerthuso yn arsylwi ar y pennaeth naill ai wrthi'n addysgu neu'n perfformio dyletswyddau eraill; bydd yr arsylwi hwn yn cynnwys arsylwi o leiaf ddwywaith gan yr un gwerthuswr.

    (4) Heb ymgynghori'n gyntaf â'r athro ysgol, ni chaiff y gwerthuswr sicrhau gwybodaeth, ysgrifenedig neu lafar, sy'n berthnasol i berfformiad yr athro ysgol, oddi wrth unrhyw bersonau eraill.

    
10.  - (1) Cyn diwedd blwyddyn gyntaf y cylch gwerthuso, bydd y gwerthuswr yn cynnal cyfweliad gwerthuso gyda'r athro ysgol gyda'r nod o adolygu gwaith yr athro ysgol, nodi cyrraeddiadau'r athro ysgol ac agweddau lle byddai datblygiadau pellach yn ddymunol, gan nodi unrhyw anghenion o ran hyfforddi a datblygu, a chan bennu targedau ar gyfer gweithredu am weddill y cylch gwerthuso.

    (2) Ar ôl pob cyfweliad gwerthuso, mewn ymgynghoriad a'r athro ysgol, bydd y gwerthuswr yn paratoi datganiad gwerthuso ysgrifenedig yn cofnodi'r prif bwyntiau a wnaed gan y gwerthuswr a'r athro ysgol yn y cyfweliad a'r casgliadau y daethpwyd iddynt, gan gynnwys unrhyw dargedau ar gyfer gweithredu sydd i'w cofnodi mewn atodiad ar wahân i'r datganiad gwerthuso (ond a fydd yn ffurfio rhan ohono).

    (3) O fewn ugain niwrnod gwaith o gael gweld y datganiad gwerthuso gyntaf, caiff yr athro ysgol ychwanegu sylwadau ysgrifenedig ato.

    (4) Bydd y gwerthuswr yn rhoi copi o'r datganiad gwerthuso i'r athro ysgol.

    
11.  - (1) Bydd gan athro ysgol hawl i gwyno am ddatganiad gwerthuso o fewn ugain niwrnod gwaith ar ôl cael ei weld gyntaf.

    (2) Os ceir cyn gan athro ysgol nad yw'n bennaeth, rhaid i'r pennaeth, neu os y pennaeth yw'r gwerthuswr, rhaid i'r corff gwerthuso benodi person sydd â gwybodaeth berthnasol neu brofiad perthnasol mewn addysg sydd heb gymryd rhan yn y gwerthusiad y cwynwyd amdano fel swyddog adolygu i gynnal adolygiad o'r gwerthusiad hwnnw.

    (3) Os ceir cyn gan bennaeth ysgol a gynhelid gynt â grant, ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol arbennig gymunedol, bydd y corff gwerthuso'n penodi dau swyddog adolygu sydd heb gymryd rhan yn y gwerthusiad y cwynwyd amdano i gynnal adolygiad o'r gwerthusiad hwnnw.

    (4) Os ceir cyn gan bennaeth ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig, bydd yr awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu yn ceisio cytuno ar benodi dau swyddog adolygu sydd heb gymryd rhan yn y gwerthusiad y cwynwyd amdano i gynnal adolygiad o'r gwerthusiad hwnnw. Yn niffyg cytundeb o'r fath, bydd yr awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu'n penodi un swyddog adolygu yr un.

    (5) Bydd y swyddog adolygu'n cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a wneir gan yr athro ysgol.

    (6) Caiff y swyddog adolygu  - 

    (7) Lle gorchmynir gwerthusiad newydd o dan baragraff 11(6)(c), penodir gwerthuswr newydd o dan Reoliad 8 a rhaid dilyn y weithdrefn werthuso o dan Reoliadau 9, 10 a 12.

    
12.  - (1) O leiaf unwaith cyn diwedd ail flwyddyn y cylch gwerthuso, bydd y gwerthuswr a'r athro ysgol yn cyfarfod i adolygu'r datganiad gwerthuso a'r cynnydd wrth gyrraedd unrhyw dargedau ar gyfer gweithredu ac i bennu targedau diwygiedig ar gyfer gweithredu.

    (2) Ar ôl y cyfarfod, mewn ymgynghoriad â'r athro ysgol, bydd y gwerthuswr yn paratoi nodyn ysgrifenedig (a fydd yn ffurfio rhan o'r datganiad gwerthuso) o'r prif bwyntiau a wnaed gan y gwerthuswr a'r athro ysgol ac o'r casgliadau y daethpwyd iddynt.

Defnyddio cofnodion gwerthuso a'u cadw
    
13.  - (1) Yn achos athro ysgol nad yw'n bennaeth  - 

    (2) Yn achos pennaeth  - 

    (3) Lle penodir gwerthuswr newydd heblaw ar ddechrau cylch gwerthuso, bydd y corff gwerthuso'n sicrhau ei fod yn cael copi o unrhyw ddatganiad gwerthuso cyfredol.

    (4) Cedwir datganiad gwerthuso gan y pennaeth am o leiaf dri mis ar ôl pennu manylion terfynol y datganiad gwerthuso nesaf.

    
14.  - (1) Gall gwybodaeth berthnasol o gofnodion gwerthuso gael ei chymryd i ystyriaeth gan benaethiaid, Prif Swyddogion Addysg neu unrhyw swyddogion neu gynghorwyr a ddynodir yn unswydd gan Brif Swyddog Addysg o dan Reoliad 13(1)(b) neu (2)(a) wrth gynghori'r rhai sy'n gyfrifol am gymryd penderfyniadau ar ddyrchafu, diswyddo neu ddisgyblu athrawon ysgol neu ar ddefnyddio unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl.

    (2) Bydd y rhai sy'n gyfrifol am gynllunio hyfforddiant a datblygiad athrawon ysgol mewn ysgol (gan gynnwys swyddogion priodol neu gynghorwyr yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol) yn cael manylion unrhyw dargedau ar gyfer gweithredu sy'n ymwneud â hyfforddiant a datblygiad.


Llywydd,
Cynulliad Cenedlaethol Cymru

31 Awst 1999



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r trefniadau ar gyfer gwerthuso athrawon mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru a fydd mewn grym o 1 Medi 1999.

Maent yn disodli'r rheoliadau presennol sef Rheoliadau Addysg (Gwerthuso Athrawon Ysgol) 1991, sy'n cael eu gwneud o dan adrannau 49 a 63 o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986, ac maent yn gymwys yng Nghymru a Lloegr.

Newidiodd Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 y fframwaith ar gyfer ysgolion ac felly ni fydd y mathau o ysgolion a ddiffinir yn rheoliadau 1991 yn bodoli bellach. Mae'r rheoliadau hyn yn cymhwyso'r trefniadau gwerthuso presennol i'r categorïau newydd o ysgolion cyn gynted ag y cânt eu sefydlu.

Yn sgil hynny, yr awdurdod addysg lleol fydd y corff gwerthuso i athrawon ym mhob ysgol a gynhelir, heblaw ysgolion a gynhelid gynt â grant ac ysgolion arbennig a gynhelid gynt â grant. Bydd y corff llywodraethu yn parhau i fod yn gorff gwerthuso i'r ysgolion a gynhelid gynt â grant ac ysgolion arbennig a gynhelid â grant. Caiff athrawon mewn ysgolion yn y categorïau newydd o ysgolion sefydledig ac ysgolion arbennig sefydledig eu trin yn yr un ffordd ag athrawon mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir at ddibenion gwerthuso.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau i gymryd i ystyriaeth dileu cyfnod prawf athrawon sydd newydd gymhwyso. Diwygir y diffiniad o "athro cymwysedig" am fod Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1989, y cyfeiria'r diffiniad atynt, wedi'u diddymu a'u disodli.


Notes:

[1] 1986 p.61 Diwygir adran 49 gan baragraffau 36 a 101 o Atodlen 12 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), gan baragraff 23 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13) a chan baragraff 14 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Diwygiwyd adran 63(3) gan baragraff 107 o Atodlen 19 i Ddeddf Addysg 1993 (p.35). Ar gyfer materion sydd i'w rhagnodi gweler adran 67(3) o Ddeddf 1986 (a ddiwygiwyd gan baragraff 66 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56) ac adran 579(1) o'r Ddeddf honno.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1991/1511.back

[4] 1988 p.40back



ISBN 0 11 090007 3


English version



  Prepared 29 October 1999


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/992888w.html