BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tir Gofal a Ffermio Organig (Diwygio) (Cymru) 1999
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/993337w.html

[New search] [Help]



1999 Rhif 3337 (Cy.45)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Tir Gofal a Ffermio Organig (Diwygio) (Cymru) 1999

  Wedi'u gwneud 2 Rhagfyr 1999 
  Yn dod i rym 4 Rhagfyr 1999 

Gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Gofal a Ffermio Organig (Diwygio) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 4 Rhagfyr 1999.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 1999
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 1999[3] yn unol â'r paragraffau canlynol.

    (2) Ar ôl is-baragraff (e) o baragraff (4) o reoliad 3 mewnosodir yr is-baragraff canlynol - 

    (3) Yn is-baragraff (d) o baragraff (4) o reoliad 3 wedi'r gwahannod fe ddilëer y gair "and" ac yn is-baragraff (e) o'r un paragraff rhoddir y geiriau "activity; and" yn lle "activity.".

    (4) Ar ôl rheoliad 9 mewnosodir y rheoliad canlynol - 

    (5) Ym mharagraff (b) o reoliad 5, rhoddir "regulations 7, 8, 9A a 10" yn lle "regulations 7 and 8".

Diwygio Rheoliadau Ffermio Organig (Cymru) 1999
    
3  - (1) Diwygir Rheoliadau Ffermio Organig 1999[4] yn unol â'r paragraffau canlynol.

    (2) Rhoddir yr is-baragraffau canlynol yn lle is-baragraffau (a) a (b) ym mharagraff (1) o reoliad (6) - 

    (3) Ar ôl rheoliad 6 mewnosodir y rheoliad canlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cendlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd

2 Rhagfyr 1999



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 1999 ("Rheoliadau Tir Gofal") a Rheoliadau Ffermio Organig (Cymru) 1999 ("y Rheoliadau Ffermio Organig").

Mae'r Rheoliadau Tir Gofal yn cynnwys darpariaethau cynllun amaeth-amgylcheddol sy'n gweithredu'n rhannol raglen gylchfaol a gymeradwywyd gan y Comisiwn Ewropeaidd o dan Erthygl 7 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2078/92 (OJ Rhif L215, 30.7.92, t.85) ar ddulliau cynhyrchu amaethyddol sy'n cyd-fynd â'r gofynion ar gyfer diogelu'r amgylchedd a chynnal cefn gwlad ("y Rheoliad Amaeth-Amgylcheddol"). Mae'r Rheoliadau Tir Gofal yn darparu ar gyfer talu cymorth i unrhyw berson sy'n gwneud cytundeb Tir Gofal â Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

Mae'r Rheoliadau Ffermio Organig yn darparu ar gyfer talu cymorth i ffermwyr sy'n ymrwymo i gyflwyno dulliau ffermio organig ac yn cydymffurfio ag amodau rheoli penodol, yn unol ag Erthygl 2(1)(a) a (d) y Rheoliad Amaeth-Amgylcheddol. Diddymwyd y Rheoliad Amaeth-Amgylcheddol gan Erthygl 55(1) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/99 (OJ Rhif L160, 26.6.99 t.80), ond, yn rhinwedd Erthygl 55(3) o'r Rheoliad olaf, mae'r Rheoliad Amaeth-Amgylcheddol yn parhau i fod yn gymwys i'r camau a gaiff eu cymeradwyo gan y Comisiwn cyn 1 Ionawr 2000.

Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau Tir Gofal - 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau Ffermio Organig:


Notes:

[1] Yn rhinwedd Gorchymyn Cymunedau Ewrop (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. Rhif 1999/2788).back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. Rhif 1999/1176.back

[4] O.S. Rhif 1999/2611.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090017 0


  Prepared 30 October 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/993337w.html