BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 1999
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/993439w.html

[New search] [Help]



1999 Rhif 3439 (Cy. 47)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 1999

  Wedi'u gwneud 17 Rhagfyr 1999 
  Yn dod i rym 31 Rhagfyr 1999 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4), 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol[1] a pharagraffau 4, 5 a 6 o Atodlen 8 iddi, ac a freiniwyd bellach ynddo i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]:

Enwi, cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 1999 a byddant yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 1999.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "Rheoliadau 1992" yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992[
3].

Diwygio Rheoliadau 1992
     2. Yngln â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2000, diwygir Atodlenni 1, 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn: - 

    (a) ym mharagraff 4(1) o Atodlen 1, yn lle'r fformwla "(A × £39.50) + (B × 0.00087)" y rhoddir y fformwla "(A × £39.90) + (B × 0.00078)";

    (b) ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 yn lle "0.999" y rhoddir "1.005";

    (c) yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 y rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Rhagfyr 1999



ATODLEN





EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio yng Nghymru dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chynhwysir rheolau i gyfrifo'r cyfraniadau hynny yn Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r rheolau hynny drwy roi fformwla newydd ym mharagraff 4(1) o Atodlen 1 (didyniadau o'r swm gros), lluosydd newydd ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 (rhagdybiaethau yngln â'r swm gros) ac Atodlen 4 newydd (ffigurau poblogaeth oedolion).


Notes:

[1] 1988 p.41.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.back

[3] O.S. 1992/3238, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/3018, 1997/3003 a 1998/2962.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090024 3


  Prepared 30 October 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/993439w.html