BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Sefydlu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro 1999
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/993451w.html

[New search] [Help]



1999 Rhif 3451 (Cy.49)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Sefydlu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro 1999

  Wedi'i wneud 15 Rhagfyr 1999 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 5(1) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990[1] a pharagraffau 1,3,4 a 5 o Atodlen 2 iddi, adran 25(2) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[2] a phob per arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3], ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad a ragnodir o dan adran 5(2) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990[4]:

Enwi cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sefydlu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro 1999 a daw i rym ar 1 Ionawr 2000.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn  - 

Sefydlu'r ymddiriedolaeth
    
2. Sefydlir drwy hyn Ymddiriedolaeth NHS a elwir Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro neu Cardiff and Vale National Health Service Trust.

Natur a swyddogaethau'r ymddiriedolaeth
    
3.  - (1) Sefydlir yr ymddiriedolaeth at y dibenion a bennir yn adran 5(1) o'r Ddeddf.

    (2) Darparu nwyddau a gwasanaethau er diben y gwasanaeth iechyd o'r ysbytai a bennir ym mharagraff (3) neu o ysbytai a thir ac adeiladau cysylltiol fydd swyddogaethau'r ymddiriedolaeth.

    (3) Dyma'r ysbytai a bennir er diben paragraff (2)  - 

Cyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth
    
4.  - (1) Yn ychwanegol at y cadeirydd, bydd gan yr ymddiriedolaeth 7 cyfarwyddwr anweithredol a 5 o gyfarwyddwyr gweithredol.

    (2) Gan y bydd yr ymddiriedolaeth yn cael ei hystyried fel un a chanddi ymrwymiad addysgu sylweddol o fewn ystyr y paragraff 3(1)(d) o Atodlen 2 i'r Ddeddf, penodir un o'r cyfarwyddwyr anweithredol o Brifysgol Cymru.

Dyddiad gweithredol a dyddiad cyfrifo'r ymddiriedolaeth
    
5.  - (1) 1 Ebrill 2000 fydd dyddiad gweithredol yr ymddiriedolaeth.

    (2) 31 Mawrth fydd dyddiad cyfrifo'r ymddiriedolaeth.

Swyddogaethau cyfyngedig cyn y dyddiad gweithredol
    
6. Rhwng ei dyddiad sefydlu a'i dyddiad gweithredol bydd gan yr ymddiriedolaeth y swyddogaethau canlynol  - 

Cymorth gan awdurdodau iechyd cyn y dyddiad gweithredol
    
7.  - (1) Bydd Awdurdod Iechyd Bro Taf  - 

    (2) Bydd Awdurdod Iechyd Bro Taf yn talu dyledion yr ymddiriedolaeth, y bydd wedi mynd iddynt rhwng y dyddiad sefydlu a'r dyddiad gweithredol, ac sy'n cyd-fynd â'r disgrifiad a nodir ym mharagraff (3) o'r erthygl hon.

    (3) Mae'r dyledion y cyfeirir atynt yn y paragraff blaenorol fel a ganlyn  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.[
5]


Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd

15 Rhagfyr 1999



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro fel Ymddiriedolaeth NHS o dan adran 5 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990, fel y'i diwygiwyd, yn benodol, gan Ddeddf Iechyd 1999.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn gyfrifol am y gwasanaethau a reolwyd gynt gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Llandoche ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymunedol Caerdydd a'r Cylch. Darperir ar gyfer diddymu'r ddwy ohonynt, o 1 Ebrill 2000 ymlaen, gan Orchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru)(Diddymu Rhif 2) 1999.

Mae'r Gorchymyn Sefydlu yn darparu ar gyfer enw'r Ymddiredolaeth (erthygl 2); swyddogaethau'r Ymddiriedolaeth (erthygl 3); ar gyfer nifer y cyfarwyddwyr anweithredol, y mae un ohonynt i'w benodi o Brifysgol Cymru i adlewyrchu ymrwymiad addysgu sylweddol yr Ymddiriedolaeth, a nifer y cyfarwyddwyr gweithredol (erthygl 4); ar gyfer y dyddiad (1 Ebrill 2000) pan fydd yr Ymddiriedolaeth yn llwyr weithredol ac ar gyfer ei dyddiad cyfrifo (erthygl 5); ar gyfer cyflawni swyddogaethau cyn y dyddiad gweithredol (erthygl 6); ac ar gyfer atebolrwydd dros dreuliau'r Ymddiriedolaeth a'r dyledion eraill yr eir iddynt rhwng dyddiad ei sefydlu a'r dyddiad pan fydd yn ysgwyddo ei holl swyddogaethau (erthygl 7).


Notes:

[1] 1990 p.19; diwygiwyd adran 5(1) a pharagraff 3(2) o Atodlen 2 gan adran 13(1) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"); enwir paragraff 1 o Atodlen 2 ar gyfer dehongli cyfeiriadau at "an order" o dan adran 5(1); diwygiwyd paragraffau 3, 4 a 5 gan baragraff 85 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995").back

[2] 1993 p.38.back

[3] Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 5 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990, ac Atodlen 2 iddi, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[4] Disodlwyd adran 5(2) gan baragraff 69 o Atodlen 1 i Ddeddf 1995.back

[5] 1998 p38back



English version



ISBN 0 11 090020 0


  Prepared 30 October 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/993451w.html