BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
1999 Rhif 3453 (Cy.50)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999
|
Wedi'u gwneud |
22 Rhagfyr 1999 | |
|
Yn dod i rym |
30 Rhagfyr 1999 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 53(1) a (2), 140(4) a 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1], ac a freiniwyd ynddo bellach i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru[2];
Enwi, cychwyn a dehongli
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 1999.
(2) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "person dynodedig" mewn perthynas â rhestr ardrethu canolog i Gymru, a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny, yw person a ddynodwyd gan reoliad 3(1) o'r Rheoliadau hyn("designated person");
ystyr "rhestr ardrethu canolog" yw'r rhestr ardrethu annomestig canolog i Gymru ("central rating list").
(3) Cyfeiriad at hereditament annomestig perthnasol yw pob cyfeiriad at hereditament yn y Rheoliadau hyn.
(4) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at berson dynodedig wrth ei enw yn gyfeiriad at y cwmni neu'r corff a gofrestrwyd gan yr enw hwnnw, neu sy'n dwyn yr enw hwnnw, ar y dyddiad y cofnodwyd yr enw hwnnw ar y rhestr ardrethu canolog.
(5) Mae i unrhyw derm a ddefnyddir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu unrhyw Ran o'r Atodlen yr ystyr a briodolir iddo yn yr Atodlen honno neu'r Rhan honno.
Cymhwyso'r Rheoliadau
2.
Bydd effaith i'r Rheoliadau hyn mewn perthynas ag unrhyw restr ardrethu canolog a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny.
Dynodi personau a disgrifio hereditamentau
3.
- (1) At ddibenion adran 53(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 -
(a) Dynoder yma drwy hyn y personau a enwir yn yr Atodlen; a
(b) Rhagnoder yma drwy hyn, mewn perthynas â phob un o'r personau hynny, ddisgrifiad o'r hereditament a roddir islaw enw'r person hwnnw yn yr Atodlen.
(2) Ni fydd Rheoliad 6 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) 1989[3](hereditamentau croesffiniol) yn gymwys i unrhyw hereditament sy'n dod o fewn unrhyw ddisgrifiad yn yr Atodlen.
Cynnwys y rhestr ardrethu canolog
4.
Rhaid i'r rhestr ardrethu canolog ddangos, am bob dydd ym mhob blwyddyn y bydd y rhestr honno mewn grym -
(a) enw pob person a ddynodir gan reoliad 3; a
(b) gyferbyn â phob enw, bob hereditament a leolir yng Nghymru a feddiennir ar y diwrnod dan sylw (neu, os nas meddiennir ef, a berchnogir) gan y person hwnnw, ac sy'n dod o fewn y disgrifiad a ragnodir mewn perthynas â'r person hwnnw gan y rheoliad hwnnw.
5.
- (1) Yn ogystal, rhaid i'r rhestr ardrethu canolog ddangos, gyferbyn ag enw pob person dynodedig -
(a) os cwmni cofrestredig yw'r person, ei swyddfa gofrestredig, ac ym mhob achos arall ei brif le busnes o fewn y Deyrnas Unedig;
(b) os cwmni cofrestredig yw'r person, ei rif cofrestredig; ac
(c) y diwrnod cyntaf, os yw'n ddiweddarach na 1 Ebrill 2000, pan fydd effaith i'r gwerth ardrethol a ddangosir ar y rhestr wrth enw'r person dynodedig
(2) Yn ogystal, rhaid i'r rhestr ardrethu canolog ddangos, os bydd y rhestr wedi'i newid yn unol â chyfarwyddyd gan dribiwnlys, enw'r tribiwnlys a roddodd y cyfarwyddyd.
Hereditamentau Rheilffyrdd
6.
- (1) Diwygier Rheoliad 3 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994[4] yngln â Chymru fel a ganlyn.
(2) Hepgorer y diffiniad o "the British Railways Board" ym mharagraff (1).
(3) Yn lle paragraff (1)(b)(i) mewnosoder -
(4) Ychwaneger ar ddiwedd paragraff (1) -
"
and 'relevant person' means -
(i) any person designated and named as mentioned in sub-paragraph (b)(i) above, or
(ii) any licence exempt operator or licence holder which is not so designated".
(5) Hepgorer -
(a) paragraff (2),
(b) y geiriau '(other than the Board') ym mharagraff (3)(a)(ii), ac
(c) y geiriau o'r dechrau hyd at 'the Board and' ym mharagraff (4).
Diddymiadau ac eithriadau
7.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), diddymer drwy hyn yngln â Chymru o 1 Ebrill 2000 ymlaen, y canlynol -
(a) Rheoliadau Rhestri Ardrethu Canolog 1994[5];
(b) Rheoliadau Rhestri Ardrethu Canolog (Diwygio) 1996[6].
(2) Bydd y darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (1) yn parhau i fod ag effaith ar 1 Ebrill 2000 ac ar ôl hynny at ddibenion y canlynol neu at ddibenion sy'n gysylltiedig â'r canlynol -
(a) unrhyw newid i'r rhestr sydd mewn grym yn union cyn 1 Ebrill 2000; neu
(b) unrhyw ddarpariaeth a wnaed gan reoliadau a wnaed o dan adran 58([7] o Ddeddf 1988 (darpariaeth arbennig ar gyfer 1995 ymlaen) sy'n ymwneud â'r swm sy'n daladwy mewn perthynas â hereditament am gyfnod perthnasol fel a ddiffinnir yn yr adran honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.[8]
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Rhagfyr 1999
ATODLENRheoliad 3
RHAN
1
HEREDITAMENTAU CAMLESI
Person dynodedig
Bwrdd Ffyrdd Dr Prydain
Hereditamentau perthnasol
Yr hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 5(2) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994
RHAN
2
HEREDITAMENTAU CYFLENWI TRYDAN
Person dynodedig
The National Grid Company plc
Hereditamentau perthnasol
Hereditamentau (ar wahân i hereditamentau a eithrir) a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at drawsffurfio neu drawsyrru per trydanol, neu at ddibenion ategol
Person dynodedig
Manweb plc
Midlands Electricity plc
South Wales Electricity plc
Hereditamentau perthnasol
Hereditamentau (ar wahân i hereditamentau a eithrir) a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at swyddogaethau cyflenwr trydan cyhoeddus, neu at ddibenion ategol
Yn y Rhan hon -
ystyr "hereditament a eithrir" yw hereditament sy'n cynnwys tir ac adeiladau a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf -
(a) fel siop neu le arall ar gyfer gwerthu, arddangos neu ddangos cyfarpar neu atodion at ddefnydd defnyddwyr trydan (gan anwybyddu unrhyw ddefnydd ar gyfer derbyn taliadau am ddefnyddio trydan);
(b) fel adeiladau swyddfa person dynodedig, os na fydd yr adeiladau hynny ar dir gweithredol y person hwnnw; neu
(c) at y naill a'r llall o'r dibenion blaenorol; ac
mae i "cyflenwr trydan cyhoeddus" yr un ystyr ag sydd i "public electricity supplier" yn adran 6(9) o Ddeddf Trydan 1989[9].
RHAN
3
HEREDITAMENTAU NWY
Person dynodedig
BG plc
Hereditamentau perthnasol
Hereditamentau (ar wahân i hereditamentau a eithrir) a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion BG plc yn gweithredol fel cludwr nwy cyhoeddus
Yn y Rhan hon -
ystyr "hereditament a eithrir" yw hereditament sy'n cynnwys tir ac adeiladau a ddefnyddir neu, os nad feddiennnir hwy, y bwriedir eu defnyddio yn gyfan gwbl neu'n bennaf
(a) er mwyn gwneuthur peiriannau a ffitiadau nwy;
(b) fel cyfleusterau storio pwysedd uchel neu gyfleusterau storio nwy naturiol hylifedig neu gyfleusterau a ddefnyddir neu sydd ar gael i'w defnyddio mewn cysylltiad â storio alltraeth;
(c) fel adeiladau swyddfa, pan nad yw'r adeiladau ar dir gweithredol BG plc; neu
(ch) at fwy nag un o'r dibenion blaenorol, ac
mae i "cludwr nwy cyhoeddus" yr un ystyr ag sydd i "public gas transporter" yn Rhan 1 o Ddeddf Nwy 1986[10]; acmae cyfeiriadau i BG plc yn gyfeiriadau at y cwmni sy'n dwyn yr enw hwnnw ar 9 Tachwedd 1999.
RHAN
4
HEREDITAMENTAU RHEILFFYRDD
Person dynodedig
Railtrack plc
Hereditamentau perthnasol
Yr hereditamentau a leolir yng Nghymru ac a ddisgrifir yn rheoliad 3(3) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994
RHAN
5
HEREDITAMENTAU TELATHREBU
Person dynodedig
British Telecommunications plc
Hereditamentau perthnasol
Yr hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994
Person dynodedig
Mercury Communications Limited
Hereditamentau perthnasol
Yr hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 4(2) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994
Person dynodedig
Racal Telecommunications Limited
Hereditamentau perthnasol
Yr hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 4(3) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994
Person dynodedig
Energis Communications Limited
Hereditamentau perthnasol
Yr hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 4(4) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994
Person dynodedig
AT&T(UK) Limited
Hereditamentau perthnasol
Yr hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 4(5) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994
RHAN
6
HEREDITAMENTAU CYFLENWI DR
Person Dynodedig
Dee Valley Water plc
Dr Cymru Cyfyngedig
North West Water Limited
Severn Trent Water Limited
Hereditamentau perthnasol
Hereditamentau (ar wahân i hereditamentau a eithrir) a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion ymgymerwr dr 1991[11], neu at ddibenion ategol
Yn y rhan hon ystyr "hereditament a eithrir" yw hereditament sy'n cynnwys tir ac adeiladau a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf -
(a) at wneud, storio, gwerthu, arddangos neu ddangos cyfarpar neu atodion at ddefnydd defnyddwyr dr neu wasanaethau carthffosiaeth); neu
(b) fel adeiladau swyddfa a feddiennir gan berson dynodedig, os na fydd yr adeiladau hynny ar dir gweithredol y person hwnnw; neu
(c) at y naill a'r llall o'r dibenion blaenorol.
RHAN
7
PIBLINELLAU HIRBELL
Person dynodedig
Mainline Pipelines Limited
Hereditamentau perthnasol
Piblinellau traws-gwlad (o fewn ystyr Deddf Piblinellau 1962[12]) a leolir o fewn ardal mwy nag un awdurdod bilio.
RHAN
8
DEHONGLI
Yn yr Atodlen hon -
ystyr "adeiladau swyddfa" yw unrhyw hereditament a adeiladwyd neu a addaswyd yn swyddfeydd neu at ddibenion swyddfa, neu a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y dibenion hynny;mae "dibenion swyddfa" yn cynnwys dibenion gweinyddu a gwaith clerigol a thrin arian; ac mae "gwaith clerigol" yn cynnwys ysgrifennu, cadw cyfrifon, teipio, ffeilio, dyblygu, trefnu papurau neu wybodaeth neu gyfrif (boed â llaw, â pheiriant neu â chyfrwng electronig), tynnu lluniau a golygu deunydd ar gyfer ei gyhoeddi;
ystyr "tir gweithredol", mewn perthynas â pherson dynodedig yw'r tir a ddefnyddir at ddibenion cynnal ymgymeriad y person hwnnw, sef tir, o ran ei natur a'i leoliad, sydd yn fwy cymaradwy â thir a ddefnyddir at ddibenion ymgymeriadau statudol (o fewn ystyr Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[13]) nag â thir yn gyffredinol;Ac mae unrhyw gyfeiriad at hereditamentau a ddefnyddir at unrhyw bwrpas yn cynnwys cyfeiriad at hereditamentau nas defnyddir ond, mewn perthynas â hwy, ymddengys y cânt eu defnyddio at ddiben o'r fath pan ddefnyddir hwy nesaf.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Gyda golwg ar sicrhau ardrethu canolog yn ei grynswth ar hereditamentau penodol, ceir gwneud rheoliadau o dan adran 53(1)o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 sy'n dynodi person a rhagnodi, mewn perthynas â'r person hwnnw, un neu ragor o ddisgrifiadau o hereditamentau annomestig.
Mae Rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn dynodi'r personau a enwir yn yr Atodlen ac mae'n rhagnodi'r disgrifiadau o'r hereditamentau a ddangosir yn yr Atodlen gyferbyn ag enwau'r personau hynny.
Mae Rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol dangos enwau'r personau dynodedig a'r hereditamentau a leolir yng Nghymru, sydd o fewn y disgrifiadau rhagnodedig ac a feddiennir (neu, os nas meddiennir, a berchnogir) gan y personau hynny, ar unrhyw restr ardrethu annomestig canolog i Gymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny.
Mae Rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol fod y rhestr yn dangos gwybodaeth benodol am y personau dynodedig a'r dyddiad pan fydd y gwerth ardrethol a ddangosir ar y rhestr yn dechrau bod yn weithredol.
Mae Rheoliad 6 yn diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994 er mwyn eithrio Bwrdd Rheilffyrdd Prydeinig o ardrethu canolog.
Mae Rheoliad 7 yn diddymu Rheoliadau Rhestri Ardrethu Canolog 1994 mewn perthynas â Chymru o 1 Ebrill 2000 ymlaen gyda rhai eithriadau.
Notes:
[1]
1988 p.41.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1989/1060.back
[4]
O.S. 1994/3123.back
[5]
O.S. 1994/3121.back
[6]
O.S. 1996/620.back
[7]
Diwygiwyd adran 58 gan baragraff 68 o Atodlen 13 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14) a chan adran 2 o Ddeddf Ardrethu Annomestig 1994 (p.3).back
[8]
1998 p.38.back
[9]
1989 p.29.back
[10]
1986 p.44.back
[11]
1991 p.56.back
[12]
1962 p.58.back
[13]
1990 p.8.back
English version
ISBN
0 11 090018 9
|
Prepared
30 October 2001
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/993453w.html