BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 1999
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/993468w.html

[New search] [Help]



1999 Rhif 3468 (Cy.54)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 1999

  Wedi'u gwneud 15 Rhagfyr 1999 
  Yn dod i rym 22 Rhagfyr 1999 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 30 a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[1], a freiniwyd ynddo bellach[2]):

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 22 Rhagfyr 1999.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.

Diwygiad
    
2. Diwygir Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996[3] yn unol â'r rheoliadau canlynol.

Rheoliad 2
     3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli)  - 

Rheoliad 19
     4. Yn rheoliad 19 (trin taliadau gofal plant)

Rheoliadau 25 a 27
     5. Yn rheoliadau 25(2) (penderfynu enillion net enillwyr cyflogedig) a 27(2) (penderfynu elw net enillwyr hunangyflogedig), yn y ddau achos  - 

Atodlen 2
    
6. Ar ddiwedd Atodlen 2 (symiau i'w hanwybyddu wrth benderfynu enillion), ychwaneger  - 

Atodlen 3
     7. Yn Atodlen 3 (symiau i'w hanwybyddu wrth benderfynu incwm heblaw enillion)  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
11]


Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Rhagfyr 1999



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 ("y prif Reoliadau") sy'n gosod y prawf moddion ar gyfer penderfynu swm y grant adnewyddu a'r grant cyfleusterau i'r anabl y gall awdurdodau tai lleol eu talu i geiswyr sy'n berchen-feddianwyr neu denantiaid o dan Bennod I o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adnewyddu 1996.

Mae'r diwygiadau gan mwyaf yn dilyn y diwygiadau i Reoliadau Budd-dâl Tai (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1971). Mae mân ddiwygiadau a diwygiadau drafftio hefyd.

Mae Rheoliad 3 yn diffinio credyd treth i deuluoedd mewn gwaith a chredyd treth i berson anabl, sy'n disodli credyd teulu a lwfans gweithio i'r anabl ill dau o 5 Hydref 1999 ymlaen. Cyflwynwyd credyd treth i deuluoedd mewn gwaith a chredyd treth i berson anabl gan Ddeddf Credydau Treth 1999.

Mae Rheoliad 4 yn newid y dull trin taliadau gofal plant perthnasol yn y prawf moddion er mwyn estyn oedrannau perthnasol y plant o ddeuddeg i bymtheg, ac i un ar bymtheg yn achos plant anabl.

Mae Rheoliadau 6 a 7 yn diwygio'r darpariaethau yngln â'r symiau i'w hanwybyddu wrth benderfynu enillion ac incwm arall yn Atodlenni 2 a 3 i'r prif Reoliadau.


Notes:

[1] 1996 p.53.back

[2] Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.S. 1996/2890, diwygiwyd gan O.S.1996/3119, 1997/977, 1998/808, 1999/1523.back

[4] Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(p.4); gweler adran 1(1) o Ddeddf Credydau Treth 1999 (p.10) ac Atodlen 1 iddi.back

[5] Gweler adran 1(1) o Ddeddf Credydau Treth 1999 ac Atodlen 1 iddi.back

[6] Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/977 a 1998/808.back

[7] 1989 c.41.back

[8] 1948 c.29.back

[9] O.S. 1987/1973; mewnosodwyd rheoliad 46(1)(aa) gan O.S. 1995/1339.back

[10] O.S. 1991/2887; mewnosodwyd rheoliad 51(1)(bb) gan O.S. 1995/1339 ac fe'i ddiwygiwyd gan O.S. 1999/2487.back

[11] 1998 c.38.back



English version



ISBN 0 11 090021 9


  Prepared 30 October 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/993468w.html