BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Offerynnau Statudol 1999 Rhif 3469 (Cy.55)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/993469w.html

[New search] [Help]



1999 Rhif 3469 (Cy.55)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) a (Ffurflen Gais Gymraeg) (Diwygio) (Cymru) 1999

  Wedi'u gwneud 22 Rhagfyr 1999 
  Yn dod i rym 23 Rhagfyr 1999 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 132(3) a (4) a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[1], fel y'i hestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[2] a freiniwyd ynddo bellach[3]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adeoli (Ffurflen Gais) a (Ffurflen Gais Gymraeg) (Diwygio) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 23 Rhagfyr 1999.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.

Diwygio
    
2.  - (1) Diwygiwyd y ffurflen a gyflwynwyd yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997[4] fel a gyflwynir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

    (2) Diwygiwyd y ffurflen a gyflwynwyd yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999[5] fel a gyflwynir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Rhagfyr 1999



ATODLEN 1
Rheoliad 2


DIWYGIADAU I'R FFURFLEN O'R ENW "APPLICATION FOR RELOCATION GRANT"


     1. Yng nghwestiwn 4.9, yn y rhan sy'n ymwneud â lwfans gweithio i'r anabl, yn lle "Disability working allowance" rhodder "Disabled person's tax credit (previously known as disability working allowance)" ac ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder "Note 14A".

     2. Ar ddiwedd cwestiwn 4.23, hepgorer "(if less than 16 hours per week)".

     3. Yng nghwestiwn 4.29  - 

     4. Yn lle cwestiwn 4.37, rhodder  - 

     4.37 Do you pay, or have you during the last 12 months paid, for the care of any child named in question 4.15 who is not disabled and who is either under the age of 15 years or has (or had) not reached the first Monday in September following his 15th birthday?

    Notes 53 & 53A
Yes opensquare  
No opensquare  

     4.37A Do you pay, or have you during the last 12 months paid, for the care of any child named in question 4.15 who is disabled and who is either under the age of 16 years or has (or had) not reached the first Monday in September following his 16th birthday?

    Notes 53 & 53A
Yes opensquare  
No opensquare  

If you have answered "Yes" to either question 4.37 or 4.37A, please go to question 4.38.

If you have answered "No" to both questions 4.37 and 4.37A, please go to Part 5.

     5. Yng nghwestiwn 4.38  - 

     6. Ar ôl nodyn 14, mewnosoder  - 

     7. Ar ôl nodyn 44A, mewnosoder  - 

     8. Ar ôl nodyn 53, mewnosoder  - 

     9. Yn nodyn 55(1)(a), yn lle "disability working allowance" rhodder "disabled person's tax credit (previously known as disability working allowance)".



ATODLEN 2
Rheoliad 2


DIWYGIADAU I'R FFURFLEN O'R ENW "CAIS AM GRANT ADLEOLI"


     1. Yng nghwestiwn 4.9, yn y rhan sy'n ymwneud â lwfans gweithio i'r anabl, yn lle "Lwfans gweithio i'r anabl" rhodder "Credyd treth i berson anabl (a adwaenid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)" ac ar ddiwedd y rhan honno, mewosoder "Nodyn 14A".

     2. Ar ddiwedd cwestiwn 4.23, hepgorer "(os yw'n llai nag 16 awr yr wythnos)".

     3. Yng nghwestiwn 4.29  - 

     4. Yn lle cwestiwn 4.37, rhodder  - 

     5. Yng nghwestiwn 4.38  - 

     6. Ar ôl nodyn 14, mewnosoder  - 

     7. Ar ôl nodyn 44A, mewnosoder  - 

     8. Ar ôl nodyn 53, mewnosoder  - 

     9. Yn nodyn 55(1)(a), yn lle "lwfans gweithio i'r anabl" rhodder "credyd treth i berson anabl (a adwaenid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)".



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio :

Mae Rheoliadau Grantiau Adleoli 1997 (O.S. 1997/2764), yn cymhwyso Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890) fel y mae iddynt effaith o bryd i'w gilydd, gyda'r addasiadau a ragnodwyd. Mae diwygiadau i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/3468) wedi gwneud diwygiadau i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997 ac i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999 yn ofynnol, ac mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud y diwygiadau angenrheidiol.


Notes:

[1] 1996 c.53.back

[2] 1993 c.38.back

[3] Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Am ddiffiniad "prescribed" gweler adran 140(1) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.back

[4] O.S. 1997/2847; diwygiwyd gan O.S. 1998/810 a 1999/1541.back

[5] O.S. 1999/2315back

[6] 1998 c.38.back


English version



ISBN 0 11 090022 7


  Prepared 25 January 2000


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/993469w.html