BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Ymgymerwyr D
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20000299w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 299 (Cy.6)

ARDRETHU, CYMRU

Gorchymyn Ymgymerwyr D r (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000

  Wedi'i wneud 31 Ionawr 2000 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] a pharagraff 3(2) o Atodlen 6 iddi ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymgymerwyr Dr (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Gorchymyn hwn - 

ystyr "blwyddyn" ("year") yw blwyddyn ariannol daladwy ;

ystyr "blwyddyn berthnasol"("relevant year") yw unrhyw flwyddyn y mae gwerth ardrethol i'w benderfynu arno yn unol â'r Gorchymyn hwn ac ystyr "blwyddyn flaenorol berthnasol" yw'r flwyddyn sy'n dod cyn blwyddyn berthnasol;

ystyr "dosbarth ar hereditamentau"("a class of hereditaments") yw'r hereditamentau hynny sydd i'w dangos ar y rhestr ardrethu canolog i Gymru yn rhinwedd rheoliad 3(1) o'r Rheoliadau Rhestr Ganolog a Rhan 6 o'r Atodlen iddynt ac a feddiennir gan unrhyw un o'r personau dynodedig a enwir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn

Ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ;

ystyr "ffactor ailgyfrif"("recalculation factor") mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau yw'r ffactor y penderfynir arno mewn perthynas â'r dosbarth hwnnw yn unol ag erthygl 7;

ystyr "y fformwla safonol"("the standard formula") yw'r fformwla T + U lle  - 

    (a) T yw'r swm a bennir mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau yn yr Atodlen; a

    (b) U yw'r ffactor ailgyfrif cymwysadwy i'r dosbarth hwnnw mewn perthynas â'r flwyddyn berthnasol;

    ystyr "person dynodedig"("designated person") yw person a ddynodir gan reoliad 3(1) o'r Rheoliadau Rhestr Ganolog ac a enwir yn Rhan 6 o'r Atodlen iddynt; ac mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau, ystyr "person dynodedig perthnasol" yw'r person dynodedig sy'n meddiannu'r dosbarth hwnnw; ac

ystyr "Rheoliadau Rhestr Ganolog"("Central List Regulations") yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999[3].

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at hereditamentau a feddiennir gan berson yn cynnwys cyfeiriad, yn achos hereditamentau nas meddiennir, at hereditamentau a berchnogir gan y person hwnnw gan ddehongli cyfeiriadau at feddiannaeth yn unol â hynny.

    (3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn, neu yn yr Atodlen, at berson dynodedig wrth ei enw yn gyfeiriad at y cwmni sy'n dwyn yr enw hwnnw ar y dyddiad y cofnodir yr enw hwnnw ar y rhestr ardrethu canolog i Gymru.

Talgrynnu rhifau
     3. Pan (ar wahân i'r erthygl hon) fydd unrhyw werth ardrethol y penderfynir arno o dan y Gorchymyn hwn yn cynnwys ffracsiwn o bunt - 

Diddymiadau ac eithriadau
    
4.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) mae Gorchymyn Ymgymerwyr Dr (Gwerthoedd Ardrethol) 1994[4] wedi'i ddiddymu gydag effaith o 1 Ebrill 2000 i'r graddau ei fod yn gymwys i Gymru.

    (2) Heb ragfarnu adran 16(1) o Ddeddf Ddehongli 1978[5], bydd darpariaethau'r Gorchymyn a grybwyllir ym mharagraff (1) yn parhau'n weithredol ar 1 Ebrill 2000 ac ar ôl hynny, at ddibenion y canlynol ac mewn cysylltiad â'r canlynol - 

    (a) unrhyw newid ar restr mewn grym yn union cyn 1 Ebrill 2000; neu

    (b) unrhyw ddarpariaeth a wneir gan reoliadau a wneir o dan adran 58[6] o'r Ddeddf (darpariaeth arbennig ar gyfer 1995 ymlaen) o ran y swm taladwy ar gyfer hereditament am gyfnod perthnasol yn ôl diffiniad yr adran honno.

Gwerthoedd ardrethol
     5. Yn achos pob dosbarth ar hereditamentau, ni fydd paragraffau 2 i 2B o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn gymwys mewn unrhyw flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny a'i werth arderthol fydd-

Y ffactor ailgyfrif - dehongli
    
6.  - (1) Yn erthygl 7 mewn perthynas â phob dosbarth ar hereditamentau - 

    (2) Y cyfaint perthnasol o ddr mewn perthynas â pherson dynodedig perthnasol ac unrhyw flwyddyn yw'r cyfartaledd blynyddol, dros y tair blynedd o dan ystyriaeth, wedi'i fynegi mewn megalitrau i'r ddegfed ran agosaf o fegalitr, o'r swm a amcangyfrifir yn unol ag is-baragraff (a) wedi tynnu'r swm a amcangyfrifwyd yn unol ag is-baragraff (b); sef - 

    (3) Os na chyflenwodd y person dynodedig perthnasol ddr drwy gydol unrhyw flwyddyn mewn cyfnod o dair blynedd, bydd paragraff (2) yn gymwys fel pe rhoddid cyfeiriad at y cyfartaledd blynyddol dros y nifer o flynyddoedd y cyflenwyd y dr ynddynt yn lle'r cyfeiriad at y cyfartaledd blynyddol dros dair blynedd; ac at ddibenion y paragraff hwn diystyrir unrhyw doriad dros dro yn y cyflenwad.

Ffactorau ailgyfrif
    
7.  - (1) Os, mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau ac unrhyw flwyddyn, bydd y gwerth y gellir ei briodoli i "y" yn llai na'r hyn a gynhyrchir drwy gyfrif yn unol â'r fformwla - 

Y(102
100)
    ("y trothwy uchaf") ac yn fwy na'r hyn a gynhyrchir drwy gyfrif yn yn unol â'r fformwla - 

Y(98
100)
    ("y trothwy isaf"), bydd y ffactor ailgyfrif cymwysadwy i'r dosbarth hwnnw - 

    (a) yn y flwyddyn gyntaf o'r fath yn 0, a

    (b) yn ystod unrhyw flwyddyn ganlynol, yn ffigur hafal i'r ffactor ailgyfrif cymwysadwy yn unol â'r erthygl hon yn y flwyddyn flaenorol berthnasol.

    (2) Os, mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn, bydd y gwerth y gellir ei briodoli i "y" mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau yn hafal i'r trothwy uchaf neu'n fwy nag ef neu'n hafal i'r trothwy isaf neu'n is nag ef, bydd y ffactor ailgyfrif cymwysadwy i'r dosbarth hwnnw yn ystod y flwyddyn honno yn ffigur a gynhyrchir drwy gyfrif yn unol â'r fformwla - 

T(y - Y
1.5Y)
    (3) Mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau a blwyddyn sy'n dechrau ar ôl y blwyddyn y bydd paragraff (2) yn gymwys i'r dosbarth hwnnw yn gyntaf, bydd paragraff (1) yn gymwys fel pe rhoddid Z yn lle Y.

Achosion arbennig - dehongli
    
8. Mewn perthynas ag erthyglau 9 a 10 - 

ystyr "cynllun Atodlen 2" ("Schedule 2 scheme") yw cynllun o dan Atodlen 2 i Ddeddf Diwydiant Dr 1991;

ystyr "hereditamentau Cymru" ("Welsh hereditaments") yw'r hereditamentau cynllun ac unrhyw hereditamentau eraill a feddiennir gan drosglwyddai cynllun ac a ddangosir yn y rhestr ardrethu canolog i Gymru;

ystyr "hereditamentau cynllun" ("scheme hereditaments") yw hereditamentau a drosglwyddir gan gynllun Atodlen 2; ac

ystyr "trosglwyddai cynllun"("scheme transferee") yw person dynodedig sydd, o ganlyniad i gynllun Atodlen 2, yn meddiannu dosbarth ar hereditamentau sydd, yn union cyn y diwrnod pan ddaw'r cynllun i rym, yn cael ei feddiannu gan berson dynodedig arall.

Cymhwyso
    
9. Mae erthygl 10 yn gymwys at ddibenion penderfynu, mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod pan, yn unol â'r Rheoliadau Rhestr Ganolog, y dangosir hereditamentau Cymru a feddiennir gan drosglwyddai cynllun ar y rhestr ardrethu canolog, ar werth ardrethol (cyfan) hereditamentau Cymru.

Penderfynu ar Werthoedd Ardrethol
    
10.  - (1) Rhaid i werth ardrethol (cyfan) hereditamentau Cymru fod yn swm hafal i'r cyfanswm o'r symiau y penderfynasid arnynt, ond am gynllun Atodlen 2, ac yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, yn unol ag erthygl 5 fel gwerth ardrethol yr hereditamentau sy'n ffurfio hereditamentau Cymru.

    (2) At ddibenion penderfynu ar y ffactor ailgyfrif sy'n gymwysadwy mewn blwyddyn berthnasol, bydd erthygl 7 yn gymwys fel pe anwybyddid, wrth gyfrif y swm a neilltuir i Y neu, mewn achos pan fydd erthygl 7(3) yn gymwys, y rhif a neilltuir i Z, ddr a gyflenwyd gan y trosglwyddai cynllun neu iddo i barti arall i gynllun Atodlen 2 neu ganddo.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7]


Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Ionawr 2000D.



ATODLEN

Hereditamentau a feddiennir gan:


Y ( 102 )

100

Y ( 98 )

100

Dee Valley Water plc £1,798,244

D r Cymru Cyfyngedig £29,730,304

North West Water Limited £874,556

Severn Trent Water Limited £4,048,616



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


O ran yr hereditamentau annomestig sydd i'w dangos ar y rhestr ardrethu canolog i Gymru, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol, o dan baragraff 3(2) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ddarparu, drwy orchymyn, nad yw'r rheolau prisio arferol ar gyfer ardrethu a gynhwysir ym mharagraffau 2 i 2B o'r Atodlen honno yn gymwys i'r hereditamentau hynny. Yn lle hynny, caiff ddarparu y bydd gwerthoedd ardrethol y hereditamentau hynny fel y'u pennir yn y gorchymyn neu fel y penderfynir arnynt yn unol â rheolau rhagnodedig. Breiniwyd y pwerau hyn bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999 yn ei gwneud yn ofynnol i hereditamentau cyflenwi d r a feddiennir (neu, os na feddiennir hwy, a berchnogir) gan ymgymerwyr d r a enwir yn Rhan 6 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hynny gael eu dangos yn y rhestr ardrethu canolog i Gymru. Mae'r Gorchymyn hwn:

* yn darparu na fydd paragraffau 2 i 2B yn gymwys mewn perthynas â'r hereditamentau hynny ,

* yn rhagnodi'r gwerthoedd ar gyfer yr hereditamentau hynny am y flwyddyn ariannol 2000/01 ac

* yn rhagnodi'r rheolau y mae eu gwerthoedd ardrethol i gael eu penderfynu arnynt yn unol â hwy yn y blynyddoedd i ddod.

Mae erthygl 4(1) yn diddymu Gorchymyn Ymgymerwyr Dr (Gwerthoedd Ardrethol) 1994, gydag effaith o 1 Ebrill 2000 ymlaen, i'r graddau ei fod yn gymwysadwy i Gymru. Ond mae'r darpariaethau hynny yn parhau i fod yn weithredol at y dibenion a grybwyllir yn erthygl 4(2).


Notes:

[1] 1988 p.41; diwygiwyd 143(2) gan baragraff 72(2) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Diwygiwyd paragraff 3(2) o Atodlen 6 gan baragraff 38(13) o Atodlen 5 i Ddeddf 1989. Gweler adran 146(6) o Ddeddf 1988 am ddiffiniad o "prescribed".back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1999/3453back

[4] O.S. 1994/3285back

[5] 1978 p.30.back

[6] Diwygiwyd adran 58 gan baragraff 68 o Atodlen 13 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1989 (p. 14), adran 2 o Ddeddf Ardrethu Annomestig 1994 (p.3) ac adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p.29).back

[7] 1998 p.38back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20000299w.html