BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Cynllun Gostyngiadau) a (Darpariaethau Trosiannol Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20000501w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 501 (Cy.21)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Cynllun Gostyngiadau) a (Darpariaethau Trosiannol Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 2 Mawrth 2000 
  Yn dod i rym 11 Mawrth 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 13, 113(1) a (2) a 116(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1] a pharagraffau 1 a 2(4) o Atodlen 2 iddi a'r holl bwerau eraill sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru cyn belled ag y bo'n arferadwy yng Nghymru[2]:



Rhan I

Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Cynllun Gostyngiadau) a (Darpariaethau Trosiannol Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 11 Mawrth 2000.

    (2) Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.



Rhan II

Cynllun Gostyngiadau

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn

    ystyr "bwrdeistref sirol" ("county borough") yw bwrdeistref sirol yng Nghymru a sefydlwyd o dan Ddeddf 1994;

    ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac ystyr "adran 10" ("section 10"), "adran 11" ("section 11") ac "adran 12" ("section 12") yw adran 10 o'r Ddeddf, adran 11 o'r Ddeddf ac adran 12 o'r Ddeddf, yn eu tro;

    ystyr "y Rheoliadau Anableddau" ("the Disabilities Regulations") yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gostyngiadau ar gyfer Anableddau 1992[4];

    ystyr "y Rheoliadau Budd-dâl" ("the Benefit Regulations") yw Rheoliadau Budd-dâl y Dreth Gyngor (Cyffredinol) 1992[5]; ac

    ystyr "sir" ("county") yw sir yng Nghymru a sefydlwyd o dan Ddeddf 1994.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "ardal gymunedol" ("community area") yw ardal sy'n gyfled ag ardal cymuned ar 1 Ionawr 2000; ac mae ardal gymunedol a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn wrth enw cymuned mewn sir neu fwrdeistref sirol yn golygu'r ardal sy'n gyfled ag ardal y gymuned honno ar 1 Ionawr 2000.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, mewn perthynas â swm y mae person yn atebol am ei dalu mewn perthynas â'r dreth gyngor -

    Yn ddarostyngedig i reoliad 3(2) isod, mae'r "gostyngiad priodol" ("the appropriate reduction") yn golygu'r swm (os oes swm) a ragnodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r ardal gymunedol berthnasol a'r band prisio perthnasol;

    ystyr "yr ardal gymunedol berthnasol" ("the relevant community area") yw'r ardal gymunedol y mae'r annedd daladwy berthnasol ynddi;

    ystyr "yr annedd daladwy berthnasol" ("the relevant chargeable dwelling") yw'r annedd daladwy y mae'r person yn atebol am dalu'r swm mewn perthynas â hi; ac

    yn ddarostyngedig i reoliad 3(3) isod a heblaw lle mae reoliad 3(2) isod yn gymwys, ystyr "y band prisio perthnasol" ("the relevant valuation band") yw'r band prisio a ddangosir fel yr un sy'n gymwys ar gyfer yr annedd daladwy berthnasol yn rhestr brisio yr awdurdod bilio.

    (4) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at berson sy'n atebol am dalu i awdurdod bilio, mewn perthynas ag annedd daladwy berthnasol, swm mewn perthynas â'r dreth gyngor (p'un a yw atebolrwydd y person hwnnw yn unig, neu'n gyd ac unigol), yn cynnwys, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, gyfeiriad at berson a fydd ym marn yr awdurdod yn atebol fel hyn; a dehonglir cyfeiriadau at y swm y mae person yn atebol am ei dalu yn unol â hyn.

Gostyngiadau at ddibenion y Rheoliadau Anableddau
     3.  - (1) Ym mharagraffau (2) a (3) ystyr person cymwys yw person sy'n gymwys at ddibenion y Rheoliadau Anableddau.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn lle mae person sy'n berson cymwys yn atebol am dalu'r dreth gyngor mewn perthynas ag annedd a restrir ym mand prisio A, y gostyngiad priodol fydd y swm a ddangosir yn y golofn o dan y pennawd A* yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

    (3) Lle mae person sy'n berson cymwys yn atebol am dalu'r dreth gyngor mewn perthynas ag annedd a restrir mewn band prisio heblaw band prisio A, dehonglir unrhyw gyfeiriad at y band prisio perthnasol fel pe bai'n gyfeiriad at y band prisio amgen a fyddai'n gymwys yn achos y person hwnnw at ddibenion rheoliad 4 o'r Rheoliadau Anableddau.

Cyfrifo'r swm sy'n daladwy
    
4.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) isod -

caiff y swm ei ostwng drwy dynnu oddi wrtho swm a gyfrifir yn unol â'r fformwla -

R
365
ac
    R yw'r gostyngiad priodol.

    (2) Os yw'r swm a grybwyllir yn is-baragraff (1)(a) uchod yn cael ei benderfynu o dan adran 10 wedi'i darllen ag adran 11 neu adran 12, tynnir y didyniad sy'n angenrheidiol o dan baragraff (1) uchod o'r swm gwreiddiol.

    (3) Ym mharagraff (2) uchod y swm a fyddai'n cael ei benderfynu o dan adran 10 o'i darllen heb adran 11 ac adran 12 yw'r "swm gwreiddiol" ("the original amount").

    (4) Os oes penderfyniad yn dyfarnu budd-dâl y dreth gyngor o dan y Rheoliadau Budd-dâl yn effeithiol yngln â'r annedd daladwy ar gyfer diwrnod y mae person yn atebol am dalu'r swm a grybwyllir yn is-baragraff 1(a) uchod mewn perthynas â'r annedd honno, y swm y mae'r person hwnnw'n atebol am ei dalu fydd -

    (a) y swm a geir yn unol â pharagraff (1) uchod, neu baragraffau (1) a (2) uchod, yn ôl fel y digwydd, am y diwrnod hwnnw, llai

    (b) budd-dâl treth cyngor y person hwnnw am y diwrnod hwnnw.

Apelau
    
5.  - (1) Pan fydd awdurdod bilio yn gwneud penderfyniad ynghylch sut mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu cymhwyso neu eu gweithredu mewn perthynas ag unigolyn, os bydd y person yr effeithir arno yn gofyn yn ysgrifenedig, rhaid i'r awdurdod roi datganiad ysgrifenedig i'r person hwnnw o'i benderfyniad a'r rheswm drosto; a rhaid anfon unrhyw ddatganiad o'r fath o fewn 14 diwrnod o'r dyddiad y gofynnir amdano neu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedyn.

    (2) Ni ellir gwneud apêl i dribiwnlys prisio mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad gan awdurdod bilio sy'n cyfeirio at sut mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu cymhwyso neu eu gweithredu yn unig; ond fe all person a dramgwyddir gan benderfyniad o'r fath apelio at fwrdd adolygu a benodir gan yr awdurdod bilio ac a gyfansoddir fel y'i crybwyllir yn rheoliad 70(3) o'r Reoliadau Budd-dâl.

Hysbysu apêl
    
6. Rhaid i apelydd hysbysu apêl o dan y Rheoliadau hyn yn ysgrifenedig i'r awdurdod bilio o fewn 4 wythnos o'r dyddiad y mae'r awdurdod bilio yn anfon y datganiad a grybwyllir yn rheoliad 5(1) uchod at yr apelydd.

Gweithdrefn apelau
    
7.  - (1) Bydd rheoliadau 71(2) i (9) a 72(4) a (5) o'r Rheoliadau Budd-dâl yn gymwys gyda'r newidiadau angenrheidiol at ddibenion apêl o dan y Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys at ddibenion adolygiad pellach.

    (2) Rhaid i awdurdod bilio gydymffurfio ag unrhyw benderfyniad gan ei fwrdd adolygu.



Rhan III

Hysbysiadau Galw am Dalu - Darpariaethau Trosiannol

Hysbysiadau Galw am Dalu - Darpariaethau trosiannol am y flwyddyn ariannol yn dechrau 1 Ebrill 2000
    
8.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y Rheoliadau Hysbysiadau Galw am Dalu" ("the Demand Notices Regulations") yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993[6].

    (2) Am y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2000 bydd Atodlen 1 i'r Rheoliadau Hysbysiadau Galw am Dalu yn effeithiol fel pe bai

    (a) yr is-baragraffau canlynol wedi'u hychwanegu ar ôl paragraff 6(1) -

        " (1A) Where the dwelling to which the notice relates is situated in a community area referred to in the Schedule to the Council Tax (Reduction Scheme) and (Demand Notices Transitional Provisions) (Wales) Regulations 2000, a statement as regards-

      (a) the relevant community area, and

      (b) the relevant valuation band,

    of the amount prescribed in the Schedule to the Council Tax (Reduction Scheme) and (Demand Notices Transitional Provisions) (Wales) Regulations 2000.

        (1B) In sub-paragraph (1A) above, "community area" and "the relevant valuation band" have the meanings given in the Council Tax (Reduction Scheme) and (Demand Notices Transitional Provisions) (Wales) Regulations 2000"; a

    (b) y paragraff canlynol wedi'i ychwanegu ar ôl paragraff 13 -

         " 13A. As regards any case to which regulations made under section 13 of the 1992 Act apply so that the amount required to be paid under the notice is less than it would be apart from those regulations, a statement of the amount of the reduction."

    (2) Am y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2000 bydd Rhan I o Atodlen 2 i'r Rheoliadau Hysbysiadau Galw am Dalu yn effeithiol fel pe bai -

    (a) yr is-baragraff canlynol wedi'i ychwanegu o dan is-baragraff (b) o baragraff 6 -

      " (ba) grant under section 88A of the Local Government Finance Act 1988;" a

    (b) y paragraff canlynol wedi'i ychwanegu ym mharagraff 15(b), ar ôl paragraff (iii) -

        " (iiia) a person may be liable to pay an amount in respect of council tax which, by virtue of the provisions of the Council Tax (Reduction Scheme) and (Demand Notices Transitional Provisions) (Wales) Regulations 2000, is less than the amount it would be apart from those Regulations;".



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

2 Mawrth 2000



ATODLEN
Rheoliadau 2 a 4


SYMIAU RHAGNODEDIG Y GOSTYNGIADAU


  Swm rhagnodedig (gostyngiad priodol) (£)
  Band prisio:
Ardal gymunedol/ardaloedd cymunedol A* A B C D E F G H
Yn sir:

YNYS MÔN

pob ardal gymunedol

3.00 3.60 4.20 4.80 5.40 6.60 7.80 9.00 10.80
Ym mwrdeistref sirol

BLAENAU GWENT:

pob ardal gymunedol

149.55 179.46 209.37 239.28 269.19 329.01 388.83 448.65 538.38
Ym mwrdeistref sirol

MERTHYR TUDFUL:

pob ardal gymunedol

96.65 115.98 135.31 154.64 173.97 212.63 251.29 289.95 347.94
Ym mwrdeistref sirol

MYNWY:

pob ardal gymunedol

3.55 4.26 4.97 5.68 6.39 7.81 9.23 10.65 12.78
Ym mwrdeistref sirol

CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Cilybebyll, Cwmllynfell, Gwauncaegurwen, Pontardawe, Ystalyferal

52.15 62.58 73.01 83.44 93.87 114.73 135.59 156.45 187.74
Ym mwrdeistref sirol

CASTELL-NEDD PORT TALBOT:

Blaen-gwrach, Blaenhonddan, Llansawel, Y Clun, Coed-ffranc, Creunant, Dyffryn Clydach,Glyn-nedd, Castell-nedd, Onllwyn, Pelenna, Resolfen, Blaendulais, Tonna

37.55 45.06 52.57 60.08 67.59 82.61 97.63 112.65 135.18
Ym mwrdeistref sirol

CASTELL-NEDD PORT TALBOT:

Aberafan, Baglan, Bae Baglan, Bryn, Cwmafan, Glyncorrwg, Margam, Gweunydd Margam, Port Talbot, Dwyrain Sandfields, Gorllewin Sandfields, Tai-bach

38.40 46.08 53.76 61.44 69.12 84.48 99.84 115.20 138.24
Ym mwrdeistref sirol

RHONDDA CYNON TAF:

Aberaman, Abercynon, Aberdâr, Cwm-bach, Hirwaun, Llwytgoed, Aberpennar, Penrhiw-ceibr, Pen-y-waun, Y Rhigos, Ynys-y-bwê l

43.05 51.66 60.27 68.88 77.49 94.71 111.93 129.15 154.98
Ym mwrdeistref sirol

RHONDDA CYNON TAF:

Cwm Clydach, Cymer, Ferndale, Llwynypia, Y Maerdy, Pentre, Pen-y-graig, Y Porth, Tonypandy, Trealaw, Trehafod, Treherbert, Treorci, Tylorstown, Ynys-hir, Ystrad

33.90 40.68 47.46 54.24 61.02 74.58 88.14 101.70 122.04
Ym mwrdeistref sirol

RHONDDA CYNON TAF:

Gilfach-goch, Llanharan, Llanhari, Llantrisant, Llanilltud Faerdre, Pont-y-clun, Pontypridd, Ffynnon Taf, Tonyrefail

52.15 62.58 73.01 83.44 93.87 114.73 135.59 156.45 187.74



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi cynllun ar gyfer lleihau atebolrwydd unigolion penodol yng Nghymru i dalu'r dreth gyngor am y flwyddyn ariannol yn dechrau 1 Ebrill 2000. Maent yn gwneud darpariaeth hefyd ar gyfer cynnwys, ar hysbysiadau galw am dalu'r dreth gyngor am yr un cyfnod, wybodaeth ynghylch effaith y cynllun gostyngiadau (lle bo'n gymwys) am y flwyddyn

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer penderfynu'r gostyngiad yn atebolrwydd person drwy gyfeirio at y gostyngiad priodol, os oes un, am yr ardal gymunedol a'r band prisio perthnasol am yr annedd daladwy

Mae rheoliadau 5 i 7 yn darparu ar gyfer apelau ynghylch sut mae'r awdurdodau bilio yn cymhwyso neu'n gweithredu'r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 8 yn darparu i ddiwygiadau i Reoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 bennu pa wybodaeth sydd i'w chynnwys yn hysbysiadau galw am dalu'r dreth gyngor yn y flwyddyn 2000/2001

Mae'r Atodlen yn nodi'r ardaloedd cymunedol y rhagnodir gostyngiad mewn perthynas â hwy, ynghyd â'r gostyngiad priodol am bob un o fandiau prisio'r dreth gyngor.


Notes:

[1] 1992 c.14; gweler adran 116(1) i gael diffiniad o 'prescribed'.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 1994 c.19.back

[4] O.S. 1992/1814; y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[5] O.S. 1992/554; gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 1993/195 ac O.S. 1999/1004.back

[6] O.S. 1993/255, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/160, O.S. 1996/310 and O.S. 1998/267.back

[7] 1998 p.38.back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20000501w.html