[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Dociau a Harbyrau (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20000948w.html |
[New search] [Help]
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4), 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1],a pharagraffau 3(1), (3) a (4) o Atodlen 6 iddi, sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru. Cymhwyso, enwi a chychwyn 1. Enw'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yw Gorchymyn Dociau a Harbyrau (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn -
(ii) gwariant -
(a) mewn perthynas â buddsoddiadau y mae'n ofynnol eu dangos yng nghyfrifon yr ymgymeriad (heblaw gwariant mewn perthynas â buddsoddiadau mewn is-gwmnïau);
(iv) symiau a ddilëir mewn perthynas â dibrisiant.
Ystyr "gwariant wedi'i addasu" ("adjusted expenditure") mewn perthynas ag ymgymeriad a chyfnod yw swm gwariant perthnasol yr ymgymeriad am y cyfnod wedi'i luosi â chynnyrch
(ii) incwm -
(a) o fuddsoddiadau y mae'n ofynnol eu dangos yng nghyfrifon yr ymgymeriad (heblaw buddsoddiadau mewn is-gwmnïau);
Cymhwyso
(b) mewn perthynas â rhestr ardrethu annomestig (y "rhestr berthnasol") a lunnir ar 1 Ebrill 2000 y mae hereditament o'r fath i fod i gael ei ddangos ynddi.
(2) Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys -
(ii) yn y deuddeng mis yn diweddu â chyfnod sy'n diweddu yn y flwyddyn honno (ac os oes mwy nag un cyfnod o'r fath, yr un diwethaf), neu, os nad oes un, (iii) yn y deuddeng mis yn diweddu ar 31 Mawrth 1998; neu
(b) os yw'r personau sy'n cyflawni'r ymgymeriad doc neu harbwr yn defnyddio'r doc neu'r harbwr yn unig neu yn bennaf er mwyn dod â nwyddau neu dderbyn nwyddau -
(3) At ddibenion paragraff (2), trinnir corff fel corff cysylltiedig unrhyw bersonau -
(b) os yw'n gorff corfforaethol y mae'r personau hynny ac unrhyw gorff neu gyrff cysylltiedig sydd ganddynt yn perchenogi neu'n rheoli yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol nid llai na 52 y cant o'i gyfalaf cyfranddaliadau a ddyroddwyd.
(4) Heblaw er mwyn cyfrifo incwm perthnasol neu wariant perthnasol, nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys i hereditament a feddiennir gan y personau sy'n cyflawni ymgymeriad doc neu harbwr nad yw yn dir gweithredol yn unig. Yn y paragraff hwn, ystyr "tir gweithredol" yw tir a ddefnyddir er mwyn cyflawni'r ymgymeriad, nad yw'n dir sydd, o ran ei natur a'i leoliad, i'w gymharu â thir yn gyffredinol yn hytrach nag â thir a ddefnyddir er mwyn cyflawni ymgymeriadau statudol (o fewn ystyr Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990)[3].
(ii) am y deuddeng mis yn diweddu â chyfnod sy'n diweddu yn y flwyddyn honno (ac os oes mwy nag un cyfnod o'r fath, yr un diwethaf), neu, os nad oes un, (iii) am y deuddeng mis yn diweddu â 31 Mawrth 1998.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (6), am unrhyw flwyddyn ddilynol y mae'r rhestr berthnasol yn effeithiol ar ei chyfer, bydd gwerth ardrethol unrhyw hereditament y mae'r gorchymyn hwn yn gymwys iddo yn swm sy'n gyfartal â 20 y cant o'r balans wedi'i addasu ar gyfer yr ymgymeriad -
(ii) am y deuddeng mis yn diweddu â chyfnod sy'n diweddu yn y flwyddyn flaenorol berthnasol honno (ac os oes mwy nag un cyfnod o'r fath, yr un diwethaf) neu, os nad oes un, (iii) am y deuddeng mis yn diweddu â'r flwyddyn honno.
(4) Os yw'r swm sy'n gyfartal â 20 y cant o X, mewn perthynas â blwyddyn ac ymgymeriad, yn fwy na 13 y cant o Z, ni fydd paragraff (2) neu, yn ôl fel y digwydd, paragraff (3), yn gymwys, a bydd y gwerth ardrethol am y flwyddyn honno yn gyfartal â 13 y cant o Z.
Z am y flwyddyn yn dechrau ar 1 Ebrill 2000 yw'r incwm perthnasol ac am y blynyddoedd dilynol yw'r incwm wedi'i addasu; cyfrifir X a Z am y flwyddyn yn dechrau ar 1 Ebrill 2000 am y cyfnod a ddisgrifir ym mharagraff (2)(i) neu, os nad oes cyfnod o'r fath, am y cyfnod a ddisgrifir ym mharagraff (2)(ii) neu, os nad oes cyfnod o'r fath, am y cyfnod a ddisgrifir ym mharagraff (2)(iii); cyfrifir X a Z am y blynyddoedd dilynol am y cyfnod a ddisgrifir ym mharagraff (3)(i) neu, os nad oes cyfnod o'r fath, am y cyfnod a ddisgrifir ym mharagraff (3)(ii) neu, os nad oes cyfnod o'r fath, am y cyfnod a ddisgrifir ym mharagraff (3)(iii).
(8) Os byddai unrhyw werth ardrethol a bennid o dan yr erthygl hon yn cynnwys ffracsiwn o bunt (heblaw yn y paragraff hwn) -
(b) os byddai'r ffracsiwn yn 50c neu lai, câi ei anwybyddu.
Diddymiadau ac eithriadau
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy gyfrwng gorchymyn, o dan baragraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ddarparu nad yw hereditamentau, yng Nghymru, o unrhyw ddosbarth i gael eu prisio ar gyfer ardrethu annomestig ar y sail a nodir ym mharagraffau 2 i 2C o'r Atodlen honno (hynny yw, drwy gyfeirio at y rhent y byddai tenant damcaniaethol yn ei dalu am yr hereditament ar sail flynyddol), ond yn hytrach ar sail rheolau a nodir yn y gorchymyn. Yn ôl erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, mae gwerth ardrethol hereditamentau sy'n ymgymeriadau dociau neu harbyrau sy'n cael eu cyflawni o dan awdurdod unrhyw ddeddfiad i gael ei bennu ar sail y rheolau a nodir yn erthygl 4, ac eithrio yn achos mân ymgymeriadau penodol, sef yn y bôn y rhai ag incwm perthnasol o lai na £1,000,000 ym 1998, a dociau a harbyrau a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu yn bennaf gan y person sy'n eu gweithredu, neu gan bersonau sy'n gysylltiedig â hwy, at eu dibenion eu hunain. Mae erthygl 4 yn darparu y bydd gwerth ardrethol hereditamentau o'r fath, am flwyddyn ariannol daladwy, yn swm sy'n gyfartal â 20 y cant o'r balans rhwng swm ar gyfer incwm a swm ar gyfer gwariant yr ymgymeriad (a'r ddau swm yn cael eu cyfrifo yn unol a'r Gorchymyn) yn ddarostyngedig i drothwy penodol. Mae Erthygl 5 yn diddymu, gydag eithriadau, ddarpariaethau Gorchymyn Dociau a Harbyrau (Gwerthoedd Ardrethol) 1989 (fel y'i diwygiwyd), i'r graddau yr oedd yn gymwys mewn perthynas â rhestri ardrethu annomestig lleol ar gyfer Cymru a luniwyd ar 1 Ebrill 1990 a 1 Ebrill 1995. Notes: [1] 1988 p. 41 Gweler adran 146(6) i gael y diffiniad o "prescribed". Diwygiwyd adran 143(2) gan baragraff 72(2) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) . Diwygiwyd paragraff 3(1) o Atodlen 6, a mewnosodwyd paragraffau 3(3) a 3(4), gan baragraff 38(12) a (14) o Atodlen 5 i Ddeddf 1989. Mae'r pwerau hyn wedi'u datganoli, mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1.back [2] 1985 p.6. Disodlwyd adran 736 gan adran 144(1) o Ddeddf Cwmnïau 1989 (p.40).back [4] Diwygiwyd paragraff 2, a mewnosodwyd paragraff 2A a 2B, gan baragraff 38(3) i (11) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Mewnosodwyd paragraff 2C gan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p.29).back [5] O.S. 1989/2473, a ddiwygiwyd gan O.S. 1994/3280.back [7] Diwygiwyd Adran 58 gan baragraff 68 o Atodlen 13 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14), adran 2 o Ddeddf Ardrethu Annomestig 1994 (p.3) ac adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p.29).back
|