BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Terfynau Gwariant Dewisol) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20000990w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 990 (Cy. 51)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Terfynau Gwariant Dewisol) (Cymru) 2000

  Wedi'i wneud 27 Mawrth 2000 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 137(4AA) a (5) ac adran 137A(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru[2].

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Terfynau Gwariant Dewisol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.

Terfynau gwariant
    
2.  - (1) At ddibenion adran 137(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 pennir y swm o £5.00 fel y swm sy'n briodol ar gyfer prif gyngor neu gyngor cymuned yng Nghymru.

    (2) At ddibenion adran 137A(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 pennir y swm o £5000 fel yr isafswm perthnasol ar gyfer cymorth ariannol a ddarperir gan awdurdod lleol yng Nghymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
The Presiding Officer of the National Assembly

27 Mawrth 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn galluogi awdurdod lleol i dynnu gwariant at ddibenion penodol na fyddai wedi'i hawdurdodi fel arall ar yr amod nad yw'r gwariant hwnnw yn fwy na'r swm a geir drwy luosi swm penodedig â phoblogaeth berthnasol ardal yr awdurdod. Yn achos prif gyngor yng Nghymru, £3.80 yw'r swm hwnnw, neu unrhyw swm arall y gellir ei bennu drwy gyfrwng gorchymyn. Yn achos cyngor cymuned, £3.50 yw'r swm hwnnw neu unrhyw swm arall y gellir ei bennu drwy gyfrwng gorchymyn.

Mae adran 137A o Ddeddf 1972 yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol, sydd mewn unrhyw flwyddyn ariannol yn rhoi cymorth ariannol i fudiad gwirfoddol neu i gorff neu gronfa o fath penodedig, a chyfanswm y cymorth hwnnw yn hafal i, neu yn fwy na, £2000 neu unrhyw swm uwch y gellir ei bennu drwy gyfrwng gorchymyn ("yr isafswm perthnasol"), yn ei gwneud yn ofynnol i'r mudiad, y corff neu'r gronfa roi gwybod i'r awdurdod, fel un o amodau'r cymorth, i ba ddiben y mae wedi'i ddefnyddio.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cynyddu'r swm a bennwyd at ddibenion adran 137(4)(a) o Ddeddf 1972 i £5.00 ar gyfer prif gynghorau a chynghorau cymuned yng Nghymru, a'r isafswm perthnasol at ddibenion adran 137A(1) o'r Ddeddf honno i £5000 ar gyfer yr awdurdodau lleol yng Nghymru.


Notes:

[1] 1972 p.70. Mewnosodwyd adran 137(4AA) gan adran 36 a mewnosodwyd adran 137A gan adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 1988 p. 38.back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20000990w.html