BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Treth Gyngor (Atebolrwydd Perchnogion i Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001024w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1024 (Cy. 60)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau Treth Gyngor (Atebolrwydd Perchnogion i Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 31 Mawrth 2000 
  Yn dod i rym 3 Ebrill 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 8(1) ac 113(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1] sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru[2].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gyngor (Atebolrwydd Perchnogion i Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 3 Ebrill 2000.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.

Atebolrwydd Perchnogion i Dalu - ceiswyr lloches
    
2. Ar ôl y disgrifiad o Ddosbarth E yn rheoliad 2 o Reoliadau Treth Gyngor (Atebolrwydd Perchnogion i Dalu) 1992[3] mewnosodwch y canlynol -

    " Asylum Seekers
    Class F a dwelling provided to an asylum seeker under, or under arrangements made under, section 95 of the Immigration and Asylum Act 1999[4]."



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Mawrth 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rheoliadau Treth Gyngor (Atebolrwydd Perchnogion i Dalu) 1992 yn rhagnodi dosbarthiadau o anheddau y mae'r perchennog, yn hytrach na'r preswylydd, yn atebol i dalu treth gyngor ar eu cyfer.

O 3 Ebrill 2000 ymlaen bydd ceiswyr lloches, yng Nghymru, sy'n ddiymgeledd i bob golwg, yn cael llety ac angenrheidiau byw hanfodol eraill o dan adran 95 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999, ac ni fyddant yn gymwys i gael budd-daliadau gan gynnwys budd-dâl treth gyngor.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu mai perchennog y llety, yn hytrach na'r ceisydd lloches sy'n preswylio yno, fydd yn atebol i dalu treth gyngor ar gyfer unrhyw lety sy'n cael ei ddarparu o dan adran 95 gan ychwanegu dosbarth newydd o anheddau at y dosbarthiadau sydd wedi'u rhagnodi gan Reoliadau 1992.


Notes:

[1] 1992 p.14.back

[2] Gweler erthygl 2 o, ac Atodlen 1 i, Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1992/551.back

[4] 1999 p.33.back

[5] 1998 p.38.back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001024w.html