![]() |
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | |
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Eithrio) (Cymru) 2000 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001029w.html |
[New search] [Help]
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(5) a 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999[1]: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Eithrio) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig. Eithrio rhag y dyletswyddau yn Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 2. Ni fydd cynghorau cymuned sydd wedi cyllidebu ar gyfer gwariant refeniw gros nad yw'n fwy na £1,000,000 ar gyfer y naill neu'r llall o'r blynyddoedd ariannol a ddechreuodd ar 1 Ebrill 1998 neu 1 Ebrill 1999 yn ddarostyngedig i'r dyletswyddau a osodir gan adrannau 3 i 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 mewn perthynas ag unrhyw un o'u swyddogaethau. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]. D. Elis Thomas Llywydd Y Cynulliad Cenedlaethol 22 Mawrth 2000 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill i wneud trefniadau i sicrhau gwelliannau parhaol yn y ffordd y mae eu swyddogaethau yn cael eu harfer (gwerth gorau), i gynnal adolygiadau gwerth gorau o'u swyddogaethau ac i baratoi cynllun perfformiad gwerth gorau ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Mae adrannau 2(5) a 29(1) o'r Ddeddf yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru, i eithrio awdurdodau penodedig, neu ddisgrifiadau penodedig o awdurdod, rhag y dyletswyddau hynny yngl ![]() Mae'r Gorchymyn hwn yn eithrio cynghorau cymuned sydd wedi cyllidebu ar gyfer gwariant refeniw gros nad yw'n fwy na £1,000,000 ar gyfer y naill neu'r llall o'r blynyddoedd ariannol a ddechreuodd ar 1 Ebrill 1998 neu 1 Ebrill 1999. Notes: [1] 1999 p.19.back
|