BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Diwygio) (Cymru) 2000 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001039w.html |
[New search] [Help]
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Adran 15 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990[1], sydd bellach yn arferadwy yng Nghymru gan y Cynulliad Cenedlaethol[2]: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn,
Diwygiadau i Reoliadau 1997
(2) Yn lle Rheoliad 6 (1) (b), rhowch -
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Cynllun ar gyfer rhoi grantiau tuag at gost gwaith neu gyngor i wella inswleiddiad thermol, neu i leihau neu atal gwastraff ynni fel arall mewn anheddau, yw'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref presennol ("y Cynllun"). Nodir y Cynllun yn Rheoliadau'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref 1997 ("y prif Reoliadau"). Mae'r prif Reoliadau'n creu Asiantaethau Rhanbarthol i weinyddu'r cynllun, ac yn nodi pwy sy'n gymwys i gael grant. Mae'r prif Reoliadau hefyd yn rhagnodi'r math o waith a'r dibenion y gellir cymeradwyo grantiau ar eu cyfer. Darperir dull ar gyfer cyfrifo grantiau, a nodir yr uchafsymiau a all gael eu rhoi fel grantiau. Mae'r prif Reoliadau yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud cais am grantiau a'u cymeradwyo, ac ar gyfer trefnu gwneud y gwaith neu gyflenwi'r deunyddiau. Cafodd y prif Reoliadau eu gwneud o dan Adran 15(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990 (fel y'i diwygiwyd gan Adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996). Mae Adran 15(1) yn darparu y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol wneud, neu drefnu gwneud, grantiau tuag at gost gwaith neu gyngor i wella inswleiddiad thermol neu i leihau neu atal gwastraff ynni fel arall mewn anheddau. Ni all unrhyw grantiau gael eu gwneud o dan Adran 15(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990 ("Deddf 1990") ac eithrio yn unol â rheoliadau a gyhoeddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae rheoliad 3 yn newid y cyfyngiad ar y dibenion y gellir dyfarnu grant atynt o dan y prif Reoliadau o "...not more than one.." i "...one or more..." o'r dibenion sydd wedi'u nodi yn y prif Reoliadau.Mae rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn darparu uchafsymiau newydd ar gyfer grantiau o dan y prif Reoliadau. Notes: [1] 1990 (p.27); diwygiwyd adran 15 gan adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p.53).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672).back
|