BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Diwygio Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg (Sefydlu) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001076w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1076 (Cy. 70 )

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Diwygio Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg (Sefydlu) 2000

  Wedi'i wneud 5 Ebrill 2000 
  Yn dod i rym 7 Ebrill 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 126(3) a (4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] ac adran 5(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990[2] a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 2 iddi ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diwygio Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg (Sefydlu) 2000 a daw i rym ar 7 Ebrill 2000.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Diwygio'r gorchymyn sefydlu
    
2. Yn lle erthygl 3 o Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg (Sefydlu) 1998[4] rhoddir yr erthygl ganlynol:-



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Ebrill 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r Gorchymyn a sefydlodd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg i newid y dibenion y sefydlwyd yr ymddiriedolaeth er eu mwyn ac i ddiwygio'i swyddogaethau.

Mae'r Gorchymyn yn rhoi i'r ymddiriedolaeth ddibenion darparu nwyddau a gwasanaethau at ddibenion y gwasanaeth iechyd fel y'u pennir yn adran 5(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 ac, yn unol â'r dibenion hynny, yn estyn swyddogaethau'r ymddiriedolaeth i gynnwys swyddogaeth darparu nwyddau a gwasanaethau (gan gynnwys cyfleusterau ysbyty a gwasanaethau iechyd cymunedol) yn yr ysbytai a ddisgrifir neu ohonynt. Mae'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaeth mewn perthynas â throsglwyddo pob gwasanaeth o Ysbyty Cyffredinol Castell-nedd a'i gau ac mewn perthynas â darparu'r gwasanaethau hynny sydd i'w darparu mewn ysbyty newydd yn Ffordd Baglan, Port Talbot. Bu'r trefniadau hynny yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, gan gynnwys ymgynghoriad â'r Cyngor Iechyd Cymunedol perthnasol.


Notes:

[1] 1977 p. 49; diwygiwyd adran 126(3) gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 65(2) a chan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), atodlen 1, paragraff 57; diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), atodlen 4, paragraff 37(6).back

[2] 1990 p.19; diwygiwyd adran 5(1) gan Ddeddf 1999, adran 13(1); diwygiwyd paragraff 3 o atodlen 2 gan Ddeddf 1995, atodlen 1, paragraff 85 a chan Ddeddf 1999, adran 13(1).back

[3] Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back

[4] O.S. 1998/3319.back

[5] 1998 p.38.back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001076w.html