BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn y Diwydiant Cyflenwi Trydan (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001163w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1163 (Cy. 91)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Gorchymyn y Diwydiant Cyflenwi Trydan (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000

  Wedi'i wneud 30 Mawrth 2000 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] a pharagraff 3(1) a (2) o Atodlen 6 iddi ac a freiniwyd ynddo bellach[2], i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru.



RHAN 1

RHAGARWEINIOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diwydiant Cyflenwi Trydan (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn  - 

    ystyr "blwyddyn" ("year" ) yw blwyddyn ariannol daladwy ;

    ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;

    ystyr "gallu cynhyrchu net a ddatgenir" ("declared net capacity"), mewn perthynas â pheiriannau cynhyrchu yw'r cynhyrchiad uchaf o drydan (wrth y terfynellau cynhyrchu) y gellir ei gynnal am gyfnod amhenodol, o dan yr amodau perthnasol, heb achosi niwed i'r peiriannau, gan dynnu o'r gallu cynhyrchu hwnnw yr hyn a ddefnyddir gan y peiriannau, ac a fynegir mewn megawatiau hyd at y ganfed ran agosaf o fegawat;

    (At ddibenion y diffiniad hwn ar gyfer y peiriannau cynhyrchu hynny a'u hunig neu eu prif ffynhonnell ynni yw drwy losgi olew neu lo, yr amodau perthnasol yw bod y d r sy'n mynd i'r system oeri yn un deg naw gradd Celsius os caiff y d r oeri ei gylchredeg ar yr hereditament i'w ailddefnyddio yn y system oeri, neu ym mhob achos arall deg gradd Celsius.

    Ar gyfer peiriannau cynhyrchu a'u hunig neu eu prif ffynhonnell ynni yw gwynt, mae cyflymder y gwynt yn ddigon i yrru'r peiriannau cynhyrchu ar eu cynhyrchiad uchaf o drydan.

    Ar gyfer peiriannau cynhyrchu a'u hunig neu eu prif ffynhonnell ynni yw d r, mae llif y d r yn ddigon i yrru'r peiriannau cynhyrchu ar eu cynhyrchiad uchaf o drydan.

    Ar gyfer pob math arall ar beiriannau cynhyrchu yr amodau perthnasol yw, bod tymheredd yr awyr yn lleoliad yr hereditament yn ddeg gradd Celsius ac mae gwasgedd yr aer yn 1013mbar); ac

    ystyr "peiriannau cynhyrchu" ("generating plant"), mewn perthynas â hereditament, yw peiriannau yn yr hereditament neu arno a ddefnyddir neu sydd ar gael ar gyfer eu defnyddio i'r diben o gynhyrchu trydan.

Talgrynnu Rhifau
    
3. Pan (ar wahân i'r erthygl hon) fydd unrhyw werth ardrethol y penderfynir arno o dan y Gorchymyn hwn yn cynnwys ffracsiwn o bunt - 

Diddymiadau ac Eithriadau
    
4.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), diddymir drwy hyn y canlynol gydag effaith o 1 Ebrill 2000 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru:

    (a) Gorchymyn Cynhyrchwyr Trydan (Gwerthoedd Ardrethol) 1994[3];

    (b) Gorchymyn Diwydiant Cyflenwi Trydan (Gwerthoedd Ardrethol) (Diwygio) 1995[4];

    (c) erthygl 2 o Orchymyn Diwydiant Cyflenwi Trydan ac Ymgymerwyr D r (Gwerthoedd Ardrethol) (Diwygio) 1996[5] a'r gyfran honno o erthygl 1 sy'n cael effaith i ddibenion erthygl 2.

    (2) Bydd y Gorchmynion a grybwyllir ym mharagraff 1 yn parhau i gael effaith ar 1 Ebrill 1995 neu wedyn at ddibenion y canlynol neu at ddibenion sy'n gysylltiedig â'r canlynol - 

    (a) unrhyw newid i restr a luniwyd cyn 1 Ebrill 2000; neu

    (b) unrhyw ddarpariaeth a wnaed gan reoliadau a wnaed o dan adran 58 o'r Ddeddf[6] (darpariaeth arbennig ar gyfer 1995 ac ymlaen) yngln â'r swm taladwy o ran hereditament am gyfnod perthnasol fel y'i diffinnir yn yr adran honno.



RHAN II

CYNHYRCHU TRYDAN

Gwerth Ardrethol
     5.  - (1) Mae erthygl 6 yn gymwys i ddosbarth ar hereditamentau y mae'r amodau ym mharagraff (2) wedi'u cyflawni yn eu cylch.

    (2) Yr amodau a grybwyllir ym mharagraff (1) yw bod  - 

    (a) yr hereditament yn cynnwys tir, peiriannau neu adeiladau a ddefnyddir at gynhyrchu trydan, neu sydd ar gael i gynhyrchu trydan a bod y defnydd hwnnw yn unig neu'n brif swyddogaeth yr hereditament a

    (b) y peiriannau cynhyrchu naill ai  - 

      (i) yn defnyddio p er gwynt, llanw, neu dd r fel eu prif ffynhonnell ynni; neu

      (ii) a chanddynt allu cynhyrchu net a ddatgenir o 500 cilowat neu ragor.

    (3) Wrth benderfynu ai cynhyrchu trydan yw prif swyddogaeth hereditament, rhaid peidio â chymryd sylw o hyn o wres a gynhyrchir yn yr hereditament neu arno ac a gynhyrchir at ddibenion nad ydynt yn ddibenion cynhyrchu trydan.

    
6.  - (1) Yn achos hereditament sy'n dod o fewn y dosbarth a bennir yn erthygl 5, ni fydd paragraffau 2 i 2B o Atodlen 6 i'r Ddeddf[7] yn gymwys, a bydd ei werth ardrethol, yn ystod unrhyw flwyddyn, pan fydd effaith i'r rhestr berthnasol, yn swm cyfartal â'r swm cymwysadwy.

    (2) Y "swm cymwysadwy" at ddibenion paragraff (1) yw'r swm fesul megawat o allu cynhyrchu net a ddatgenir o'r peiriannau cynhyrchu yn yr hereditament neu arno (wedi'i fynegi i'r ganfed ran agosaf o fegawat) wedi'i nodi yng ngholofn (2) o'r Tabl canlynol mewn perthynas â'r unig ffynhonnell ynni, neu'r brif ffynhonnell ynni, a ddefnyddir gan y peiriannau llywodraethu hynny a nodir yng ngholofn (1):


TABL
(1) (2)
Unig neu brif ffynhonnell ynni £ fesul megawat
i) Llosgi glo

9,500
ii) Llosgi olew

5,000
iii) Llosgi nwy naturiol pan ddefnyddir tyrbin ager

9,500
iv) Llosgi nwy naturiol pan na ddefnyddir tyrbin ager

5,000
v) Ymhollti Niwclear a gynhyrchir gan adweithydd Magnox

6,000
vi) Ymhollti Niwclear na chynhyrchir gan adweithydd Magnox.

14,000
vii) P er Gwynt

2,000
viii) Llosgi nwy o safleoedd tirlenwi

5,000
ix) Llosgi cnydau a gwasarn anifeiliaid

2,000
x) Dwr wedi'i gronni a'i bwmpio

12,800
xi) Trydan d r

9,500
xii) Unrhyw ffynhonnell o ynni nas rhestrir uchod.

2,000

    (3) Yn yr erthygl hon ystyr "y rhestr berthnasol" yw'r rhestr ardrethu annomestig leol a luniwyd ar 1 Ebrill 2000.



RHAN III

CYNHYRCHU TRYDAN, TROSGLWYDDO A CHYFLENWI: RHESTRI CANOLOG

Dehongli
     7.  - (1) Yn y Rhan hon  - 

    ystyr "blwyddyn berthnasol" ("relevant year") yw unrhyw flwyddyn y mae gwerth ardrethol i'w phenderfynu yn unol â'r Gorchymyn hwn ac

    ystyr "blwyddyn berthnasol flaenorol" ("relevant preceding year") yw'r flwyddyn sy'n rhagflaenu blwyddyn berthnasol;

    ystyr "dosbarth ar hereditamentau" ("class of hereditaments") yw hyn o hereditamentau sydd i'w dangos ar y rhestr ardrethu ganolog i Gymru yn rhinwedd rheoliad 3(1) o'r Atodlen i Reoliadau'r Rhestr Ganolog a Rhan 2 ohoni ac a feddiennir gan unrhyw berson dynodedig a enwir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn;

    ystyr "ffactor ailgyfrifo" ("recalculation factor") mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau yw'r ffactor y penderfynir arno mewn perthynas â'r dosbarth hwnnw yn unol ag erthygl 9 neu 10, fel y bo'r achos;

    ystyr "fformwla safonol" ("standard formula") mewn perthynas â dosbarth o hereditamentau yw'r fformwla

T + U
lle  - 
    T yw'r swm a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn mewn perthynas â'r dosbarth hwnnw; a

    U yw'r ffactor ailgyfrifo cymwysadwy i'r dosbarth hwnnw mewn perthynas â'r flwyddyn berthnasol.

    ystyr "person dynodedig" ("designated person") yw person a ddynodir gan reoliad 3(1) o Ran 2 o'r Atodlen i Reoliadau'r Rhestri Canolog ac a enwir ynddi;

    ystyr "y rhestr ganolog" ("the central list") yw'r rhestr ardrethu annomestig ganolog i Gymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000.

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at hereditamentau a feddiennir gan berson yn cynnwys cyfeiriad, yn achos hereditamentau nas meddiennir, at hereditamentau a berchnogir gan y person hwnnw, a dehonglir cyfeiriadau at feddiannu yn unol â hynny.

    (3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon neu yn yr Atodlen at berson dynodedig wrth ei enw yn gyfeiriad at y cwmni sy'n dwyn yr enw hwnnw ar y dyddiad y cofnodwyd yr enw ar y rhestr ganolog.

Gwerthoedd Ardrethol
     8. Yn achos pob dosbarth ar hereditament, ni fydd paragraffau 2 i 2B o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn gymwys mewn unrhyw flwyddyn pan fydd y rhestr ganolog mewn grym ac

Hereditamentau Trosglwyddo: Y Ffactor Ailgyfrifo
    
9. Ar gyfer pob dosbarth ar hereditament a restrir yn Rhan A o'r Atodlen, y ffigur a geir ar gyfer y dosbarth hwnnw drwy ddefnyddio'r fformwla ganlynol fydd y ffactor ailgyfrifo mewn perthynas â blwyddyn berthnasol -

T( k 'K
K)
lle - 
    T yw'r swm a bennir ar gyfer y dosbarth hwnnw yn yr Atodlen;

    k yw nifer amcangyfrifedig y cilometrau mewn cylched o brif linellau trosglwyddo a feddiannwyd gan y person dynodedig yn achos y dosbarth hwnnw ar 31 Mawrth yn y flwyddyn flaenorol berthnasol; a

    K yw nifer amcangyfrifedig y cilometrau mewn cylched o brif linellau trosglwyddo a feddiennir gan y person hwnnw ar 31 Mawrth 2000.

Hereditamentau Dosbarthu: Y Ffactor Ailgyfrifo
    
10. Ar gyfer pob dosbarth ar hereditament a restrir yn Rhan B o'r Atodlen, y ffigur a geir ar gyfer y dosbarth hwnnw drwy ddefnyddio'r fformwla ganlynol yw'r ffactor ailgyfrifo mewn perthynas â blwyddyn berthnasol  - 

T( v 'V
V)
lle  - 
    T yw'r swm a bennir ar gyfer y dosbarth hwnnw yn yr Atodlen;

    v yw'r amcangyfrif o allu'r newidydd gosodedig i gynhyrchu (wedi'i fesur mewn cilofolt-amperau) o'r holl beiriannau newid trydan a feddiannwyd gan y person dynodedig yn achos y dosbarth hwnnw ar 31 Mawrth yn y flwyddyn flaenorol berthnasol; a

    V yw'r amcangyfrif o allu'r newidydd gosodedig i gynhyrchu (wedi'i fesur mewn cilofolt-amperau) o'r peiriannau hynny ar 31 Mawrth 2000.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
9];


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Mawrth 2000



ATODLEN
Erthyglau 7 i 10

Dosbarthiadau ar herediament Symiau penodol mewn £
Rhan A. Hereditamentau sydd wedi'u meddiannu ar gyfer trosglwyddo trydan  
Cwmni'r Grid Cenedlaethol ccc 19,739,327
Rhan B. Hereditamentau sydd wedi'u meddiannu ar gyfer dosbarthu trydan  
Manweb ccc 9,989,188
Midlands Electricity ccc 651,159
Trydan De Cymru ccc 27,051,852



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol, o dan baragraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ddarparu, drwy orchymyn, na ddylid prisio hereditament o ddisgrifiad a ragnodir yn y gorchymyn ar gyfer ardrethu annomestig ar y sail a nodir ym mharagraffau 2 i 2C o'r Atodlen honno (hynny yw, wrth gyfeirio at y rhent y byddai tenant tybiedig yn ei dalu am yr hereditament bob blwyddyn), ond ar sail rheolau rhagnodedig.

O dan baragraff 3(2) o Atodlen 6, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddarparu, drwy orchymyn, yn achos hereditamentau annomestig sydd i'w dangos ar y rhestr ardrethu canolog i Gymru ("hereditamentau'r rhestr ganolog") na fydd sail y prisiad a gynhwysir ym mharagraffau 2 i 2B o'r Atodlen honno yn gymwys, ac yn lle hynny caiff ddarparu y bydd gwerthoedd ardrethol yr hereditamentau hynny fel y'u pennir yn y gorchymyn neu fel y penderfynir arnynt yn unol â rheolau rhagnodedig.

Breinir y pwerau hyn bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn (sy'n gymwys i Gymru'n unig) yn diddymu, yn ddarostyngedig i rai eithriadau, gydag effaith o 1 Ebrill 2000 ymlaen, Gorchymyn y Diwydiant Cyflenwi Trydan (Gwerthoedd Ardrethol) 1994, a wnaed o dan baragraffau 3(1) a 3(2) ac a oedd yn gymwys mewn perthynas â'r blynyddoedd yn dechrau ar 1 Ebrill 1995 neu wedyn.

Mae erthygl 5 yn rhagnodi, yn unol â pharagraff 3(1) o Atodlen 6, hereditamentau a ddefnyddir neu sydd ar gael ar gyfer eu defnyddio yn gyfan gwbl neu'n bennaf at gynhyrchu trydan drwy gyfrwng peiriannau o ddisgrifiad penodol. Mae erthygl 6 yn cynnwys rheolau ar gyfer canfod gwerthoedd ardrethol yr hereditamentau hynny yn y pum mlynedd sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000.

Mae erthygl 8 yn rhagnodi, yn unol â pharagraff 3(2) o Atodlen 6, gwerthoedd ardrethol hereditamentau'r rhestr ganolog a ddefnyddir neu sydd ar gael ar gyfer eu defnyddio i drosglwyddo trydan am y flwyddyn yn dechrau ar 1 Ebrill 2000. Mae erthyglau 9 a 10 yn darparu ar gyfer ailgyfrifo'r gwerthoedd ardrethol hynny bob blwyddyn am y blynyddoedd canlynol, ar sail fformwla safonol.


Notes:

[1] 1988 p.41; Gweler adran 146(6) ar gyfer diffiniad o "prescribed". Diwygiwyd adran 143(2) gan baragraff 72(2) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Diwygiwyd paragraff 3(1) a (2) o Atodlen 6 gan baragraff 38(12) a (13) o Atodlen 5 i Ddeddf 1989.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1994/3282 a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/962 ac O.S. 1996/912. Mae'r Gorchymyn hwn yn parhau effaith Gorchymyn Diwydiant Cyflenwi Trydan (Gwerthoedd Ardrethol) 1989 (O.S. 1989/2474) a Gorchymyn Cynhyrchwyr Trydan (Gwerthoedd Ardrethol) 1989 (O.S. 1989/2475) mewn perthynas â rhestri ardrethu annomestig mewn grym cyn 1 Ebrill 1995.back

[4] O.S. 1995/962.back

[5] O.S. 1996/912 fel y'i ddiwygiwyd.back

[6] Diwygiwyd adran 58 gan baragraff 68 o Atodlen 13 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1989 (p.14), adran 2 o Ddeddf Ardrethu Annomestig 1994 (p.3) ac adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p.29).back

[7] Diwygiwyd baragraff 2 a mewnosodwyd paragraffau 2A a 2B gan baragraff 38(3) i (11) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.back

[8] O.S. 1999/3453 (Cy.50).back

[9] 1998 p.38.back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001163w.html