BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cefnffordd Dolgellau-Man i'r de o Birkenhead (A494) (Gwelliant yn Nhafarn y Gelyn) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001283w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif. 1283 (W. 98 )

PRIFFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd Dolgellau-Man i'r de o Birkenhead (A494) (Gwelliant yn Nhafarn y Gelyn) 2000

  Wedi'i wneud 10 Mai 2000 
  Yn dod i rym 25 Mai 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 10 o Ddeddf Priffyrdd 1980[1] a phob pwer galluogi arall.

     1. Daw'r briffordd newydd y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym.

    
2. Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd.

    
3. Bydd y darn o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog bras ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd a daw'n ffordd ddiddosbarth o'r dyddiad y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hysbysu Cyngor Sir Dinbych bod y gefnffordd newydd yn agored i draffig trwodd.

    
4. Yn y Gorchymyn hwn mesurir pob pellter ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;

      i. Ystyr "y plan a adneuwyd" yw'r plan sy'n dwyn y rhif HA10/2 NAFW 2, sydd wedi'i farcio "Gorchymyn Cefnffordd Dolgellau-Man i'r De o Birkenhead (A494) (Gwelliant yn Nhafarn y Gelyn) 2000", sydd wedi'i lofnodi drwy awdurdod Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi'i adneuo yn Yr Uned Storio ac Adfer Cofnodion (RSRU), Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd.

      ii. ystyr "y gefnffordd newydd" yw'r briffordd a grybwyllir yn Erthygl 1 o'r Gorchymyn hwn;

      iii. ystyr "y gefnffordd" yw Cenffordd Dolgellau-Man i'r De o Birkenhead (A494).

     5. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 25 Mai

2000 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Dolgellau-Man i'r De o Birkenhead (A494) (Gwelliant yn Nhafarn y Gelyn) 2000.



Llofnodwyd ar ran Ysgrifennydd y Cynulliad dros Amgylchedd.


D. M. Timlin
Pennaeth yr Adran Gweinyddu Ffyrdd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dyddiedig y10 Mai 2000



ATODLEN 1

LLWYBR Y GEFNFFORDD NEWYDD


Mae llwybr y gefnffordd newydd yn llwybr sydd wedi'i leoli yn Sir Ddinbych rhwng Llanferres a'r Wyddgrug fel a ganlyn:-

Llwybr rhyw 0.72 cilometr o hyd sy'n dechrau mewn man 115 metr i'r gogledd o gyffordd y ffyrdd diddosbarth sy'n arwain at Foel Famau a Maeshafn a'r gefnffordd (a adwaenir fel Croesffordd Pen-y-waun), sydd wedi'i farcio Pwynt A ar y plan a adneuwyd) ac yn mynd tua'r gogledd-ddwyrain, gan derfynu mewn man tua 205 metr i'r gogledd-ddwyrain o gyffordd y ffordd ddiddosbarth sy'n arwain at Gilcain, yn Nhafarn y Gelyn, a'r gefnffordd, (sydd wedi'i farcio pwynt B ar y plan a adneuwyd).



ATODLEN 2

DARN O GEFNFFORDD SY'N PEIDIO Â BOD YN GEFNFFORDD


Y darn o'r gefnffordd sy'n peidio â bod yn gefnffordd yw'r darn hwnnw o'r gefnffordd sy'n dechrau ar bwynt ar y gefnffordd 285 metr i'r gogledd o Bont y Cacwn (a ddangosir fel AA ar y plan a adeuwyd) ac sy'n ymestyn tua'r gogledd-ddwyrain am ryw 0.45 cilometr hyd at bwynt ar y gefnffordd ryw 158 metr i'r gogledd-ddwyrain o'i chyffordd â'r ffordd ddiddosbarth i Gilcain (a ddangosir fel BB ar y plan a adneuwyd),


Notes:

[1] 1980, p.66back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001283w.html