BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001717w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1717 (Cy.117)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 22 Mehefin 2000 
  Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2000 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 52(2) a (3), 138(8) a 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2000.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn -

    ystyr "awdurdod" ("authority") yw awdurdod addysg lleol;

    ystyr "blwyddyn ariannol" ("financial year") yw cyfnod o ddeuddeg mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;

    ystyr "cyfran ysgol o'r gyllideb" ("school's budget share") yw cyfran ysgol o'r gyllideb o fewn ystyr adran 47(1) o Ddeddf 1998;

    ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

    ystyr "datganiad alldro" ("outturn statement") yw'r datganiad y cyfeirir ato yn adran 52(2) o Ddeddf 1998;

    ystyr "datganiad cyllideb" ("budget statement") yw'r datganiad y mae'n ofynnol i'r awdurdod ei gyhoeddi yn unol ag adran 52(1) o Ddeddf 1998 a Rheoliadau 1999;

    ystyr "Deddf 1998" ("the 1998 Act") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

    ystyr "ysgol" ("school") yw ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig.

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sydd â'r rhif hwnnw ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad sydd â'r rhif hwnnw.

Diddymu a darpariaethau trosiannol
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Addysg (Datganiadau Ariannol Ysgolion) (Manylion Penodedig etc.) 1995[4] a Rheoliadau Addysg (Datganiadau Ariannol Ysgolion) (Manylion Penodedig etc.) (Diwygio a Diddymu)1996[5] wedi'u diddymu yn gymaint â'u bod yn gymwys i ddatganiadau alldro (fel y'u diffiniwyd ynddynt) awdurdodau addysg lleol yng Nghymru.

    (2) Er hynny, fe fydd y Rheoliadau hynny yn dal yn gymwys i awdurdodau addysg lleol yng Nghymru mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 1996 neu wedyn a chyn 1 Ebrill 2000.

Ffurf datganiadau alldro
     4.  - (1) Rhaid paratoi datganiad alldro mewn dwy ran.

    (2) Rhaid i bob rhan gynnwys pennawd ar frig y tudalen cyntaf yn nodi mai datganiad alldro ydyw, enw'r awdurdod y paratowyd y datganiad ganddo a'r flwyddyn ariannol y mae'n cyfeirio ati.

Gwybodaeth ar gyfer datganiadau alldro
    
5.  - (1) Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn Rhan I o unrhyw ddatganiad alldro yw - 

    (2) Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn Rhan 2 o ddatganiad alldro, mewn perthynas â phob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod (wedi'i hadnabod yn ôl ei henw a'r rhif cyfeirio swyddogol a ddyrannwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol), yw  - 

    (a) swm cyfran yr ysgol o'r gyllideb am y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad yn cyfeirio ati ac a gynhwyswyd yn Rhan 2 o ddatganiad cyllideb yr awdurdod;

    (b) manylion unrhyw godiadau neu ostyngiadau yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb o fewn y flwyddyn yn sgil unrhyw ailbenderfynu ar ei chyfran o'r gyllideb yn unol â rheoliad 19 o Reoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999[7];

    (c) manylion unrhyw symiau a ddyrannwyd i'r ysgol nad ydynt yn dod o fewn is-baragraff (b);

         (ch) y cyfanswm a ddyrannwyd i'r ysgol gan yr awdurdod yn y flwyddyn ariannol honno;

    (d) y balans a ddygwyd ymlaen o'r flwyddyn ariannol flaenorol mewn perthynas ag unrhyw ormodedd neu ddiffyg yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb mewn unrhyw flwyddyn ariannol flaenorol;

         (dd) y swm sydd i'w gario ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf mewn perthynas ag unrhyw ormodedd neu ddiffyg yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb am y flwyddyn ariannol honno neu am unrhyw flwyddyn ariannol flaenorol;

    (e) cyfanswm y gwariant a briodolwyd i'r ysgol, a geir drwy adio'r gwahaniaeth rhwng y swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (d) a'r swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (dd) i'r cyfanswm y trefnwyd ei fod ar gael i'r ysgol gan yr awdurdod;

    (f) unrhyw swm a driniwyd gan yr awdurdod fe pe bai'n incwm a briodolwyd i'r ysgol (ac nad yw wedi'i adlewyrchu yn unrhyw un o'r symiau a bennwyd yn y datganiad alldro yn rhinwedd is-baragraff (a), (b), (c) neu (ch) uchod).

Dull cyhoeddi datganiadau alldro
     6. Rhaid i bob datganiad alldro gael ei gyhoeddi  - 

     7.  - (1) Rhaid rhoi datganiad alldro i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy bost electronig neu ar ffurf data y gall peiriant ei ddarllen ar ddisg hyblyg a ddarperir at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Rhaid i unrhyw iaith neu feddalwedd cyfrifiadur a ddefnyddir i ddarparu'r tablau fod yn un y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r awdurdod.

Amser cyhoeddi datganiadau alldro
    
8. Rhaid i ddatganiad alldro gael ei gyhoeddi cyn y 1 Hydref nesaf yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae'n cyfeirio ati.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
8].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Mehefin 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r wybodaeth am wariant yr awdurdodau addysg lleol (AALl) ar addysg y mae'n rhaid ei chynnwys mewn datganiad (y cyfeirir ato yn y rheoliadau fel "datganiad alldro") y mae'n ofynnol i bob AALl ei baratoi ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol o dan adran 52(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (rheoliad 5).

Mae'r Rheoliadau hefyd yn pennu'r ffurf y mae'n rhaid i ddatganiadau alldro ei chymryd (rheoliad 4(1) a (2)) a dull ac amser cyhoeddi datganiadau o'r fath (rheoliadau 6-8)

Mae'r Rheoliadau'n disodli Rheoliadau cynharach sy'n cael eu diddymu (rheoliad 3).


Notes:

[1] 1998 p.31. Am ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 142(1).back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 52 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1999/451.back

[4] O.S. 1995/208.back

[5] O.S. 1996/381.back

[6] Gweler Atodlen 1 i Reoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 (O.S. 1999/101).back

[7] O.S. 1999/101.back

[8] 1998 p.38.back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001717w.html