BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Esemptiadau ar gyfer Personau Anabl)(Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001785w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1785 (Cy. 122 )

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Esemptiadau ar gyfer Personau Anabl)(Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 5 Gorffennaf 2000 
  Yn dod i rym 5 Gorffennaf 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 23 o Atodlen 9 i Ddeddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984[1] del eu hestynnwyd gan adran 21(1)(b) o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970[2], a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol[3] a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, ac wedi ymgynghori â chyrff cynrychioliadol yn unol ag adran 134(2) o'r Ddeddf 1984 honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Esemptiadau ar gyfer Personau Anabl) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 5 Gorffennaf 2000

Diddymu.
    
2. Diddymir Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Esemptiadau ar gyfer Personau Anabl) (Lloegr a Chymru) 1986 [4]).

Dehongli
     3.  - (1) Yn y rheoliadau hyn - 

    ystyr "awdurdod lleol" ("local authority") yw cyngor sir, neu gyngor bwrdeistref sirol;

    ystyr "bathodyn person anabl" ("disabled person's badge") yw bathodyn -

    (a) a roddwyd, neu sydd yn cael effaith fel petai wedi ei roi, i berson anabl neu sefydliad o dan y Rheoliadau Bathodynnau neu o dan reoliadau sy'n effeithiol yn yr Alban neu Loegr o dan gymal 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970; a

    (b) sydd yn parhau mewn grym;

    ystyr "Deddf 1984" ("the 1984 Act") yw Deddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984;

    ystyr "disg barcio" ("parking disc") yw'r ystyr a roddir yn rheoliad 8(5);

    ystyr "lôn bysiau" ("bus lane") yw'r ystyr a roddir i "bus lane" yn rheoliad 23(3) o Reoliadau Arwyddion Traffig 1994;

    ystyr "oriau gweithredu" ("hours of operation") mewn perthynas a lôn beiciau neu lôn bysiau yw'r cyfnodau pan fydd y cyfyngiadau sydd yn ei gwneud yn lôn beiciau neu'n lôn bysiau yn gymwys;

    ystyr "y Rheoliadau Bathodynnau" ("The Badges Regulations") yw Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) 2000[6].

    (2) Yn y Rheoliadau hyn - 

    (a) mae cyfeiriad at orchymyn sy'n cynnwys darpariaeth o fath penodol yn cynnwys cyfeiriad at orchymyn sy'n cymhwyso darpariaeth o'r math hwnnw mewn gorchymyn presennol; a

    (b) mae cyfeiriad at orchymyn a wnaed o dan unrhyw ddarpariaeth yn Neddf 1984 yn cynnwys cyfeiriad at orchymyn sy'n cael effaith fel petai wedi ei wneud o dan y Ddeddf honno, ac at orchymyn sy'n amrywio neu'n diddymu gorchymyn sy'n cael effaith fel petai wedi ei wneud o dan y Ddeddf honno.

Ystyr "safle perthnasol"
     4.  - (1) Mae cerbyd yn arddangos bathodyn person anabl yn y safle perthnasol os yw'n cael ei arddangos yn y modd a ragnodir gan reoliad 12 o'r Rheoliadau Bathodynnau.

    (2) Mae cerbyd yn arddangos disg barcio yn y safle perthnasol - 

fel bod y cyfnod o chwarter awr pan ddechreuodd y cyfnod aros yn eglur ddarllenadwy o'r tu allan i'r cerbyd pan fydd y cyfnod wedi ei farcio ar y ddisg.

Cymhwyso
    
5. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw orchymyn ynglyn â ffordd sydd wedi'i wneud gan gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru o dan adrannau 1, 9, 35, 45, neu 46 o Ddeddf 1984.

Esemptiad ar gyfer cerbydau sy'n arddangos bathodynnau person anabl
    
6.  - (1) Bydd darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn yn effeithiol i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnwys, mewn gorchmynion y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, esemptiadau ar gyfer cerbyd sy'n arddangos bathodyn person anabl.

    (2) Ceir cyfyngu unrhyw esemptiad o ddarpariaeth (y mae'r Rheoliadau hyn yn gorfodi ei chynnwys) mewn gorchymyn i gerbydau o'r un dosbarth â'r rhai y mae'r ddarpariaeth yn gymwys iddynt.

Esemptiad rhag gwaharddiadau ar aros yn fwy nag amser penodedig
    
7.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i orchymyn sydd wedi'i wneud o dan adran 1, 9, 35, 45 neu 46 o Ddeddf 1984  - 

    (2) Rhaid i orchymyn y bydd y rheoliad hwn yn gymwys iddo gynnwys esemptiad o'r gwaharddiad er budd cerbyd sy'n dangos bathodyn person anabl yn y safle perthnasol.

Esemptiadau rhag gwaharddiadau ar aros ar bob adeg neu yn ystod cyfnodau penodol
    
8.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i orchymyn sydd wedi'i wneud o dan adrannau 1, 9, 35, 45 neu 46 o Ddeddf 1984 sy'n cynnwys darpariaeth  - 

    (2) Rhaid i orchymyn y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo gynnwys esemptiad rhag y gwaharddiad yn unol â pha un bynnag o baragraffau (3) neu (4) sy'n briodol ar gyfer unrhyw gerbyd sy'n arddangos bathodyn person anabl yn y safle perthnasol.

    (3) Pan na fydd cyfnod y gwaharddiad yn fwy na thair awr, rhaid i'r esemptiad bara am y cyfan o'r cyfnod hwnnw.

    (4) Pan fydd cyfnod y gwaharddiad yn fwy na thair awr bydd yr esemptiad yn para am gyfnod o dair awr, yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol: - 

    (5) Yn y rheoliad hwn ystyr "disg barcio" yw dyfais sydd  - 

Esemptiadau rhag darpariaethau eraill gorchmynion o dan adran 45 neu 46 o Ddeddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984
    
9.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i orchymyn sydd wedi'i wneud o dan adran 45 neu 46 o Deddf 1984 sy'n rhagnodi - 

    (2) Rhaid i orchymyn y bydd y rheoliad hwn yn gymwys iddo gynnwys esemptiad rhag pob un o'r materion a bennir felly ar gyfer cerbyd sy'n arddangos bathodyn person anabl yn y safle perthnasol.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [
7].


D Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Gorffennaf 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Diben y Rheoliadau hyn (gyda Rheoliadau cysylltiedig ar Fathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) yw cyflwyno cyfundrefn bathodynnau glas ar gyfer personau anabl o Gymru fydd yn cael eu derbyn ar draws yr Undeb Ewopeaidd yn lle'r un bresennol sy'n seiliedig ar fathodynnau oren.

Mae rheoliadau tebyg yn cael eu gwneud yn y rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn dilyn Argymhelliad a wnaed ym 1998 gan Gyngor yr Undeb Ewropeaidd.

Gall awdurdodau lleol wneud gorchmynion yngln â pharcio o dan Ddeddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984. Pennwyd esemptiadau ar gyfer personau anabl y byddai'n ofynnol i'r awdurdodau lleol eu cynnwys mewn gorchmynion yngln â gwaharddiadau a chyfyngiadau parcio a'r tâl y gellid ei godi yn Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Esemptiadau ar gyfer Personau Anabl)(Lloegr a Chymru) 1986.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu Rheoliadau 1986 (rheoliad 2).

Yn rheoliadau 3 a 4 dehonglir termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau.

Mae rheoliadau 5 i 9 yn pennu'r gorchymynion perthnasol a'r modd y bydd yr esemptiadau yn effeithio arnynt.


Notes:

[1] 1984 p.27.back

[2] 1970 p.44; diwygiwyd adran 21 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) Atodlen 30; Deddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1973 (p.65), Atodlen 14; Deddf Trafnidiaeth 1982 (p.49),adran 68; Deddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984 (p.27), Atodlen 13, paragraff 11; Deddf Llywodraeth Leol 1985 (p.51), Atodlen 5; Deddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40), adran 35, Atodlen 8; Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19), Atodlen 10, paragraff 8; a Deddf Llywodraeth Leol etc. (yr Alban) 1994 (p.39), Atodlen13, paragraff 86.back

[3] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau)1999 (O.S.1999/672).back

[4] (ch) O.S. 1986/178, y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Nid yw'r Rheoliadau hyn bellach yn gymwys yn Lloegr yn rhinwedd Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol( Esemptiadau ar gyfer Personau Anabl) (Lloegr) 2000 (O.S. 2000/683).back

[5] O.S. 1994/1519, gweler Rhan I.back

[6] O.S. 2000/ 1786 (Cy. 123).back

[7] 1998 p.38.back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001785w.html