BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur)(Cymru) 2000 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001786w.html |
[New search] [Help]
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 [1] a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol [2] a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, ac wedi ymgynghori â Chyngor y Tribwnlysoedd yn unol ag adran 21(7E) o'r Ddeddf honno, trwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2000. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at orchymyn wedi'i wneud o dan unrhyw ddarpariaeth o Ddeddf 1984 yn gyfeiriad at orchymyn wedi'i wneud, neu sydd ag effaith fel petai wedi'i wneud, o dan y ddarpariaeth honno, gan gynnwys gorchymyn sy'n amrywio neu'n diddymu gorchymyn wedi'i wneud, neu sydd ag effaith fel petai wedi'i wneud o dan y Ddeddf honno.
(ii) unrhyw berson arall a ddefnyddiodd fathodyn o'r fath gyda chydsyniad y deiliad;
o dramgwydd a bennir ym mharagraff (4); neu
(4) Y tramgwyddau a grybwyllwyd ym mharagraff (3)(a) uchod yw -
(ii) sy'n ymwneud ag unrhyw faterion a grybwyllwyd ym mharagraff 7 neu 8 o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno; neu
(b) unrhyw dramgwydd o dan adrannau 35A(1) a (2), 47(1), 53(5), 53(6) neu 117(1) o'r Deddf honno.
(5) Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig.
(b) bydd unrhyw fathodyn a roddwyd gan awdurdod lleol yng Nghymru o dan Reoliadau 1982 yn effeithiol fel petai wedi ei roi o dan y Rheoliadau hyn a bydd yn parhau mewn grym
(ii) nes rhoi bathodyn yn lle un arall yn unol â rheoliad 7.
(3) Bydd unrhyw orchymyn wedi'i wneud o dan Ddeddf 1984 sy'n cyfeirio at fathodyn person anabl, mewn perthynas ag unrhyw amserau ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn effeithiol fel petai'r cyfeiriad yn cynnwys cyfeiriad at fathodyn a roddwyd, neu yn effeithiol fel petai wedi ei roi, yn unol â'r Rheoliadau hyn. Disgrifiadau o bersonau anabl 4. - (1) Y disgrifiadau rhagnodedig o berson anabl y gall awdurdod lleol roi bathodyn person anabl iddo yw person dros ddwy flwydd oed sydd yn cyfateb ag un neu fwy o'r disgrifiadau a bennir ym mharagraff (2). (2) Y disgrifiadau yw person sydd -
(b) yn defnyddio cerbyd modur a ddarparwyd gan yr Adran Nawdd Cymdeithasol neu Weithrediaeth yr Alban neu sy'n derbyn grant yn unol ag adran 5(2) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 [7] neu adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (yr Alban) 1978 [8]; (c) wedi'i gofrestru'n ddall o dan adran 29(4)(g) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 [9]) neu, yn yr Alban, sydd yn berson dall o fewn ystyr adran 64(1) o'r Deddf honno; (ch) yn derbyn atodiad symudedd o dan erthygl 26A o Orchymyn Pensiynau Gwasanaeth y Lluoedd Morwrol, Milwrol ac Awyrol ayb. (Anabledd a Marwolaeth) 1983 [10] gan gynnwys unrhyw atodiad yn rhinwedd unrhyw gynllun neu orchymyn o dan erthygl 25A o Gynllun Anafiadau Personol (Gweithwyr Sifil) 1983 [11]; (d) yn gyrru cerbydau modur yn rheolaidd; sydd ag anabledd difrifol i'w ddwy fraich a heb allu defnyddio'i ddwylo i droi llyw cerbyd modur hyd yn oed os oes nobyn troi wedi'i ffitio i'r llyw; neu (dd) ag anabledd parhaol a sylweddol sy'n achosi anallu i gerdded neu anhawster cerdded sylweddol iawn.
Bathodynnau sefydliad
(b) bod y ceisydd yn methu â rhoi i'r awdurdod lleol dystiolaeth ddigonol -
(ii) yn achos sefydliad, ei fod yn sefydliad sy'n gymwys i wneud cais am fathodyn person anabl yn unol â rheoliad 5;
(c) bod y ceisydd yn methu â thalu'r ffi (os oes un) sy'n daladwy am roi bathodyn; neu
(ii) y byddai'r ceisydd yn caniatáu i berson arall (na roddwyd y bathodyn iddo) arddangos y bathodyn ar gerbyd modur.
(3) Pan gaiff awdurdod lleol gais am fathodyn person anabl ac yn gwrthod rhoi un, rhaid iddo roi manylion o'r seiliau dros wrthod i'r ceisydd yn yr hysbysiad penderfynu.
(b) marwolaeth y deiliad, neu, yn achos bathodyn sefydliad, fod y sefydliad wedi peidio â bod; (c) bod deiliad y bathodyn wedi peidio â bod yn berson anabl, neu, yn achos bathodyn sefydliad, fod y sefydliad wedi peidio â bod yn gymwys o dan reoliad 5; (ch) bod bathodyn wedi ei roi o dan reoliad 7 yn lle un a gollwyd neu a ddygwyd a bod y bathodyn gwreiddiol wedi ei ddarganfod neu wedi ei adfer; (d) bod y bathodyn wedi ei ddifrodi neu wedi colli ei liw gymaint fel nad yw'n eglur ddarllenadwy pan arddangosir ef ar gerbyd modur; (dd) nad oes ar y deiliad angen y bathodyn mwyach.
(2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaeth rheoliad 10, rhaid dychwelyd bathodyn person anabl i'r awdurdod rhoi o fewn y cyfnod a ragnodwyd, os yw'r awdurdod yn rhoddi hysbysiad i'r deiliad -
(b) yn datgan bod yr awdurdod wedi'i fodloni bod y bathodyn wedi ei gael drwy anwiredd.
(3) At ddibenion paragraff (2), y cyfnod a ragnodwyd yw -
(b) os gwneir apêl yn unol â rheoliad 10(1) ac na chaniateir yr apêl, bydd y cyfnod o 28 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoddi hysbysiad o'i benderfyniad ar yr apêl.
(4) Caiff yr awdurdod rhoi gymryd unrhyw gamau sy'n briodol i gael bathodyn person anabl yn ôl y mae'r deiliad yn gorfod ei ddychwelyd yn unol â'r rheoliad hwn.
(b) unrhyw sylwadau y mae'n dymuno i'r Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ar yr apêl.
(6) Caiff yr apelydd wneud sylwadau mewn ymateb i sylwadau'r awdurdod lleol o fewn y cyfnod o 28 diwrnod yn dechrau gyda dyddiad y sylwadau hynny.
(b) anfon copi o'r hysbysiad at yr awdurdod lleol.
(10) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gwrthod apêl, rhaid i'r apelydd ddychwelyd y bathodyn person anabl i'r awdurdod lleol o fewn yr amser a ragnodir gan reoliad 9(3)(b). Ffurf Bathodyn 11. Bydd bathodyn person anabl yn y ffurf ragnodedig -
(ii) yn Rhan II o'r Atodlen yn achos bathodyn sefydliad; a
(b) os yw'r bathodyn yn cydymffurfio â'r manylebau yn Rhan III o'r Atodlen.
Y modd y mae bathodyn i gael ei arddangos
(b) pan nad oes gan y cerbyd ddangosfwrdd neu banel deialau, os arddangosir y bathodyn mewn lle amlwg ar y cerbyd, fel bod blaen y bathodyn yn eglur ddarllenadwy o'r tu allan i'r cerbyd.
Arddangos bathodyn unigolyn pan fydd cerbyd yn cael ei yrru
(b) os yw consesiwn person anabl (ar wahân i gonsesiwn yn ymwneud â pharcio) ar gael i gerbyd sy'n arddangos yn gyfreithlon fathodyn person anabl; ac (c) y byddai'n anymarferol i'r cerbyd gael ei yrru'n gyfreithlon i'r man lle mae'r deiliad i gael ei gasglu, neu stopio yno, pe na bai'r consesiwn yn gymwys i'r cerbyd.
(4) Ceir arddangos bathodyn unigolyn ar gerbyd -
(b) os yw consesiwn person anabl (ar wahân i gonsesiwn yn ymwneud â pharcio) ar gael i gerbyd sy'n arddangos yn gyfreithlon fathodyn person anabl; ac (c) os byddai'n anymarferol i'r cerbyd gael ei yrru'n gyfreithlon o'r man hwnnw pe na bai'r consesiwn yn gymwys i'r cerbyd.
Arddangos bathodyn unigolyn pan fydd cerbyd wedi ei barcio
(b) os yw'r cerbyd i gael ei yrru gan y deiliad, neu i'w gario o'r man hwnnw.
Arddangos bathodyn sefydliad pan fydd cerbyd yn cael ei yrru
(b) mae consesiwn person anabl (ar wahân i gonsesiwn yn ymwneud â pharcio) ar gael i gerbyd sy'n arddangos yn gyfreithlon fathodyn person anabl; ac (c) y byddai'n anymarferol i'r cerbyd gael ei yrru'n gyfreithlon i'r man lle mae'r person anabl i gael ei gasglu, neu stopio yno, pe na bai'r consesiwn yn gymwys i'r cerbyd.
(4) Ceir arddangos bathodyn sefydliad ar gerbyd hefyd tra bydd yn cael ei yrru gan neu ar ran y deiliad ac -
(b) mae consesiwn person anabl (ar wahân i gonsesiwn yn ymwneud â pharcio) ar gael i gerbyd sy'n arddangos yn gyfreithlon fathodyn person anabl; ac (c) y byddai'n anymarferol i'r cerbyd ymadael â'r man hwnnw pe na bai'r consesiwn yn gymwys i'r cerbyd.
Arddangos bathodyn sefydliad pan fydd cerbyd wedi ei barcio MANYLION AR GYFER BATHODYN Rhaid i'r bathodyn fod fel a ganlyn: 106 milimetr o ran uchder; 148 milimetr o ran lled; rhaid i'r cefndir ar flaen a chefn y bathodyn fod wedi'i liwio'n las golau a rhaid iddo gynnwys cefndir o symbolau cadair olwyn; rhaid i'r blwch sgwâr sy'n cynnwys symbol y gadair olwyn a'r blwch hirsgwar sy'n cynnwys dynodydd y wlad fod wedi'u lliwio'n las tywyll. Rhaid i bob blwch arall ar y bathodyn fod wedi'u lliwio'n wyn. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Diben y Rheoliadau hyn (gyda Rheoliadau cysylltiedig ar Esemptiadau ar gyfer Personau Anabl) yw cyflwyno cyfundrefn bathodynnau glas ar gyfer personau anabl o Gymru fydd yn cael eu derbyn ar draws yr Undeb Ewopeaidd yn lle'r un bresennol sy'n seiliedig ar fathodynnau oren. Mae rheoliadau tebyg yn cael eu gwneud yn y rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn dilyn Argymhelliad a wnaed ym 1998 gan Gyngor yr Undeb Ewropeaidd. Yn rheoliad 2 pennir ystyron termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn. Mae Rheoliad 3 yn dirwyn i ben effaith y rheoliadau blaenorol (Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) 1982) yng Nghymru, heblaw am agweddau trosiannol a ddisgrifir yn y Rheoliad hwn. Mae Rheoliad 4 yn rhagnodi'r personau hynny y gellir rhoddi bathodyn iddynt, a rheoliad 5 yn rhoi'r hawl i awdurdod lleol hefyd i roi bathodyn i sefydliad. Rheoliad 6 sy'n pennu'r ffi uchaf y caiff awdurdod lleol ei mynnu (£2.00) ac mae rheoliad 7 yn delio â rhoi bathodyn yn lle un a gollwyd ayb. Rheoliad 8 sy'n dweud pryd caiff awdurdod lleol roi hysbysiad yn gwrthod rhoi bathodyn a rheoliad 9 pryd y caiff roi hysbysiad yn mynnu bathodyn yn ôl. Bydd gan unigolyn neu sefydliad hawl i wneud apêl yn erbyn hysbysiad o'r fath i'r Cynulliad Cenedlaethol. Rhoddir y drefn ar gyfer gwneud hynny yn rheoliad 10. Rheoliad 11 sy'n rhagnodi ffurf y bathodyn drwy gyfeirio at Atodlen a rheoliad 12 sut y mae'n rhaid ei arddangos. Yn rheoliadau 13 i 16 disgrifir yr amgylchiadau pryd y ceir arddangos bathodyn. Bwriedir gwneud rheoliadau pellach fydd yn pennu'r drefn ar gyfer cynnal apeliadau o dan reoliad 10 i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn dilyn ymgynghori priodol. Notes: [1] 1970 p.44; diwygiwyd adran 21 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70), Atodlen 30; Deddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1973 (p.65), Atodlen 14; Deddf Trafnidiaeth 1982 (p.49),adran 68; Deddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984 (p.27), Atodlen13, paragraff 11; Deddf Llywodraeth Leol 1985 (p.51), Atodlen 5; Deddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40), adran 35, Atodlen 8; Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19), Atodlen 10, paragraff 8; a Deddf Llywodraeth Leol ayb. (Yr Alban) 1994 (p.39), Atodlen13, paragraff 86.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau)1999 (O.S. 1999/672).back [4] O.S. 1982/1740, a ddiwygiwyd gan O.S. 1991/2708 a 1992/200. Nid yw'r Rheoliadau hyn bellach yn gymwys yn Lloegr yn rhinwedd Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Lloegr) 2000 (O.S. 2000/682) nac yn yr Alban yn rhinwedd Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Yr Alban) 2000 (O.S.A. 2000/59).back [10] O.S. 1983/883, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1983/1116 ac 1121, 1984/1154 ac 1687, 1985/1201, 1986/592, 1988/248 a 2248, 1989/156, 1990/250 ac 1308, 1991/766, 1992/710 a 3208, 1993/598, 1994/772 ac 1906, 1995/766, 1996/732, 1638 a 2282, ac 1997/286.back [11] O.S. 1983/686, a ddiwygiwyd gan O.S. 1983/1164 ac 1540, 1984/1289 ac 1675, 1985/1313, 1986/628, 1987/191, 1988/367 a 2260, 1989/415, 1990/535 ac 1300, 1991/708, 1992/702 a 3226, 1993/480, 1994/715 a 2021, 1996/445 a 502, 1997/812, ac 1998/278.back
|