BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001979w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1979 (Cy. 140 )

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000

  Wedi'u gwneud 24 Gorffennaf 2000 
  Yn dod i rym
  Rheoliadau 12 a 17 1 Chwefror 2001 
  Rheoliad 16 1 Rhagfyr 2000 
  Y gweddill 1 Medi 2000 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 3(3)(d), 4, 5, 14 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:



RHAN I

CYFLWYNIAD

Enwi a chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000.

    (2) Daw rheoliadau 12 a 17 i rym ar 1 Chwefror 2001, daw rheoliad 16 i rym ar 1 Rhagfyr 2000, a daw'r holl reoliadau eraill i rym ar 1 Medi 2000.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall  - 

    ystyr "athro neu athrawes cynllun carlam" ("fast track teacher") yw athro neu athrawes ddosbarth y mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Chyflogaeth neu asesydd a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol wedi eu hardystio felly;

    ystyr "athro neu athrawes gofrestredig" ("registered teacher") yw person sydd am y tro wedi'i gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998;

    ystyr "athro neu athrawes sydd wedi croesi'r trothwy" ("teacher who has passed the threshold") yw athro neu athrawes y mae asesydd a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Chyflogaeth wedi ardystio eu bod wedi croesi'r trothwy perfformiad a bennwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu y mae pennaeth neu berson arall wedi eu hardystio felly o dan drefniadau sydd wedi'u cymeradwyo gan asesydd;

    ystyr "athro neu athrawes uwch-fedrau" ("advanced skills teacher") yw athro neu athrawes y mae asesydd a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Chyflogaeth wedi ardystio eu bod yn gymwys i'w penodi i swydd athro neu athrawes uwch-fedrau;

    ystyr "Cod Ymarfer" ("Code of Practice") yw'r cod ymarfer yr awdurdodir ei gyhoeddi o dan reoliad 13;

    mae "cyflogydd" ("employer") mewn perthynas ag athro neu athrawes yn cynnwys person sy'n rhoi gwaith i'r athro neu'r athrawes neu yn trefnu rhoi gwaith iddynt er mwyn iddynt ddarparu eu gwasanaeth fel athro neu athrawes heblaw o dan gontract cyflogaeth, a dehonglir "darpar gyflogydd" ("prospective employer"), "cyflogi" ("employed"), a "cyflogaeth" ("employment") yn unol â hynny;

    ystyr "cyfnod ymsefydlu" ("induction period") yw cyfnod ymsefydlu a fwrir yn unol â rheoliadau a wneir mewn perthynas â Chymru neu Loegr o dan adran 19 o Ddeddf 1998[4];

    ystyr "y Cyngor" ("the Council") yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;

    ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

    ystyr "Deddf 1988" ("the 1988 Act") yw Deddf Diwygio Addysg 1988[5];

    ystyr "Deddf 1998" ("the 1998 Act") yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

    ystyr "y Gofrestr" ("the Register") yw'r gofrestr o athrawon ac athrawesau y mae'n ofynnol i'r Cyngor ei sefydlu a'i chadw yn unol ag adran 3 o Ddeddf 1998 a'r Rheoliadau hyn, a dehonglir "cofrestru" ("registration") yn unol â hynny;

    ystyr "person anghofrestredig" ("unregistered person") yw person nad yw'n athro neu'n athrawes gofrestredig;

    mae i "sefydliad yn y sector addysg bellach" yr ystyr a roddir i "institution within the further education sector" gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[6];

    mae i "sefydliad yn y sector addysg uwch" yr ystyr a roddir i "institution within the higher education sector" gan adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;

    mae i "ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol" yr un ystyr ag a roddir i "school maintained by a local education authority" yn adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[7];

    mae i "ysgol annibynnol" yr un ystyr ag a roddir i "independent school" yn adran 463 o Ddeddf Addysg 1996[8]);

    mae i "ysgol arbennig" yr un ystyr ag a roddir i "special school" yn adran 337(1) o Ddeddf Addysg 1996[9]; ac

    ystyr "ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal" ("non-maintained special school") yw ysgol arbennig nad yw'n ysgol arbennig gymunedol nac yn ysgol arbennig sefydledig.

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at  - 

    (a) rheoliad, Rhan neu Atodlen â rhif, yn gyfeiriad at y rheoliad, y Rhan neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

    (b) paragraff â rhif, yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen y gwelir y cyfeiriad ynddynt; ac

    (c) is-baragraff â rhif, yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y paragraff y gwelir y cyfeiriad ynddo.



RHAN II

COFRESTRU ATHRAWON

Anghymhwyso rhag cofrestru
     3. At ddibenion adran 3(3)(d) o Ddeddf 1998, nid yw person yn gymwys i'w gofrestru os yw'n anghymwys i'w gofrestru fel athro neu athrawes, neu wedi'i anghymhwyso rhag bod yn athro neu'n athrawes mewn unrhyw ysgol, yn rhinwedd  - 

Ceisiadau am gofrestru
     4.  - (1) Rhaid i gais am gofrestru gynnwys  - 

    (2) Caiff y Cyngor wneud darpariaeth bellach ynghylch  - 

Cofrestru pan sefydlir y Gofrestr
    
5.  - (1) Pan sefydlir y Gofrestr, caiff y Cyngor gofrestru personau sy'n gymwys i'w cofrestru nad ydynt wedi gwneud cais am gofrestru.

    (2) Rhaid i'r Cyngor anfon cadarnhad ysgrifenedig eu bod wedi'u cofrestru at bob person a gofrestrir o dan baragraff (1).

    (3) Rhaid i'r Cyngor ddarparu, yn ddi-dâl, gopi o'r wybodaeth a gofnodir yn y Gofrestr wrth ochr enw person a gofrestrir o dan baragraff (1), os bydd y person hwnnw'n gofyn amdano.

Cynnwys y Gofrestr
    
6.  - (1) Cofnodir yn y Gofrestr, wrth ochr enwau'r rhai a gofrestrir ynddi, y materion a restrir yn Atodlen 1.

    (2) Caiff y Cyngor wneud darpariaeth ynghylch materion ychwanegol i'w cofnodi yn y Gofrestr.

Rhannu'r Gofrestr yn rhannau ar wahân
    
7. Caiff y Cyngor wneud darpariaeth ynghylch rhannu'r Gofrestr yn rhannau ar wahân.

Diwygio cofnodion yn y Gofrestr
    
8. Caiff y Cyngor wneud darpariaeth ynghylch adfer a newid cofnodion yn y Gofrestr, a throsglwyddo cofnodion rhwng rhannau gwahanol o'r Gofrestr.

Codi ffioedd cofrestru
    
9. Caiff y Cyngor wneud darpariaeth  - 

Tynnu cofnodion oddi ar y Gofrestr
    
10. -  Caiff y Cyngor wneud darpariaeth ynghylch tynnu cofnodion oddi ar y Gofrestr pan yw'r personau o dan sylw wedi peidio â bod yn gymwys i'w cofrestru, wedi methu â thalu ffi gofrestru, neu fel arall.

Rhoi tystysgrifau cofrestru, a'u ffurf
    
11. Caiff y Cyngor wneud darpariaeth ynghylch rhoi tystysgrifau cofrestru i athrawon ac athrawesau cofrestredig, ac ynghylch ffurf y tystysgrifau hynny.

Hawl y cyhoedd i gael gwybodaeth o'r Gofrestr
    
12.

    (1) Pan ddaw cais i law oddi wrth aelod o'r cyhoedd, caiff y Cyngor roi gwybod i'r person hwnnw a yw person yn athro neu'n athrawes gofrestredig neu beidio.

    (2) Rhaid i gais o dan baragraff (1) gynnwys y manylion hynny y bydd y Cyngor yn eu pennu.

    (3) Caiff y Cyngor drefnu bod enwau athrawon ac athrawesau sydd ar y Gofrestr ar gael yn y modd y bydd y Cyngor yn ei bennu.



RHAN III

COD YMARFER

Cyhoeddi Cod Ymarfer a'i ddiwygio
    
13. Caiff y Cyngor gyhoeddi Cod Ymarfer, a'i ddiwygio o dro i dro, i nodi safonau ar gyfer ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir oddi wrth athrawon ac athrawesau cofrestredig.

Darparu copïau o'r Cod Ymarfer
    
14.  - (1) Rhaid i'r Cyngor drefnu bod copïau o'r Cod Ymarfer ar gael yn ddi-dâl i bob athro ac athrawes gofrestredig  - 

    (a) pan gaiff y Cod Ymarfer ei gyhoeddi gyntaf neu pan gaiff athro neu athrawes eu cofrestru am y tro cyntaf (os nad oeddent yn athro neu'n athrawes gofrestredig pan gyhoeddwyd y Cod Ymarfer gyntaf); a

    (b) os bydd y Cyngor yn penderfynu felly, pan gaiff y Cod Ymarfer ei ddiwygio.

    (2) Caiff y Cyngor drefnu bod copi o'r Cod Ymarfer ar gael ar unrhyw wefan a gynhelir gan y Cyngor ar y rhyngrwyd, ac os ydynt yn gwneud felly, mae'n rhaid iddo fod yn ddi-dâl.

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (1) a (2), pan ddaw cais i law rhaid i'r Cyngor ddarparu copïau o'r Cod Ymarfer pan delir y tâl rhesymol hwnnw a bennir gan y Cyngor.



RHAN IV

RHOI GWYBODAETH

Rhoi gwybodaeth i athrawon ac eraill
    
15.  - (1) Pan ddaw cais i law oddi wrth athro neu athrawes gofrestredig, rhaid i'r Cyngor roi copi iddynt o'r wybodaeth sydd wedi'i chofnodi ar y Gofrestr wrth ochr eu henw.

    (2) Pan ddaw cais i law oddi wrth berson y mae gan y Cyngor gofnodion amdano yn unol â gorchymyn o dan adran 7(1) a (4) o Ddeddf 1998, rhaid i'r Cyngor roi copi o'r cofnodion hynny sydd ganddynt i'r person.

Rhoi gwybodaeth i gyflogwyr
    
16.  - (1) Os daw cais i law oddi wrth gyflogydd neu ddarpar gyflogydd  - 

    (a) athro neu athrawes gofrestredig; neu

    (b) person anghofrestredig y mae gan y Cyngor gofnodion amdano yn unol â gorchymyn o dan adran 7(1) a (4) o Ddeddf 1998,

    sydd yn gyflogydd neu'n ddarpar gyflogydd y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo, rhaid i'r Cyngor roi i'r cyflogydd neu'r darpar gyflogydd hwnnw yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 2 mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes neu'r person anghofrestredig o dan sylw.

    (2) Mae paragraff (1) yn gymwys i gyflogydd neu ddarpar gyflogydd sydd  - 

    (a) yn awdurdod addysg lleol;

    (b) yn gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol;

    (c) yn gorff llywodraethu ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal;

    (ch) yn berchennog ysgol annibynnol;

    (d) yn sefydliad yn y sector addysg uwch;

         (dd) yn sefydliad yn y sector addysg bellach;

    (e) yn asiantaeth athrawon cyflenwi; neu

    (f) yn asiantaeth Addysg Plant yn y Gwasanaethau.

    (3) Mae paragraff (1) yn gymwys hefyd i awdurdod addysg lleol os corff llywodraethu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw yw'r cyflogydd neu'r darpar gyflogydd (p'un a yw'r corff llywodraethu wedi gwneud cais o dan baragraff (1) neu beidio).

    (4) Rhaid i berson y mae paragraff (1) yn gymwys iddo beidio â datgelu gwybodaeth a roddir o dan y rheoliad hwn i neb heblaw'r athro neu'r athrawes y mae'r wybodaeth yn cyfeirio atynt.

    (5) Nid yw paragraff (4) yn atal awdurdod addysg lleol rhag datgelu gwybodaeth a roddir iddynt o dan y rheoliad hwn i gorff llywodraethu'r ysgol lle y cyflogir neu y bwriedir cyflogi'r person o dan sylw.

    (6) Rhoddir unrhyw wybodaeth o dan baragraff (1) ar yr amod na ellir defnyddio'r wybodaeth ond at ddibenion canfod a yw'r athro neu'r athrawes neu'r person anghofrestredig yn addas i'w cyflogi neu i barhau mewn cyflogaeth (yn ôl fel y digwydd).

Rhoi gwybodaeth i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban
    
17.  - (1) Pan ddaw cais i law, rhaid i'r Cyngor roi'r wybodaeth a nodir yn Atodlen 2 mewn perthynas ag  - 

    (2) Pan roddir gwybodaeth o dan baragraff (1), rhaid gosod amod yn gofyn i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban beidio â datgelu'r wybodaeth honno i neb heblaw'r athro neu'r athrawes y mae'r wybodaeth yn cyfeirio atynt.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
13].


Jane Davidson
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Gorffennaf 2000



ATODLEN 1
Rheoliad 6


Y materion sydd i'w cofnodi yn y gofrestr wrth ochr enw athro neu athrawes


     1. Y rhif cyfeirnod swyddogol, os oes un, a ddyrannwyd i'r athro neu'r athrawes.

     2. Ai athro ynteu athrawes ydyw.

     3. Dyddiad geni'r athro neu'r athrawes.

     4. Os yw'n hysbys, unrhyw enw y câi'r athro neu'r athrawes eu hadnabod wrtho o'r blaen.

     5. Os yw'n hysbys, i ba grp hil y mae'r athro neu'r athrawes yn perthyn.

     6. Os yw'n hysbys, a yw'r athro neu'r athrawes yn anabl.

     7. Cyfeiriad cartref yr athro neu'r athrawes, neu gyfeiriad cyswllt arall, ac os ydynt yn hysbys rhif ffôn, rhif cyflunydd a chyfeiriad post electronig.

     8. Rhif yswiriant gwladol yr athro neu'r athrawes.

     9.  - (1) Os yw'n hysbys, pan yw'r athro neu'r athrawes yn cael eu cyflogi fel athro neu athrawes  - 

    (a) enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyflunydd a chyfeiriad post electronig yr ysgol neu'r sefydliad lle mae'r athro neu'r athrawes yn cael eu cyflogi i addysgu;

    (b) manylion y math o ysgol neu sefydliad lle mae'r athro neu'r athrawes yn cael eu cyflogi i addysgu ac enw'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol neu'r sefydliad os yw hynny'n gymwys;

    (c) ai cyflogaeth amser-llawn neu ran-amser ydyw;

    (ch) y swydd sydd gan yr athro neu'r athrawes; a

    (d) y dyddiad yr ymgymerodd yr athro neu'r athrawes â'u swydd bresennol.

    (2) Pan nad yw'r athro neu'r athrawes yn cael eu cyflogi fel athro neu athrawes ar hyn o bryd, y dyddiad diwethaf, os yw'n hysbys pryd yr oeddent yn cael eu cyflogi felly, a'r manylion ym mharagraffau (a) i (d) o is-baragraff (1) mewn perthynas â'u swydd addysgu ddiweddaraf.

     10. Os yw'n hysbys, a yw'r athro neu'r athrawes wedi ymddeol, yn cymryd saib gyrfa, yn ddi-waith neu yn cael eu cyflogi heblaw fel athro neu athrawes.

     11. Os yw'n hysbys, pan fo gan yr athro neu'r athrawes radd neu gymhwyster cyfatebol  - 

    (a) y dyddiad y'i dyfarnwyd;

    (b) y teitl;

    (c) y sefydliad a'i dyfarnodd;

    (ch) dosbarth y radd neu'r cymhwyster; a

    (d) y pwnc.

     12. Y dyddiad yr enillodd yr athro neu'r athrawes gymhwyster athro neu athrawes.

     13. Os yw'n hysbys, y dyddiad yr ymgymerodd yr athro neu'r athrawes â'u swydd gyntaf fel athro neu athrawes gymwysedig.

     14. Pan yw'r athro neu'r athrawes wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon ac athrawesau yn llwyddiannus  - 

    (a) enw'r sefydliad a ddarparodd y cwrs;

    (b) teitl neu ddisgrifiad y cwrs;

    (c) y pwnc neu'r pynciau a astudiwyd gan yr athro neu'r athrawes;

    (ch) oedrannau'r disgyblion y bwriadwyd y cwrs i baratoi'r athro neu'r athrawes i'w haddysgu; a

    (d) dyddiad dechrau a chwblhau'r cwrs.

     15. Pan enillodd yr athro neu'r athrawes gymhwyster athro neu athrawes heblaw drwy gwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon ac athrawesau yn llwyddiannus  - 

    (a) y math o raglen hyfforddi a gwblhawyd;

    (b) enw'r ysgol neu'r sefydliad lle gwnaed yr ymarfer addysgu; ac

    (c) dyddiad cwblhau'r rhaglen hyfforddi.

     16. Os ydynt yn hysbys  - 

     17. Os yw'n hysbys  - 

    (a) os yw'r athro neu'r athrawes yn athro neu athrawes sydd wedi croesi'r trothwy, nodyn i ddweud hynny, y dyddiad y bu iddynt groesi'r trothwy ac enw'r ysgol lle'r oeddent yn cael eu cyflogi wrth groesi'r trothwy;

    (b) os athro neu athrawes uwch-fedrau yw'r athro neu'r athrawes, nodyn i ddweud hynny, y dyddiad y'u hardystiwyd yn athro neu'n athrawes uwch-fedrau ac enw'r ysgol lle'r oeddent yn cael eu cyflogi wrth gael eu hardystio yn athro neu'n athrawes uwch-fedrau;

    (c) os athro neu athrawes cynllun carlam yw'r athro neu'r athrawes, nodyn i ddweud hynny, y dyddiad y bu iddynt ymuno â'r cynllun carlam, a'r ysgol lle'r oeddent yn cael eu cyflogi wrth ymuno â'r cynllun carlam.

     18.  - (1) Pan yw'r athro neu'r athrawes wedi bwrw cyfnod ymsefydlu neu ran o gyfnod ymsefydlu, boed yng Nghymru neu Loegr  - 

    (a) enw'r corff priodol (o fewn ystyr "the appropriate body" yn adran 19 o Ddeddf 1998);

    (b) y dyddiad y dechreuodd yr athro neu'r athrawes y cyfnod ymsefydlu;

    (c) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod yr athro neu'r athrawes wedi cwblhau'r cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus, a dyddiad ei gwblhau;

    (ch) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod y cyfnod ymsefydlu wedi'i estyn ar gyfer yr athro neu'r athrawes, a chyfnod yr estyniad; a

    (d) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud mai rhan yn unig o'r cyfnod ymsefydlu sydd wedi'i chwblhau gan yr athro neu'r athrawes, a'r cyfnod sydd wedi'i fwrw.

    (2) Pan nad yw'r athro neu'r athrawes wedi bwrw cyfnod ymsefydlu  - 

    (a) os yw'r athro neu'r athrawes yn esempt rhag y gofyniad i fwrw cyfnod ymsefydlu, y rheswm dros yr esemptiad; neu

    (b) os nad oedd yn ofynnol i'r athro neu'r athrawes fwrw cyfnod ymsefydlu ar yr adeg berthnasol, datganiad o'r ffaith honno[15].

     19. Os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod yr athro neu'r athrawes wedi methu cyfnod prawf, ac a yw'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cydsynio i'r athro neu'r athrawes gael eu cyflogi fel athro neu athrawes o dan reoliadau a wnaed o dan adran 218(1) a (2) o Ddeddf 1988[16].

     20. Y categori y caiff yr athro neu'r athrawes bleidleisio ynddo i ethol aelodau i'r Cyngor.

     21. Telerau unrhyw gyfyngiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes o ganlyniad i gyfarwyddyd a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn rhinwedd adran 218(6) o Ddeddf 1988[17].

     22. Telerau unrhyw gyfyngiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes o ganlyniad achos disgyblu a ddygwyd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.

     23. Nodyn i ddweud a yw'r athro neu'r athrawes wedi talu unrhyw ffi gofrestru neu beidio.

     24. Os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod yr athro neu'r athrawes wedi ymddeol o dan reoliad E4(4) o Reoliadau Pensiwn Athrawon 1997[18] (ymddeoliad afiechyd).



ATODLEN 2
Rheoliadau 16 a 17


Yr wybodaeth sydd i'w rhoi i gyflogwyr ac eraill


     1. A yw'r athro neu'r athrawes wedi'u cofrestru neu beidio.

     2. A yw'r athro neu'r athrawes yn athro neu'n athrawes gymwysedig neu beidio.

     3. Y dyddiad yr enillodd yr athro neu'r athrawes gymhwyster athro neu athrawes.

     4. Os yw'n hysbys, pan fo gan yr athro neu'r athrawes radd neu gymhwyster cyfatebol  - 

    (a) y dyddiad y'i dyfarnwyd;

    (b) y teitl;

    (c) y sefydliad a'i dyfarnodd;

    (ch) dosbarth y radd neu'r cymhwyster; a

    (d) y pwnc.

     5. Os yw'n hysbys, y dyddiad yr ymgymerodd yr athro neu'r athrawes â'i swydd gyntaf fel athro neu athrawes gymwysedig.

     6. Pan yw'r athro neu'r athrawes wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon ac athrawesau yn llwyddiannus  - 

    (a) enw'r sefydliad a ddarparodd y cwrs;

    (b) teitl neu ddisgrifiad y cwrs;

    (c) y pwnc neu'r pynciau a astudiwyd gan yr athro neu'r athrawes;

    (ch) oedrannau'r disgyblion y bwriadwyd y cwrs i baratoi'r athro neu'r athrawes i'w haddysgu; a

    (d) dyddiad dechrau a chwblhau'r cwrs.

     7. Pan enillodd yr athro neu'r athrawes gymhwyster athro neu athrawes heblaw drwy gwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon ac athrawesau yn llwyddiannus  - 

    (a) y math o raglen hyfforddi a gwblhawyd;

    (b) enw'r ysgol neu'r sefydliad lle gwnaed yr ymarfer addysgu; ac

    (c) dyddiad cwblhau'r rhaglen hyfforddi.

     8. Os ydynt yn hysbys,

    (a) manylion unrhyw gymhwyster sydd gan yr athro neu'r athrawes ar gyfer addysgu'r rhai y mae ganddynt nam ar eu golwg neu eu clyw, fel y cyfeirir ato yn rheoliad 11, 12 neu 13 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999;

    (b) os dyfarnwyd y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth i'r athro neu'r athrawes, nodyn i ddweud hynny a dyddiad y dyfarniad;

    (c) manylion unrhyw gymhwyster proffesiynol neu academaidd arall sydd gan yr athro neu'r athrawes;

    (ch) os yw'r athro neu'r athrawes yn gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, nodyn i ddweud hynny; a

    (d) os yw'r athro neu'r athraws yn gallu addysgu Cymraeg ail iaith, nodyn i ddweud hynny.

     9. Os yw'n hysbys  - 

    (a) os yw'r athro neu'r athrawes yn athro neu athrawes sydd wedi croesi'r trothwy, nodyn i ddweud hynny, y dyddiad y bu iddynt groesi'r trothwy ac enw'r ysgol lle'r oeddent yn cael eu cyflogi wrth groesi'r trothwy;

    (b) os athro neu athrawes uwch-fedrau yw'r athro neu'r athrawes, nodyn i ddweud hynny, y dyddiad y'u hardystiwyd yn athro neu'n athrawes uwch-fedrau ac enw'r ysgol lle'r oeddent yn cael eu cyflogi wrth gael eu hardystio yn athro neu'n athrawes uwch-fedrau;

    (c) os athro neu athrawes cynllun carlam yw'r athro neu'r athrawes, nodyn i ddweud hynny, y dyddiad y bu iddynt ymuno â'r cynllun carlam, a'r ysgol lle'r oeddent yn cael eu cyflogi wrth ymuno â'r cynllun carlam.

     10.  - (1) Pan yw'r athro neu'r athrawes wedi bwrw cyfnod ymsefydlu neu ran o gyfnod ymsefydlu, boed yng Nghymru neu Loegr,  - 

    (a) enw'r corff priodol (o fewn ystyr "the appropriate body" yn adran 19 o Ddeddf 1998);

    (b) y dyddiad y dechreuodd yr athro neu'r athrawes y cyfnod ymsefydlu;

    (c) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod yr athro neu'r athrawes wedi cwblhau'r cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus, a dyddiad ei gwblhau;

    (ch) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod yr athro neu'r athrawes wedi methu â chwblhau'r cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus;

    (d) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod y cyfnod ymsefydlu wedi'i estyn ar gyfer yr athro neu'r athrawes, a chyfnod yr estyniad; a

         (dd) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud mai rhan yn unig o'r cyfnod ymsefydlu sydd wedi'i chwblhau gan yr athro neu'r athrawes, a'r cyfnod sydd wedi'i fwrw.

    (2) Pan nad yw'r athro neu'r athrawes wedi bwrw cyfnod ymsefydlu  - 

    (a) os yw'r athro neu'r athrawes yn esempt rhag y gofyniad i fwrw cyfnod ymsefydlu, y rheswm dros yr esemptiad; neu

    (b) os nad oedd yn ofynnol i'r athro neu'r athrawes fwrw cyfnod ymsefydlu ar yr adeg berthnasol, datganiad o'r ffaith honno.

     11. Os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod yr athro neu'r athrawes wedi methu cyfnod prawf, ac a yw'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cydsynio i'r athro neu'r athrawes gael eu cyflogi fel athro neu athrawes o dan reoliadau a wnaed o dan adran 218(1) a (2) o Ddeddf 1988.

     12. Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes o ganlyniad i gyfarwyddyd a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn rhinwedd adran 218(6) o Ddeddf 1988.

     13. Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes o ganlyniad i achos disgyblu a ddygwyd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.

     14. Os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod yr athro neu'r athrawes wedi ymddeol o dan reoliad E4(4) o Reoliadau Pensiwn Athrawon 1997 (ymddeoliad afiechyd).



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â swyddogaethau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, corff corfforaethol a sefydlwyd gan Orchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998, a wnaed o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, adran 8. Nodau'r Cyngor yw cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu a chynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymysg athrawon ac athrawesau er lles y cyhoedd.

Mae adran 3 o'r Ddeddf yn rhoi i'r Cyngor y swyddogaeth o sefydlu a chadw cofrestr o athrawon ac athrawesau. Mae Rhan II o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch ffurf a dull cadw'r gofrestr, a materion eraill ynghylch cofrestru. Mae Rhan II hefyd yn rhagnodi amgylchiadau, yn ychwanegol at yr amgylchiadau a nodir yn adran 3 o'r Ddeddf, y mae athrawon ac athrawesau yn gymwys ac yn anghymwys i'w cofrestru odanynt.

Mae Rhan III yn awdurdodi'r Cyngor i gyhoeddi Cod Ymarfer, a'i ddiwygio o dro i dro, sef cod yn nodi safonau ar gyfer ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir oddi wrth athrawon ac athrawesau cofrestredig, ac yn gwneud darpariaeth ynghylch sut mae'r Cyngor i ddarparu copïau o'r Cod.

Mae Rhan IV yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor roi copïau o'r wybodaeth sy'n cael ei chadw amdanynt i athrawon ac athrawesau cofrestredig a phersonau eraill megis athrawon neu athrawesau cymwysedig nad ydynt wedi'u cofrestru ac y mae'r Cyngor yn cadw cofnodion amdanynt yn unol â Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000. Mae hefyd yn ofynnol i'r Cyngor roi'r wybodaeth a nodir yn Atodlen 2 i gyflogwyr a darpar gyflogwyr athrawon neu athrawesau ac i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.


Notes:

[1] 1998 p.30. Mae adrannau 1(9), 2 i 7 ac Atodlenni 1 a 2 yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911) yn effeithiol o 30 Rhagfyr 1998 ymlaen, yn achos adran 1(9) ac Atodlen 1, a 1 Medi 2000 yn achos gweddill y darpariaethau. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 43(1).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] Adeg gwneud y Rheoliadau hyn, y rheoliadau mewn grym ar gyfer Cymru o dan y ddarpariaeth hon oedd Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2817 (Cy.18)); adeg gwneud y Rheoliadau hyn, y rheoliadau mewn grym ar gyfer Lloegr o dan y ddarpariaeth hon oedd Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Lloegr) 1999 (O.S. 1999/2166).back

[4] Adeg gwneud y Rheoliadau hyn, nid oedd rheoliadau wedi'u gwneud o dan adran 19 mewn perthynas â Chymru; y rheoliadau mewn grym ar gyfer Lloegr adeg gwneud y Rheoliadau hyn oedd Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu Athrawon Ysgol) (Lloegr) 1999 (O.S. 1999/1065) a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/2211.back

[5] 1988 p.40.back

[6] 1992 p.13.back

[7] 1998 p.31.back

[8] (ch) 1996 p. 56; diwygiwyd adran 463 gan baragraffau 57 a 124 o Atodlen 30 a chan Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back

[9] 1996 p.56; diwygiwyd adran 337(1) gan baragraff 80 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back

[10] 1965 p.19.back

[11] S.R. (G.I.) 1997 Rhif 312.back

[12] (ch) O.S. 1998 Rhif 1759 (G.I. 13).back

[13] 1998 p.38.back

[14] O.S. 1999/2817 (Cy.18).back

[15] Adeg gwneud y Rheoliadau hyn, nid oedd ymsefydlu'n ofynnol ar gyfer athrawon ac athrawesau yng Nghymru; nid oedd rheoliadau wedi'u gwneud o dan adran 19 o Ddeddf 1998 mewn perthynas â Chymru. Mae'r gofyniad ynghylch cyfnod ymsefydlu yn Lloegr yn gymwys ers 1 Medi 1999 (O.S. 1999/1065)..back

[16] Gweler nodyn (a) ar dudalen 4 uchod.back

[17] Adeg gwneud y Rheoliadau hyn, y rheoliadau mewn grym o dan y ddarpariaeth hon oedd Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1993 (O.S. 1993/543); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S 1995/2594 a 1998/1584.back

[18] O.S. 1997/3001 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back


English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001979w.html