BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001980w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1980 (Cy. 141 )

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2000

  Wedi'i wneud 24 Gorffennaf 2000 
  Yn dod i rym 1 Awst 2000 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 354(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Awst 2000.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn  - 

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

     2. Diddymir drwy hyn Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) 1991[3] a Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Diwygio) 1994[4] mewn perthynas â Chymru.

     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), at ddibenion adran 354 o Ddeddf Addysg 1996 (y pynciau craidd a phynciau sylfaen eraill) ystyr "iaith dramor fodern" yw unrhyw iaith dramor fodern.

    (2) Nid yw iaith dramor fodern nad yw'n un o ieithoedd swyddogol y Gymuned Ewropeaidd yn "iaith dramor fodern" at ddibenion adran 354 o Ddeddf Addysg 1996 oni chaiff yr amod ym mharagraff (3) ei fodloni.

    (3) Yr amod hwnnw yw bod yr ysgol lle mae'r iaith yn cael ei haddysgu yn cynnig cyfle i bob disgybl yn y trydydd cyfnod allweddol y mae'n ofynnol iddynt astudio iaith dramor fodern fel pwnc sylfaen astudio un neu ragor o ieithoedd swyddogol y Gymuned Ewropeaidd fel pwnc sylfaen.

    
4.  - (1) Caiff unrhyw gwestiwn ynghylch a yw iaith dramor benodol yn iaith dramor fodern at ddibenion adran 354 o Ddeddf Addysg 1996 ei benderfynu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

    (2) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud penderfyniad o dan baragraff (1) yn dilyn cais gan unrhyw berson neu ar ei ysgogiad ei hun.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


Jane Davidson
Y Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

24 Gorffennaf 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae "iaith dramor fodern" yn un o bynciau sylfaen y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru mewn perthynas â'r trydydd cyfnod allweddol. Mae'n ofynnol i'r ieithoedd hynny sydd i gyfrif fel ieithoedd modern at ddibenion y Cwricwlwm Cenedlaethol gael eu pennu mewn Gorchymyn a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu, fel arall, caiff Gorchymyn o'r fath ddarparu bod unrhyw iaith dramor fodern yn iaith dramor fodern at y dibenion hynny.

Ieithoedd swyddogol y Gymuned Ewropeaidd yw'r ieithoedd a bennir gan y Gorchymyn ym mhob achos. Yn ychwanegol, yn achos ysgol lle cynigir cyfle i ddisgyblion y trydydd cyfnod allweddol astudio o leiaf un o ieithoedd swyddogol y Gymuned Ewropeaidd, mae'r Gorchymyn yn darparu bod "unrhyw" iaith dramor fodern yn iaith dramor fodern at ddibenion y Cwricwlwm Cenedlaethol. Yn hyn o beth, mae'n wahanol i Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) 1991, y mae'n ei ddisodli, yn yr ystyr mai dim ond yr ieithoedd tramor modern hynny a restrwyd ynddo a bennwyd gan y Gorchymyn cynharach tra bod y Gorchymyn presennol yn pennu unrhyw iaith dramor fodern.


Notes:

[1] 1996 p.56. Diwygir adran 354 gan Orchymyn Pwnc Sylfaen (Diwygio) 2000 (O.S. 2000/1146) sy'n gymwys i Loegr a chan Orchymyn Pwnc Sylfaen (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1882 (Cy.192)) sy'n gymwys i Gymru.back

[2] O.J. 1958, 385; DJ 1952-58, 59. Diwygiwyd Erthygl 1 gan Ddeddfau Ymuno un ar ôl y llall. Ar ddyddiad y Gorchymyn hwn Almaeneg, Daneg, Eidaleg, Ffinneg, Ffrangeg, Groeg, Gwyddeleg, Iseldireg, Portiwgaleg, Saesneg, Sbaeneg a Swedeg yw'r ieithoedd swyddogol.back

[3] O.S. 1991/2567. Mae'r offeryn hwn wedi'i ddiwygio mewn perthynas â Lloegr yn unig gan O.S. 1999/2214.back

[4] O.S. 1994/1818.back

[5] 1998 p.38.back


English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001980w.html