BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20002030w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 2030 (Cy. 143 )

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 24 Gorffennaf 2000 
  Yn dod i rym 1 Medi 2000 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 41(3) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Medi 2000.

    (2) Dim ond i Gymru y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys.

Y weithdrefn ar gyfer newid amserau sesiynau ysgolion
    
2.  - (1) Os bydd corff llywodraethu ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol arbennig gymunedol yn bwriadu newid amserau sesiynau'r ysgol (neu, os nad oes ond un, sesiwn yr ysgol), rhaid iddynt  - 

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), os bydd y corff llywodraethu yn penderfynu gweithredu'r newid arfaethedig (gan ei addasu neu heb ei addasu), rhaid iddynt, o fewn dim llai na chwe wythnos cyn bod unrhyw newid yn yr amserau hynny i ddod yn weithredol - 

      (i) hysbysu'r awdurdod addysg lleol o'r newid a phryd y bwriedir iddo ddechrau dod yn weithredol, a

      (ii) cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol yn cael eu hysbysu.

    (3) Pan fydd a wnelo'r newid â'r amserau y bwriedir i sesiwn ysgol ddechrau yn y bore neu ddod i ben yn y prynhawn (neu'r ddau) ni fydd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yn llai na thri mis.

Amserau sesiynau ysgolion a newidiwyd yn dod yn weithredol
     3. Ni fydd newid i amserau sesiynau ysgolion yn cael ei wneud ond er mwyn iddo ddod yn weithredol  - 

Rheoli'r cyfarfodydd
    
4. Bydd trafodion unrhyw gyfarfod y mae'n rhaid darparu cyfle i drafod ynddo yn rhinwedd Rheoliad 2(1)(dd) o dan reolaeth y corff llywodraethu.



Llofnodwyd ar ran Cynullaid Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


Jane Davidson
Y Dirprwy Lywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

24 Gorffennaf 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


O dan adran 41(1)(b) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 mae corff llywodraethu ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol arbennig gymunedol yn gyfrifol am benderfynu ar amserau sesiynau'r ysgol. Hynny yw, yr amserau pan fydd pob un o sesiynau'r ysgol (neu os nad oes ond un, sesiwn yr ysgol) yn dechrau ac yn dod i ben ar unrhyw ddiwrnod.

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r gweithdrefnau y mae'n rhaid i gorff llywodraethu ysgol o'r fath eu dilyn cyn newid amserau eu sesiynau. Nid ydynt yn gymwys i ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir nac ysgolion arbennig sefydledig. Ceir esboniad manylach o'r Rheoliadau isod.

Mae Rheoliad 2 yn nodi'r gweithdrefnau y mae rhaid i'r corff llywodraethu eu dilyn.

Mae Rheoliad 3 yn pennu pa bryd y mae newid i amser sesiynau'r ysgol yn weithredol.

Mae Rheoliad 4 yn darparu bod y cyfarfod â'r rhieni (y mae'n ofynnol ei gynnal cyn bod unrhyw newid yn amserau sesiynau'r ysgol yn cael ei wneud) o dan reolaeth y corff llywodraethu.


Notes:

[1] 1998 p.31. Am ystyr "regulations" gweler adran 142(1).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] Gweler adran 576 o Ddeddf Addysg 1996 (w.56) am ystyr "parent".back

[4] 1998 p.31.back


English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20002030w.html