BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Diwygio) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20002041w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 2041 (Cy. 147 )

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Diwygio) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 19 Gorffennaf 2000 
  Yn dod i rym 1 Awst 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58 a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Diwygio) (Cymru) 2000, a deuant i rym ar 1 Awst 2000.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Cymru) 1999[3]

Diwygio'r prif Reoliadau
     3.  - (1) Diwygir y prif Reoliadau yn unol â'r paragraffau canlynol.

    (2) Yn Rheoliad 2(1), ar ôl y diffiniad o "person dynodedig" rhowch  - 

    (3) Yn Rheoliad 3(1), yn lle "ac 1 Ebrill 2002", rhowch  - 

      " , 1 Ebrill 2002, 1 Ebrill 2003 a 1 Ebrill 2004.".

    (4) Yn Rheoliad 8, ar ôl paragraff (4), rhowch  - 

        " (5) Yn y blynyddoedd perthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 a 1 Ebrill 2004, cyfrifir y swm y gellir ei godi yn unol â darpariaethau Rhan III o'r Ddeddf.".

    (5) Yn Rheoliad 10, ar ôl paragraff (3), rhowch  - 

        " (4) Os yw'r swm a geir drwy gymhwyso'r fformwla a nodir ym mharagraffau (2) a (3) yn llai na'r swm a geid drwy gyfrifo'r swm y gellir ei godi am ddosbarth perthnasol ar gyfer yr hereditament hwnnw yn unol â darpariaethau Rhan III o'r Ddeddf, y swm a gyfrifir yn unol â Rhan III o'r Ddeddf fydd y swm y gellir ei godi am ddiwrnod perthnasol ar gyfer yr hereditament hwnnw.

        (5) Yn y blynyddoedd perthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 a 1 Ebrill 2004 cyfrifir y swm y gellir ei godi yn unol â darpariaethau Rhan III o'r Ddeddf.".

    (6) Ar ôl Rheoliad 10, rhowch -

    (7) Yn Rheoliad 12(2), yn lle "2001" rhowch -"2005".

    (8) Ar ôl Rheoliad 12, rhowch  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Gorffennaf 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Cymru) 1999 ("y prif Reoliadau") yn gwneud darpariaeth, mewn perthynas ag ardrethi annomestig o dan Ran III o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ar gyfer y symiau y gellir eu codi ac y mae'r sawl sy'n talu'r ardrethi yn atebol i'w talu o dan amgylchiadau penodol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn y cyfnod pryd y mae'r prif Reoliadau'n gymwys i gynnwys y blynyddoedd ariannol a fydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2003 a 1 Ebrill 2004 ac yn pennu'r rheolau ar gyfer penderfynu ar y swm y gellir ei godi yn y blynyddoedd hynny.

Maent hefyd yn diwygio Rheoliad 10 o'r prif Reoliadau er mwyn cyfyngu ar y gostyngiad yn y swm y gellir ei godi o dan rai amgylchiadau .

Mae'r cyfnod ar gyfer cyflwyno apelau yn erbyn ardystio o dan y prif Reoliadau wedi'i ymestyn o 1 Ebrill 2001 i 1 Ebrill 2005.

Pennir y dyddiadau effeithiol ar gyfer penderfynu ar y symiau y gellir eu codi yn unol â Rheoliadau 8 a 10 o'r prif Reoliadau drwy gyfeirio at Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 1993 lle gwneir newidiadau i'r gwerth ardrethol a ddangosir mewn rhestr yn unol â'r Rheoliadau hynny.


Notes:

[1] 1988 p.41. Diwygiwyd adran 143(2) gan baragraff 72(2) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Diwygiwyd paragraff 3(2) o Atodlen 6 gan baragraff 38(13) o Atodlen 5 i Ddeddf 1989.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1999/3454 (Cy.51).back

[4] Diwygiwyd O.S. 1993/291 gan Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/792 (Cy.29)).back

[5] Mewnosodwyd Rheoliad 13A gan Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/792 (Cy.29)).back

[6] 1998 p.38.back


English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20002041w.html