BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cig (Rheoli Clefydau) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20002257w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 2257 (Cy. 150 )

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cig (Rheoli Clefydau) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 22 Awst 2000 
  Yn dod i rym 23 Awst 2000 


TREFN Y RHEOLIADAU

1. Enwi, cymhwyso a chychwyn.
2. Diwygiadau i Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995.
3. Diwygiadau i Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995.
4. Diwygiadau i Reoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid ac Archwilio) 1994.
5. Diwygiadau i Reoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995.
6. Diwygiadau canlyniadol.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno i'r graddau na ellid bod wedi gwneud y rheoliadau hyn o dan y pwerau yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 a bennir isod, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(b), (c), (d), (e) ac (f), (2)(a) a (3), 17(1), 19(1)(b), 26, 45, 48(1) a 49(2) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[3], a pharagraffau 5(1), (2) a (3), 6(1)(a) a 7(1) a (2) o Atodlen 1 iddi, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig (Rheoli Clefydau) (Cymru) 2000, byddant yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 23 Awst 2000.

Diwygiadau i Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995
    
2.  - (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995[4] yn unol â'r paragraffau canlynol yn y rheoliad hwn.

    (2) Ym mharagraff (3) o reoliad 13 (amodau cyffredinol) -

    (a) diddymir y gair "or" sy'n gwahanu is-baragraffau (c) a (d);

    (b) bydd yr ymadrodd "cutting premises;" yn disodli'r ymadrodd "cutting premises." yn is-baragraff (d); ac

    (c) mewnosodir yr is-baragraffau canlynol ar ôl is-baragraff (d) -

      " (e) fresh meat obtained from domestic sheep, goats or solipeds which have not been held in Community territory for at least 21 days on the date of slaughter, or from birth in the case of animals which are less than 21 days old;

      (f) fresh meat obtained from animals which -

        (i) come from a holding or area which, at the time of their departure from the holding or area concerned, was subject to a prohibition or restriction as a result of an outbreak of foot and mouth disease, swine fever, swine vesicular disease or contagious swine paralysis (Teschen disease), and

        (ii) are susceptible to the particular disease referred to above which led to the prohibition or restriction being imposed;

      (g) fresh meat obtained from a slaughterhouse while that slaughterhouse was itself under restriction by virtue of an Order made under the Animal Health Act 1981[5] following the confirmation there of foot and mouth disease, swine fever, swine vesicular disease or contagious swine paralysis (Teschen disease);

      (h) (without prejudice to sub-paragraph (f) above) fresh meat obtained from swine, sheep or goats originating from a holding which at the time of their departure from the holding concerned was subject to a prohibition for health reasons (as provided for by Article 4 of Council Directive 72/461/EEC on health problems affecting intra-Community trade in fresh meat[6], as amended by amendments up to and including those effected by Council Decision 95/1/EC, Euratom, ECSC[7]) as a result of an outbreak of porcine, ovine or caprine brucellosis; or

      (i) any fresh meat which has not been obtained, cut, stored and transported either separately or at a different time from the meat referred to in any of sub-paragraphs (e) to (h) of this paragraph.".

    (3) Yn Atodlen 12 (marcio iechyd) -

    (a) ym mharagraff 1, yn lle "paragraphs 2 and 7", rhoddir "paragraphs 2, 7 and 8";

    (b) ym mharagraff 2, yn lle "Regulation 13(3)", rhoddir "any of sub-paragraphs (a) to (d) of paragraph (3) of regulation 13";

    (c) mewnosodir y paragraff canlynol ar y diwedd-

         " 8. In the case of the fresh meat referred to in any of sub-paragraphs (e) to (i) of paragraph (3) of regulation 13, the health mark required by paragraph 1 or 2 above shall be -

      (a) overstamped in such a way that it is covered by a diagonal cross consisting of two straight lines crossing at right angles, with the point of intersection in the centre of the stamp and the information thereon remaining legible; or

      (b) applied with a single mark, consisting of the health mark referred to in paragraph 1 or 2 above, overstamped in accordance with sub-paragraph (a) of this paragraph.".

Diwygiadau i Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995
     3.  - (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995[8] yn unol â'r paragraffau canlynol yn y rheoliad hwn.

    (2) Ym mharagraff (3) o reoliad 14 (amodau cyffredinol) disodlir is-baragraff (c) gan -

      " (c) fresh meat which - 

        (i) has been marked in accordance with paragraph 6 of Schedule 11, or

        (ii) has not been obtained, cut, stored and transported separately or at a different time from meat which has been marked in accordance with paragraph 6 of Schedule 11;".

    (3) Yn rheoliad 14, ar ôl diwedd paragraff (3) mewnosodir y paragraff canlynol -

        " (3A) No person shall consign or sell for consignment to any relevant EEA State, or a region of any relevant EEA State or a region of Northern Ireland, which has been recognised in accordance with Article 12(2) of Council Directive 90/539/EEC on animal health conditions governing intra-Community trade in, and imports from third countries of, poultry and hatching eggs[9], as amended by amendments up to and including those effected by Council Decision 95/1/EC, Euratom, ECSC, any meat which comes from a bird which has been vaccinated against Newcastle disease with a live vaccine during the 30 days preceding the date of slaughter.".

    (4) Yn Atodlen 11 (marcio iechyd), disodlir paragraff 6 gan -

         " 6.  - (1) Subject to paragraph 7 below, the health mark required by paragraph 1 or 4 above shall be overstamped or applied as specified in sub-paragraph (2) below in cases where fresh meat -

      (a) is obtained from any bird which comes from a holding -

        (i) in relation to which a notice has been served under article 5 of the Diseases of Poultry Order 1994[10] restricting movements to or from that holding, or

        (ii) which, at the time of the bird's departure from the holding concerned, was under restriction by virtue of an Order made under the Animal Health Act 1981 relating to any disease to which poultry is

      (b) is obtained from any bird which has come into contact with a bird suffering from avian influenza or Newcastle disease during transport from the holding to the slaughterhouse;

      (c) is obtained from a slaughterhouse while that slaughterhouse is under restriction by virtue of an Order made under the Animal Health Act 1981 relating to avian influenza or Newcastle disease; or

      (d) is suspected or may reasonably be suspected of having been contaminated by avian influenza or Newcastle disease at the slaughterhouse, cutting premises, cold store or during transportation.

        (2) The health mark shall be -

      (a) overstamped in such a way that it is covered by a diagonal cross consisting of two straight lines crossing at right angles, with the point of intersection in the centre of the stamp and the information thereon remaining legible; or

      (b) applied with a single mark, consisting of the health mark referred to in paragraph 1 or 4 above, overstamped in accordance with paragraph (a) of this sub-paragraph.".

Diwygiadau i Reoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid ac Archwilio) 1994
     4.  - (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994[11] yn unol â'r paragraffau canlynol yn y rheoliad hwn.

    (2) Yn rheoliad 8 (amodau cyffredinol), mewnosodir y paragraffau canlynol ar y diwedd -

        " (2) No person shall apply the British EC health mark to, or consign or sell for consignment to a relevant EEA State for human consumption, a meat product prepared in whole or in part from any meat referred to in -

      (a) any of sub-paragraphs (e) to (i) of paragraph (3) of regulation 13 of the Fresh Meat (Hygiene and Inspection) Regulations 1995; or

      (b) paragraph 6 of Schedule 11 to the Poultry Meat, Farmed Game Bird Meat and Rabbit Meat (Hygiene and Inspection) Regulations 1995,

    unless the meat product has undergone treatment in accordance with section D of Part VIII of Schedule 2.

        (3) Any meat product to which paragraph (2) above applies shall -

      (a) be prepared only under official veterinary supervision and must be protected from any contamination or recontamination; and

      (b) notwithstanding regulation 12(2), be accompanied during transportation by the health certificate referred to at regulation 12(1)(c).

        (4) The meat referred to in paragraph (2) above shall be transported and stored separately or at a different time from meat which is not referred to in paragraph (2) above.",

    a daw testun presennol rheoliad 8 yn baragraff (1) i'r rheoliad hwnnw.

    (3) Yn rheoliad 12 (amodau storio a chludo), disodlir is-baragraffau (b) ac (c) o baragraff (1) a pharagraff (2) gan y darpariaethau canlynol -

      " (b) it is accompanied during transportation by a commercial document which bears the official approval code of the meat products premises of origin; and

      (c) subject to paragraph (2) below, it is accompanied during transportation by a health certificate signed by an authorised officer of the enforcement authority at the time of loading corresponding in form and content to that specified in Schedule 4 where -

        (i) it contains meat obtained from a slaughterhouse while that slaughterhouse was under restriction by virtue of an Order made under the Animal Health Act 1981;

        (ii) it contains meat bearing a special mark under regulation 13(2)(c) or (d) of the Fresh Meat (Hygiene and Inspection) Regulations 1995; or

        (iii) it is intended to be sent to a relevant EEA State after transit through a third country.

        (2) The requirement for a health certificate at paragraph (1)(c) above shall not apply to a meat product in a hermetically sealed container where the product has undergone the treatment referred to in section B(a) of Part VIII of Schedule 2 and the health mark is indelibly marked on the container.

        (2A) Where a meat product is intended to be sent to a relevant EEA State after transit through a third country, it shall be transported in a sealed means of transport.".

    (4) Disodlir paragraff (3) o reoliad 12 gan y canlynol -

        " (3) The enforcement authority may make a reasonable charge for the issue of any health certificate pursuant to paragraph (1)(c) above.".

    (5) Yn Rhan VIII o Atodlen 2 (amodau arbennig) mewnosodir ar y diwedd -

         " D.  - (1) Subject to paragraph (3) below, the meat products to which regulation 8(2) applies shall undergo one of the following forms of treatment -

      (a) heat treatment in a hermetically sealed container with an Fo value of 3.00 or more; or

      (b) in the case of a meat product which has been prepared exclusively from or with pigmeat which has been obtained from a holding or area which at that time was not subject to any restriction on health grounds following the discovery of African Swine Fever -

        (i) the meat must be fully de-boned and the main lymphatic glands removed before heating;

        (ii) the meat must be enclosed in the hermetically sealed container in which it is to be marketed and must undergo heat treatment in accordance with the following conditions:

      - the product must be kept at a temperature of at least 60oC for a minimum of four hours during which the temperature must be at least 70oC for a minimum of thirty minutes;

      - the temperature of a representative number of samples of each batch of the product must be monitored constantly, using automatic apparatus enabling the temperature to be recorded both in the centre of the pieces of greater weight and inside the heating equipment; and

      - throughout these operations, the conditions laid down in the third sub-paragraph of Article 5A of Council Directive 72/461/EEC must be fulfilled.

        (2) After heat treatment, a health mark shall be applied to the container in accordance with the requirements of Part VI of this Schedule.

        (3) Notwithstanding paragraph (1) above, a meat product to which regulation 8(2) applies and which is prepared from fresh meat obtained from animals which, although they come from an area which is specified in regulation 13(3)(f) of the Fresh Meat (Hygiene and Inspection) Regulations 1995 do not come from a holding which is so specified, may, instead of undergoing one of the forms of treatment specified in paragraph (1) above, undergo -

      (a) heat treatment of a type different from those referred to in paragraph (1) above, provided that the centre temperature is raised to at least 70°C;

      (b) provided that the disease in question is not swine vesicular disease, treatment consisting in natural fermentation and maturation of not less than nine months for de-boned or boneless hams which -

        (i) weigh not less than 5.5 kg, and

        (ii) have an AW value of not more than 0.93 and a pH value of not more than 6; or

      (c) if the disease in question is foot-and-mouth disease, the treatment referred to in paragraph (b) may be applied to bone-in ham which fulfils the conditions of sub-paragraphs (i) and (ii) of paragraph (b).".

    (6) Yn ffurflen y dystysgrif iechyd a bennir yn Atodlen 4 (tystysgrif iechyd cynhyrchion cig), disodlir troednodyn 3 gan-

        " (3) Mention any ionizing radiation for medical reasons and specify whether treated in accordance with section D(1) or (3) of Part VIII of Schedule 2.".

Diwygiadau i Reoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995
     5.  - (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995[12] yn unol â'r paragraffau canlynol yn y rheoliad hwn.

    (2) Ar ddiwedd Atodlen 4 (amodau ar gyfer cynhyrchu briwgig) mewnosodir y paragraff canlynol-

         " 7. Fresh meat such as is referred to in any of sub-paragraphs (e) to (i) of paragraph (3) of regulation 13 of the Fresh Meat Regulations shall not be used for the production of minced meat.".

    (3) Ar ôl paragraff 2 o Atodlen 5 (amodau ar gyfer cynhyrchu paratoadau cig) mewnosodir y paragraff canlynol -

         " 3. The following shall not be used for the production of meat preparations which are to be consigned to a relevant EEA State -

      (a) fresh meat such as is referred to in any of sub-paragraphs (e) to (i) of paragraph (3) of regulation 13 of the Fresh Meat Regulations; and

      (b) meat referred to in paragraph 6 of Schedule 11 to the Poultry Meat Regulations.".

Diwygiadau canlyniadol
     6. I'r graddau y mae Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996[13] yn gymwys i Gymru, diwygir Atodlen 2 iddynt (rheoliadau sy'n berthnasol i fasnach o fewn y Gymuned) fel a ganlyn -

    (a) ym mharagraff 5, yn lle'r geiriau "; the Meat Products (Hygiene) (Amendment) (Wales) Regulations 2000." rhoddir y cyfeiriadau canlynol -

           " ;

           S.I. 2000/656;

           S.I. 2000/1885 (W. 131);

           the Meat (Disease Control) (Wales) Regulations 2000.";

    (b) ym mharagraff 6, yn lle'r geiriau "; the Meat (Enhanced Enforcement Powers) (England) Regulations 2000." rhoddir y cyfeiriadau canlynol -

           " ;

           S.I. 1997/1729;

           S.I. 1997/2074;

           S.I. 2000/656;

           the Meat (Disease Control) (Wales) Regulations 2000.";

    (c) ym mharagraff 7, yn lle'r geiriau "; the Meat (Enhanced Enforcement Powers) (England) Regulations 2000." rhoddir y cyfeiriadau canlynol -

           " ;

           S.I. 1997/1729;

           S.I. 2000/656;

           The Meat (Disease Control) (Wales) Regulations 2000.";

    (d) ym mharagraff 11, yn lle'r geiriau "; the Meat (Enhanced Enforcement Powers) (England) Regulations 2000." rhoddir y geiriau canlynol-

      " , relevant amendments to which have been made by -

           S.I. 1996/3124;

           S.I. 2000/656;

           The Meat (Disease Control) (Wales) Regulations 2000.".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[14].


Rosemary Butler
Ysgrifennydd Cynulliad

22 Awst 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn (sy'n gymwys i Gymru yn unig) yn peri yn rhannol fod y darpariaethau yng Nghyfarwyddebau canlynol y Cyngor ynghylch rheoli clefydau yn effeithiol:

Cyfarwyddeb y Cyngor 72/461/EEC ar broblemau iechyd sy'n effeithio ar y fasnach cig ffres o fewn y Gymuned (OJ Rhif L302, 31.12.72, t. 24 (Rhifyn arbennig 1972 31 Rhag (3) t. 3)), a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Cyngor 95/1/EC, Euratom, ECSC (OJ Rhif L1, 1.1.95, t.1);

Cyfarwyddeb y Cyngor 91/494/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach cig dofednod ffres o fewn y Gymuned a mewnforion y cig hwnnw o drydydd gwledydd (OJ Rhif L268, 24.9.91, t. 35), a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 93/121/EC (OJ Rhif L340, 31.12.93, t.39);

Cyfarwyddeb y Cyngor 80/215/EEC ar broblemau iechyd anifeiliaid sy'n effeithio ar y fasnach cynhyrchion cig o fewn y Gymuned (OJ Rhif L47, 21.2.80, t. 4), a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Cyngor 95/1/EC, Euratom, ECSC (OJ Rhif L1, 1.1.95, t.1);

Cyfarwyddeb y Cyngor 77/99/EEC ar broblemau iechyd sy'n effeithio ar gynhyrchu a marchnata cynhyrchion cig a rhai cynhyrchion eraill sy'n deillio o anifeiliaid (mae testun y Gyfarwyddeb honno wed'i ddisodli gan y testun a atodwyd i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/5/EEC (OJ Rhif L57, 2.3.92, t.1);

Cyfarwyddeb y Cyngor 94/65/EC sy'n nodi'r gofynion ar gyfer cynhyrchu briwgig a pharatoadau cig a'u gosod ar y farchnad (OJ Rhif L368, 31.12.94, t.10).

Mae'r Rheoliadau'n gwneud y prif ddiwygiadau canlynol -

    
1. Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995. Mae'n darparu bod rhaid i'r marc iechyd gael ei dros-stampio pan geir cig o dan amgylchiadau lle y mae cyfyngiadau iechyd anifeiliaid yn gymwys mewn cysylltiad â rhai clefydau penodedig. Ni all cig sydd wedi'i dros-stampio neu nad yw wedi'i gynhyrchu ar wahân i gig sydd wedi'i dros-stampio gael ei fasnachu gyda Gwladwriaethau eraill yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).

    
2. Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995. Mae'n darparu bod rhaid i'r marc iechyd gael ei dros-stampio pan geir cig dofednod o dan amgylchiadau lle y mae cyfyngiadau iechyd anifeiliaid yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw glefyd y mae dofednod yn dueddol o'i gael - yn benodol ffliw adar a chlefyd Newcastle. Ni all cig sydd wedi'i dros-stampio neu nad yw wedi'i gynhyrchu ar wahân i gig sydd wedi'i dros-stampio gael ei fasnachu gyda Gwladwriaethau eraill yr AEE. Hefyd, ni all cig o aderyn sydd wedi'i frechu yn erbyn clefyd Newcastle o fewn 30 diwrnod o gael ei ladd gael ei fasnachu gyda Gwladwriaethau eraill yr AEE.

    
3. Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994. Mae'n gwahardd defnyddio cig sydd wedi'i dros-stampio mewn cynhyrchion cig sydd i'w masnachu gyda Gwladwriaethau eraill yr AEE, oni bai bod y cynhyrchion cig yn mynd drwy un o'r mathau o driniaeth a bennir yn rheoliad 4(5) (sy'n diwygio Rhan VIII o Atodlen 2 i Rheoliadau 1994). Rhaid i gynhyrchion cig o'r fath gael eu paratoi o dan oruchwyliaeth filfeddygol, a rhaid cael tystysgrif iechyd i gyd-fynd â hwy, a honno'n cadarnhau eu bod wedi'u trin yn unol â'r Rheoliadau. Erbyn hyn, rhaid cael dogfennau masnachol i gyd-fynd â phob cynnyrch cig wrth ei gludo, yn ychwanegol at y gofyniad i gael tystysgrif iechyd o dan amgylchiadau penodedig.

    
4. Mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995. Mae'n cyfyngu ar ddefnyddio cig sydd wedi'i dros-stampio mewn briwgig a pharatoadau cig.

    
5. Mae rheoliad 6 (a wnaed o dan adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972 (p.68)) yn gwneud nifer o ddiwygiadau canlyniadol i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 (O.S. 1996/3124, fel y'i diwygiwyd eisoes).

Mae'r holl Reoliadau sy'n cael eu diwygio gan y Rheoliadau hyn yn gymwys i Brydain Fawr yn unig. Er hynny, dim ond i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru y mae'r Rheoliadau hyn yn eu diwygio.


Notes:

[1] Gan Orchymyn Cymunedau Ewrop (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. 1999/2788).back

[2] 1972 p.68.back

[3] 1990 p.16. Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[4] O.S. 1995/539, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/731, O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2200, O.S. 1995/2148, O.S. 1995/3124, O.S. 1995/3189, O.S. 1996/1148, O.S. 1996/2235, O.S. 1997/1729, O.S. 1997/2074 ac O.S. 2000/656.back

[5] 1981 p.22.back

[6] OJ Rhif L302, 31.12.72, t. 24 (Rhifyn arbennig 1972 31 Rhag (3) t.3).back

[7] OJ Rhif L1, 1.1.95, t.1.back

[8] O.S. 1995/540, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2200, O.S. 1995/2148, O.S. 1995/3205, O.S. 1997/1729 ac O.S. 2000/656.back

[9] OJ Rhif L303, 31.10.90, t. 6.back

[10] O.S. 1994/3141, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/150.back

[11] O.S. 1994/3082, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/539, O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2200, O.S. 1995/3205, O.S. 1996/1499, O.S. 1999/683, O.S. 2000/656 ac O.S. 2000/1885 (Cy. 131).back

[12] O.S. 1995/3205, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3124 ac O.S. 2000/656.back

[13] O.S. 1996/3124, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/3023, O.S. 1998/994, O.S. 1999/683, O.S. 2000/656 ac O.S. 2000/1885 (Cy. 131). Mae O.S. 1996/3124 wedi'i gymhwyso gan O.S. 1996/3125 at fewnforio cig ffres.back

[14] 1998 p.38.back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20002257w.html