BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau (Diwygio) (Ffurflenni Cymraeg) Cwmniau 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20002413w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 2413

CWMNÏAU

Rheoliadau (Diwygio) (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnïau 2000

  Gwnaed 6 Medi 2000 
  Yn dod i rym 2 Hydref 2000 

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol, o ymarfer â'r pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 362(2) a 744 o Ddeddf Cwmnïau 1985[1], fel y'u hestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr laith Gymraeg 1993[2], ynghyd â phob per arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, trwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

     1. Gellir dyfynnu'r Rheoliadau hyn fel Rheoliadau (Diwygio) (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnïau 2000, a deuant i rym ar 2 Hydref 2000.

    
2. Mae Ffurflen 363s cym a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, gyda'r amrywiadau hynny y bydd amgylchiadau'n peri bod eu hangen, yn ffurflen ychwanegol sydd wedi ei phennu at ddibenion adran 362(2) o Ddeddf Cwmnïau 1985, lle cafodd y ffurflen ei danfon gan y cofrestrydd i gwmni y dywed ei femorandwm fod ei swyddfa gofrestredig i'w lleoli yng Nghymru, at ddibenion datganiad manylion blynyddol gan y cwmni hwnnw.


Jeanne Spinks,
ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, Adran Masnach a Diwydiant.

6 Medi 2000



ATODLEN
Rheoliad 2



Form 363s Cym


EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu Ffurflen newydd 363s cym yn cyfateb i Ffurflen 363s a bennwyd gan Reoliadau (Diwygio) (Ffurflenni) Cwmnïau 1999 (O.S. 1999/2356). Mae'r ffurflen yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac fe ddaw i rym ar 2 Hydref 2000. Caiff ei rhoi gan y cofrestrydd cwmnïau i unrhyw gwmni sydd â memorandwm yn nodi ei fod i'w gofrestru yng Nghymru (o'i gwrthgyferbynnu â Chymru a Lloegr) ac sy'n hysbysu'r cofrestrydd ei fod am dderbyn honno yn lle ffurflen 363s. Fel ffurflen 363s fe gaiff ei hanfon wedi ei llenwi'n rhannol yn barod o gofnodion y cofrestrydd, a bydd modd i'r cwmni ei dychwelyd wedi ei diwygio a'i llenwi yn ôl sy'n briodol.


Notes:

[1] 1985 c. 6; cafodd adran 363 ei chyflwyno gan adran 139(1) o Ddeddf Cwmnïau 1989 (c. 40), a'i diwygio gan erthygl 7 o O.S. 1990/1707. Gweler diffiniad "pennu" yn adran 744.back

[2] 1993 c. 38.back


English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20002413w.html