BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Gwahardd o'r Ysgol) (Cyfnodau Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20003026w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 3026 (Cy. 194 )

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwahardd o'r Ysgol) (Cyfnodau Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 9 Tachwedd 2000 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2001 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 66(8) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd o'r Ysgol) (Cyfnodau Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2001.

Diwygio
    
2. Yn rheoliad 3(2)(c) o Reoliadau Addysg (Gwahardd o'r Ysgol) (Cyfnodau Rhagnodedig) 1999[3] (cyflawni dyletswyddau'r corff llywodraethu), yn gymaint â'i fod yn ymwneud â Chymru, rhoddir "50" yn lle "30".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]).


John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Tachwedd 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwahardd o'r Ysgol) (Cyfnodau Rhagnodedig) 1999 mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

Os byddai disgybl mewn ysgol o'r fath, yn sgil gwaharddiad, yn cael ei wahardd am gyfnod penodedig o fwy na phump ond heb fod yn fwy na 15 diwrnod ysgol o ran cyfanswm mewn unrhyw un tymor, mae Rheoliad 2 yn darparu bod rhaid fel rheol i'r corff llywodraethu gymryd pob un o'r camau y cyfeirir atynt yn adran 66(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 heb fod yn hwyrach na 50 diwrnod ysgol ar ôl cael hysbysiad o'r gwaharddiad (yn hytrach na 30 diwrnod ysgol fel o'r blaen).


Notes:

[1] 1998 p.31.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1999/1868.back

[4] 1998 p.38.back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20003026w.html