BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/2000350w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 350 (Cy. 8)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 8 Chwefror 2000 
  Yn dod i rym 9 Chwefror 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2000, byddant yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 9 Chwefror 2000.

Diwygio Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998[3] lle bônt yn gymwys i Gymru yn unol â pharagraffau (2) a (3) isod.

    (2) Yn rheoliad 2 (dehongli) -

    (a) yn lle'r diffiniad o "the Decision" rhodder -

      " "the Decision" means Commission Decision 96/301/EC authorising member States temporarily to take additional measures against the dissemination of Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith as regards Egypt[4] as amended by Commission Decision 98/105/EC authorising member States temporarily to take emergency measures against the dissemination of Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith as regards Egypt[5], Commission Decision 98/503/EC authorising member States temporarily to take emergency measures against the dissemination of Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith as regards Egypt[6] and Commission Decision 99/842/EC authorising member States temporarily to take emergency measures against the dissemination of Pseudomonas solanacearum as regards Egypt[7];"; a

    (b) yn y diffiniad o "the Minister", rhodder "the National Assembly for Wales" yn lle "the Secretary of State for Wales".

     3. Yn rheoliad 3(2) (mewnforion tatws sy'n deillio o'r Aifft) a rheoliad 5A(1) (taliadau a godir am samplu mewnforion tatws), rhodder "Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al."[8] yn lle'r geiriau "Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9].


Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd

8 Chwefror 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn rhoi Penderfyniad y Comisiwn 99/842/EC ar waith, gan ddiwygio Penderfyniad 96/301/EC sy'n awdurdodi dros dro yr Aelod-wladwriaethau i gymryd camau brys yn erbyn lledaenu Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith o ran yr Aifft (OJ Rhif L326, 18.12.99, t.68) drwy ddiwygio'r diffiniad o "the Decision" yn Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 1998 ("Rheoliadau 1998") (rheoliad 2(2)). Mae Penderfyniad 99/842/EC yn gwneud mân newidiadau i'r gofynion sy'n gymwys i datws sy'n cael eu mewnforio i'r Aelod-wladwriaethau o'r Aifft.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd:

    (a) yn breinio swyddogaethau "the Minister" o dan Reoliadau 1998 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, i'r graddau y mae'r swyddogaethau hynny yn arferadwy mewn perthynas â Chymru (rheoliad 2(2)(b)); a

    (b) yn rhoi'r term "Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al." yn lle'r cyfeiriadau at "Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith" yn Rheoliadau 1998 (rheoliad 2(3)).


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 1998/201, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/3167.back

[4] O.J. Rhif L115, 9.5.96, t.47.back

[5] O.J. Rhif L25, 31.1.98, t.101.back

[6] O.J. Rhif L225, 12.8.98, t.34.back

[7] O.J. Rhif L326, 18.12.99, t.68.back

[8] Adwaenwyd Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al gynt fel Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith.back

[9] 1998 p.38.back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/2000350w.html