BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn BG plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/2000352w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 352 (Cy. 10)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Gorchymyn BG plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000

  Wedi'i wneud 31 Ionawr 2000 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] a pharagraff 3(2) o Atodlen 6 iddi, ac a freiniwyd ynddo bellach i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru[2].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn BG plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn -

    ystyr "BG plc" ("BG plc") yw'r cwmni a gofrestir yn yr enw hwnnw ar 9 Tachwedd 1999;

    ystyr "blwyddyn" ("year") yw blwyddyn ariannol daladwy;

    ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988; ac

Gwerth ardrethol
     3. Yn achos hereditamentau nwy Cymru, ni fydd paragraffau 2 i 2B[4] o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn gymwys mewn unrhyw flwyddyn sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2000 ac mewn unrhyw flwyddyn o'r fath gwerth ardrethol hereditamentau nwy Cymru fydd £32,059,000.

Diddymu ac eithrio
     4.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), diddymir drwy hyn Gorchymyn British Gas plc (Gwerthoedd Ardrethol) 1994[5] o'r 1 Ebrill 2000 ymlaen.

    (2) Bydd Gorchymyn British Gas plc (Gwerthoedd Ardrethol) 1994 yn parhau'n effeithiol ar ac ar ôl 1 Ebrill 2000 at ddibenion neu ddibenion sy'n gysylltiedig ag - 

    (a) unrhyw newid i restr mewn grym yn union cyn 1 Ebrill 2000; neu

    (b) unrhyw ddarpariaeth a wnaed o dan reoliadau a wnaed o dan adran 58[6] o'r Ddeddf (darpariaeth arbennig ar gyfer 1995 ymlaen) yngln â'r swm taladwy am hereditament am gyfnod perthnasol fel y'i ddiffinnir yn yr adran honno.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].


Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Ionawr 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


O dan baragraff 3(2) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol drwy orchymyn ddarparu, yn achos hereditamentau annomestig sydd i'w dangos ar y rhestr ardrethu canolog i Gymru nad yw rheolau arferol prisio ar gyfer ardrethu a gynhwysir ym mharagraffau 2 i 2B o'r Atodlen honno yn gymwys, ac yn lle hynny eu gwerth ardrethol fydd y swm a bennir yn y gorchymyn neu'r hyn a benderfynir yn unol â rheolau a ragnodir. Breinir y pwerau hyn bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'n ofynnol i hereditamentau nwy a feddiennir (neu, os nas meddiennir, a berchnogir) gan BG plc (sydd wedi disodli British Gas plc at y dibenion hyn) i gael eu dangos ar y rhestr ardrethu canolog a luniwyd ar 1 Ebrill 2000, yn rhinwedd Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999. Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu nad yw paragraffau 2 i 2B yn gymwys i'r hereditamentau hynny.

Ar gyfer y flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 pennir £32,059,000 fel gwerth ardrethol yr hereditamentau nwy a leolir yng Nghymru. Bydd y gwerth ardrethol hwn yn gymwys hefyd am y blynyddoedd sy'n dilyn.

Mae Erthygl 3(1) yn diddymu Gorchymyn British Gas plc (Gwerthoedd Ardrethol) 1994 o'r 1 Ebrill 2000 ymlaen. Bydd y darpariaethau hyn yn dal i fod yn weithredol i'r dibenion a grybwyllir yn erthygl 3(2).


Notes:

[1] 1988 c.41. Section 143(2) is amended by paragraph 72(2) of Schedule 5 to the Local Government and Housing Act 1989 (c.42). Paragraph 3(2) of Schedule 6 is amended by paragraph 38(13) of Schedule 5 to the 1989 Act. See section 146(6) of the 1988 Act for the definition of "prescribed".back

[2] See the National Assembly for Wales (Transfer of Functions) Order 1999 (S.I. 1999/672).back

[3] S.I. 1999/ 3453(W.50)back

[4] Paragraph 2 is amended by, and paragraphs 2A and 2B are inserted by, paragraph 38(3) to (11) of Schedule 5 to the Local Government and Housing Act 1989.back

[5] S.I. 1994/3283.back

[6] Section 58 is amended by paragraph 68 of Schedule 13 to the Local Government Finance Act 1992 (c.14) and section 2 of the Non-Domestic Rating Act 1994.back

[7] 1998 c.38.back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/2000352w.html