BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cwotau Cynhyrchion Llaeth (Diwygio) (Cymru) 2000 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/2000972w.html |
[New search] [Help]
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) honno drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol - Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cwotâu Cynhyrchion Llaeth (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000. Diwygio Rheoliadau Cwotâu Cynhyrchion Llaeth 1997 2. Diwygir Rheoliadau Cwotâu Cynhyrchion Llaeth 1997[3], i'r graddau y maent yn gymwys yng Nghymru, yn unol â rheoliadau 3 i 7 o'r Rheoliadau hyn. 3. Yn rheoliad 2 (dehongli) ym mharagraff (1) -
(b) yn y diffiniad o "Scottish Islands area", dilëir is-baragraff (a).
4.
Yn rheoliad 7 (trosglwyddo cwota wrth drosglwyddo tir) -
(ii) in the case of a transfer made otherwise than by lease, on or before 31st March in the quota year in which the transfer takes place;
and in any case no later than 28 days after the change of occupation of the holding, or part of the holding; and";
(b) ym mharagraff (6), yn lle'r geiriau "Where a transferee fails to submit the notice referred to in paragraph (1)(a) no later than seven working days after the end of the quota year in which the transfer takes place," rhoddir y geiriau -
5.
Yn rheoliad 11 (trosglwyddo cwota heb drosglwyddo tir) -
(b) ym mharagraff (5), yn lle'r geiriau "no later than seven working days after the end of" rhoddir y geiriau "not after 31st March in".
6.
Yn rheoliad 13 (trosglwyddo cwota dros dro) -
(b) ym mharagraff (3), yn lle'r gair "December" rhoddir y gair "March"; (c) dilëir paragraff (5).
7.
Yn rheoliad 30 (pwerau swyddogion awdurdodedig) -
(b) ym mharagraffau (4) a (5), yn lle'r gair "producer" rhoddir y geiriau "relevant person"; (c) ar ôl paragraff (5), rhoddir y paragraff canlynol -
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2000, yn diwygio Rheoliadau Cwotâu Cynhyrchion Llaeth 1997 (O.S. 1997/733) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu, ar gyfer Cymru, newid i Erthygl 6(1) o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3950/92 (OJ Rhif L405, 31.12.92, t.1) (fel y'i diwygiwyd yn flaenorol) gan sefydlu ardoll ychwanegol yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth, sef newid a wnaed gan Erthygl 1(7) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1256/1999 (OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.73). Mae Erthygl 6(1) yn caniatáu i'r Aelod-wladwriaethau bennu unrhyw ddyddiad yn y flwyddyn gwota o dan sylw, mewn perthynas â throsglwyddo cwota dros dro (sef heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr hyd yn hyn) a'r dyddiad hwnnw yw'r dyddiad olaf yr awdurdodir trosglwyddiadau o'r fath. Mae'r Rheoliadau hyn yn cyflwyno 31 Mawrth yn ddyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cyflwyno hysbysiad o drosglwyddiadau dros dro i'r Bwrdd Ymyrraeth) (rheoliad 6). Yn sgil hyn, mae newidiadau penodol yn cael eu gwneud i'r dyddiadau pryd y mae'n ofynnol rhoi hysbysiadau penodol eraill etc. i'r Bwrdd Ymyrraeth (rheoliadau 4 a 5). Yn ychwanegol, mae'r Rheoliadau hyn -
(b) yn cynnwys yn y dosbarthiadau o bersonau y mae'n ofynnol iddynt roi cymorth rhesymol i swyddogion awdurdodedig, gynhyrchwyr, prynwyr, cyflogeion ac asiantau cynhyrchwyr neu brynwyr, cludwyr llaeth a phersonau sy'n ymgymryd â phrofion braster menyn mewn labordai ar gyfer prynwyr ac yn unioni'r rhain â'r tir ac adeiladau y gellir defnyddio pwêr myndediad i fynd i fewn iddynt (rheoliad 7).
Notes: [1] Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. 1999/2788).back [3] O.S. 1997/733, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/1093, 1998/2880.back [4] OJ Rhif. L160, 26.6.1999, t.73.back
|