BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Coleg Pencoed (Diddymu) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/2000974w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 974 (Cy. 44 )

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Coleg Pencoed (Diddymu) 2000

  Wedi'i wneud 27 Mawrth 2000 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") wedi cael cynnig gan Gyngor Cyllido Addysg Bellach Cymru, wedi'i wneud yn unol ag adran 51 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[1] ("y Ddeddf"), i ddiddymu'r gorfforaeth addysg bellach a adwaenir fel Coleg Pencoed[2] ("y Trosglwyddwr") o dan adran 27 o'r Ddeddf;

     Drwy arfer y p er a roddwyd i'r Ysgrifenydd Gwladol gan adran 27 o'r Ddeddf ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol[3], mae'r Cynulliad Cenedlaethol, wedi ymgynghori â'r Trosglwyddwr, a chyda chydsyniad y gorfforaeth addysg bellach a adwaenir fel Coleg Technoleg Pen-y-bont ar Ogwr[4] ("y Trosglwyddai") yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Coleg Pencoed (Diddymu) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.

    
2. Ar 1 Ebrill 2000 diddymir y Trosglwyddwr a throsglwyddir ei holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i'r Trosglwyddai, sydd yn gorfforaeth gorfforedig a sefydlwyd at ddibenion sy'n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysg.

    
3. Bydd adran 26(2), (3) a (4) o'r Ddeddf yn gymwys i unrhyw berson a gyflogid gan y Trosglwyddwr yn union cyn 1 Ebrill 2000 fel petai'r cyfeiriadau yn yr adran honno  - 

    (a) at berson y mae'r adran honno'n gymwys iddo yn gyfeiriad at berson a gyflogid felly;

    (b) at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriad at 1 Ebrill 2000;

    (c) at y trosglwyddwr yn gyfeiriad at y Trosglwyddwr; ac

    (ch) at y gorfforaeth yn gyfeiriad at y Trosglwyddai.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


T Middlehurst
Ysgrifennydd Addysg a Hyfforddiant Ôl-16, y Cynulliad

27 Mawrth 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu'r gorfforaeth addysg bellach a sefydlwyd i redeg Coleg Pencoed. Mae'n darparu ar gyfer trosglwyddo ei heiddo, ei hawliau a'i rhwymedigaethau i Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Technoleg Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae'n sicrhau hawliau ei gweithwyr trwy gymhwyso adran 26(2) i (4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.


Notes:

[1] 1992 p.13. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 51 i'r Cynulliad Cenedlaethol gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[2] Sefydlwyd gan Orchymyn Addysg (Corfforaethau Addysg Bellach) 1992 (O.S.1992/2097).back

[3] Gweler O.S 1999/672.back

[4] Sefydlwyd gan O.S. 1992/2097 hefyd.back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/2000974w.html