BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Offerynnau Statudol 2001 Rhif 140 (Cy. 6 )
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010140w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 140 (Cy. 6 )

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

Rheoliadau Diwygio Cartrefi Plant (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 23 Ionawr 2001 
  Yn dod i rym 28 Chwefror 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 63(3) o Ddeddf Plant 1989[1] ac sy'n arferadwy ganddo bellach mewn perthynas â Chymru[2].

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Cartrefi Plant (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2001.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Plant 1989.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant 1991
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Cartrefi Plant 1991[3] drwy fewnosod y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 3A - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Ionawr 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant 1991 mewn perthynas â Chymru o ganlyniad i ddwyn i rym, hefyd ar 28 Chwefror 2001, adran 40 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (2000 p.14). Mae adran 40 yn diwygio adran 63(3)(a) o Ddeddf Plant 1989 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gartrefi plant sy'n cael eu rhedeg yn breifat ac sy'n lletya a gofalu am lai na phedwar o blant i gael eu cofrestru gyda'r awdurdod lleol y lleolir hwy yn ei ardal yn yr un modd â chartrefi mwy i blant. Effaith y Rheoliadau hyn, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau presennol ar berson sy'n maethu mwy na thri o blant, yw esemptio cartrefi y caiff plant eu lletya ynddynt fel plant maeth o'r gofyniad i gofrestru fel cartref plant.


Notes:

[1] 1989 p.41.back

[2] Yn gyffredin â holl swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y Ddeddf i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru trosglwyddwyd y p er yn arferadwy o hyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.back

[3] O.S. 1991 Rhif 1506. Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1993 Rhif 3069.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090156-8


  Prepared 15 February 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010140w.html