BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010275w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 275 (Cy.11)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 30 Ionawr 2001 
  Yn dod i rym 1 Chwefror 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynod[1]) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: - 

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall  - 

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn.

    (3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.

Rhoi cymorth gwladol
     3. Yn ddarostyngedig i Reoliad 4 gall y Cynulliad Cenedlaethol roi cymorth gwladol mewn cysylltiad â chyflenwi cynhyrchion llaeth cymwys i ddisgyblion sy'n derbyn addysg gynradd sy'n mynychu sefydliadau addysgol cymwys.

Amodau a chyfyngiadau sy'n gymwys ar gyfer rhoi cymorth gwladol
    
4.  - (1) Rhaid i gymorth gwladol o dan Reoliad 3 gael ei roi yn ddarostyngedig i'r amodau a'r cyfyngiadau a bennir ym mharagraff (2).

    (2) Dyma'r amodau a'r cyfyngiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)  - 

Cymorth gwladol ychwanegol ar gyfer disgyblion cymwys
    
5. Pan fydd cymorth gwladol yn cael ei roi mewn cysylltiad â chyflenwi cynnyrch llaeth cymwys sydd naill ai â chyflas neu hebddo, yn llaeth cyflawn neu'n laeth hanner sgim i ddisgyblion cymwys, gall y swm a roddir fod yn swm digonol i dalu'r costau gweddilliol a fuasai fel arall yn cael eu talu gan y disgyblion neu eu rhieni neu eu gwarcheidwaid mewn perthynas â'r cyflenwi hwnnw.

Talu cymorth gwladol
    
6. Rhaid i gymorth gwladol a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â Rheoliad 3 gael ei dalu i geiswyr gan y Bwrdd yn gweithredu fel asiant i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dal cymorth gwladol yn ôl a'i adennill
    
7. Caiff y Bwrdd ddal yn ôl neu adennill oddi ar unrhyw geisydd y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth gwladol a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn os yw yn fodlon nad yw'r ceisydd neu sefydliad addysgol cymwys y mae ceisydd wedi gwneud cais mewn perthynas ag ef yn cydymffurfio neu nad yw wedi cydymffurfio ag unrhyw un o'r amodau a'r cyfyngiadau a bennir yn rheoliad 4(2).

Y gyfradd gyfnewid gymwysadwy
    
8.  - (1) At ddibenion cyfrifo cymorth gwladol mewn sterling, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu'r gyfradd gyfnewid rhwng sterling a'r ewro sydd i'w chymhwyso at gyfrifiad o'r fath ac, yn ddarostyngedig i baragraff (2) caiff ei diwygio o dro i dro.

    (2) Cyn unrhyw ddiwygiad arfaethedig ar y gyfradd gyfnewid rhwng sterling a'r ewro yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi o leiaf 14 diwrnod o hysbysiad ysgrifenedig i geiswyr am y gyfradd ddiwygiedig sydd i'w chymhwyso.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Ionawr 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Chwefror 2001, yn pennu mesurau gweithredu mewn perthynas ag Erthygl 14(2) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255 / 1999 ar gyd-drefnu'r farchnad mewn llaeth a chynhyrchion llaeth (OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.48).

Mae'r Rheoliadau yn darparu y gall y Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth gwladol (sy'n cydategu cymorth y Gymuned Ewropeaidd) mewn cysylltiad â chyflenwi llaeth a chynhyrchion llaeth penodol i blant sy'n derbyn addysg gynradd.

Mae'r Rheoliadau yn darparu y gall y Cynulliad Cenedlaethol roi cymorth gwladol mewn cysylltiad â chyflenwi uchafswm o 0.25 litr o laeth (neu o'r hyn sy'n gyfwerth â llaeth yn achos cynhyrchion llaeth penodol), fesul plentyn fesul diwrnod ysgol.

Y plant sy'n elwa ar gymorth gwladol o dan y Rheoliadau hyn yw'r rhai sy'n mynychu sefydliad sy'n darparu addysg gynradd ac sydd wedi'i gofrestru gyda'r Bwrdd Ymyrraeth Cynhyrchion Amaethyddol at ddibenion cynllun y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer cyflenwi cynhyrchion llaeth cymorthdaledig.

Mae'r Rheoliadau yn darparu bod rhaid i raddfa'r cymorth gwladol a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol gael ei gyfyngu  - 

Er hynny, os oes cymorth gwladol yn cael ei roi mewn cysylltiad â chyflenwi llaeth cyflawn neu laeth hanner sgim, â chyflas neu heb gyflas, i ddisgyblion cynradd heblaw'r rhai sy'n derbyn addysg feithrin neu'r rhai yng nghyfnod allweddol 2, mae'r Rheoliadau'n darparu y gall cyfanswm y cymorth hwnnw fod yn swm sy'n ddigonol er mwyn talu unrhyw gost a fuasai fel arall yn gorfod cael ei thalu gan y disgyblion hynny neu eu rhieni neu eu gwarcheidwaid o dan amgylchiadau lle nad yw cymorth y Gymuned Ewropeaidd yn talu'n llawn am gost cyflenwi'r cynhyrchion hynny.

Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer talu cymorth gwladol i geiswyr gan y Bwrdd Ymyrraeth Cynhyrchion Amaethyddol fel asiant i'r Cynulliad Cenedlaethol (Rheoliad 6) ac yn darparu hefyd ar gyfer dal yn ôl ac adennill cymorth o dan amgylchiadau penodol (Rheoliad 7).

Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu bod y gyfradd gyfnewid gymwys rhwng yr euro a sterling sydd i'w defnyddio wrth gyfrifo cymorth gwladol i gael ei phennu o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol a'i hysbysu mewn ysgrifen i'r ceiswyr (Rheoliad 8).


Notes:

[1] Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) (O.S. 1999/2788).back

[2] 1972 p.68.back

[3] 1998 p.31.back

[4] 1996.p.56back

[5] OJ Rhif L311, 12.12.2000, t.37.back

[6] OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.48.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090183-5


  Prepared 26 April 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010275w.html