BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Offerynnau Statudol 2001 Rhif 276 (Cy. 12)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010276w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 276 (Cy. 12)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 30 Ionawr 2001 
  Yn dod i rym 1 Chwefror 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2001.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992[
3].

    (3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Atodlen 4 i'r prif Reoliadau
     2. Ar ddiwedd Atodlen 4 i'r prif Reoliadau (cyfalaf sydd i'w anwybyddu) ychwanegir y paragraff canlynol  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5])


D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Ionawr 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 ("y prif Reoliadau").

Mae'r prif Reoliadau yn ymwneud ag asesu gallu person ("y preswylydd") i dalu am lety sydd wedi'i drefnu gan awdurdodau lleol o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948. Mae llety Rhan III yn cael ei drefnu ar gyfer personau 18 oed neu drosodd y mae arnynt, oherwydd oedran, salwch, anabledd neu unrhyw amgylchiadau eraill, angen gofal a sylw nad ydynt ar gael iddynt fel arall, ac ar gyfer mamau sy'n disgwyl plentyn a mamau sy'n magu ac sydd mewn angen tebyg.

Mae'r prif Reoliadau yn darparu bod rhaid peidio ag asesu unrhyw breswylydd fel un sy'n methu â thalu am lety Rhan III yn ôl y gyfradd safonol os yw cyfalaf y preswylydd hwnnw, o'i gyfrifo yn unol â'r prif Reoliadau, yn fwy nag £16,000.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau fel bod taliad ex-gratia o £10,000 sy'n cael ei wneud gan yr Adran Nawdd Cymdeithasol ar 1 Chwefror 2001 neu wedyn yn cael ei anwybyddu, at ddibenion asesu cyfalaf preswylydd, os yw'r taliad yn cael ei wneud yn sgil carcharu neu gaethiwo unrhyw rai o'r canlynol gan y Japaneaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd  - 


Notes:

[1] 1948 p.29; diwygiwyd adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 gan adran 39(1) o Ddeddf y Weinyddiaeth Nawdd Cymdeithasol 1966 (p.20) a pharagraff 6 o Atodlen 6 iddi, gan adran 35(2) o Ddeddf Budd-daliadau Atodol 1976 (p.71) a pharagraff 3(b) o Atodlen 7 iddi, gan adran 20 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1980 (p.30) a pharagraff 2 o Atodlen 4 iddi, a chan adran 86 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1986 (p.50) a pharagraff 32 o Atodlen 10 iddi.back

[2] Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1992/2977; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1993/964.back

[4] Ychwanegwyd paragraff 61 gan O.S. 2001/22back

[5] 1998 p.38back



English version



ISBN 0-11-090176-3


  Prepared 26 March 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010276w.html