BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010424w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 424 (Cy.18)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 15 Chwefror 2001 
  Yn dod i rym 19 Chwefror 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi [1] at ddibenion adran 2(2) Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, ar ôl cael cymeradwyaeth y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer cynllun datblygu gwledig a gyflwynwyd ar ffurf drafft yn unol ag Erthygl 41 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999[3] ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol - 

Enw, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 2001, byddant yn gymwys mewn perthynas â Chymru a deuant i rym ar 19 Chwefror 2001.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall - 

sef yr awdurdod neu'r corff archwilio preifat y mae'r ceisydd wedi gwneud cais iddo gyflawni swyddogaethau archwilio mewn perthynas â'r uned organig honno neu'r parsel organig hwnnw;

ac mae unrhyw gyfeiriad at unrhyw flwyddyn olynol yn gyfeiriad at y flwyddyn olynol berthnasol yn dilyn mewn trefn o'r flwyddyn gyntaf;

ystyr "cais" ("application") yw cais am gymorth sy'n cael ei wneud yn unol â rheoliad 9 ar gyfer un neu ragor o barseli organig, a dehonglir "ceisydd" ("applicant") a "gwneud cais" ("apply") yn unol â hynny;

ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

    (2) Rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn - 

    (3) Rhaid i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau ac sydd heb eu diffinio ym mharagraff (1) gael eu dehongli yn unol ag Atodlen 1.

Cymorth ar gyfer ffermio organig
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliadau 6 a 7, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau cymorth yn unol â'r Rheoliadau hyn - 

ar yr amod, mewn perthynas ag unrhyw daliad ar gyfer unrhyw flwyddyn benodol, fod y buddiolwr wedi hawlio taliad ar gyfer y flwyddyn honno yn unol â rheoliad 9, a'i fod wedi darparu unrhyw wybodaeth a thystiolaeth bellach mewn perthynas â'r hawliad hwnnw y gall y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo'n rhesymol y dylid eu darparu.

    (2) Os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl cael cais a wnaed yn unol â rheoliad 9, ac unrhyw wybodaeth a thystiolaeth y gall y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo'n rhesymol y dylid eu darparu, fod y ceisydd yn bodloni'r amodau cymhwyster a bennir yn rheoliad 5 mewn perthynas â phob un, rhai neu unrhyw un o'r parseli organig sy'n destun y cais hwnnw ("y parseli organig cymwys"), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i reoliadau 6, 7 ac 8, dderbyn y cais mewn perthynas â'r parsel neu'r parseli organig cymwys a hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig fod y cais wedi'i dderbyn a'i hysbysu yngln ag o ba ddyddiad y daw'r cymorth yn daladwy ar gyfer y parsel neu'r parseli organig cymwys.

    (3) Gall cais gael ei dynnu'n ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig gan y ceisydd a roddir unrhyw bryd cyn i'r cais gael ei dderbyn gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (4) Rhaid i hawliad am daliad cymorth gael ei gyflwyno ar unrhyw bryd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo'n rhesymol y dylid ei gyflwyno.

    (5) Gall taliad cymorth sy'n cael ei wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol i fuddiolwr yn unol â'r Rheoliadau hyn gael ei wneud ar unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn y mae'r taliad o dan sylw i gael ei wneud ar ei chyfer.

Penderfynu swm y cymorth a'r cyfnodau y mae'r cymorth yn cael ei dalu ar eu cyfer
    
4.  - (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, pan fydd hawl gan fuddiolwr i gael taliad cymorth, rhaid i'r cymorth gael ei dalu ar gyfer y cyfnodau canlynol - 

    (2) Mae swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) i'w benderfynu'n unol â Rhan I o Atodlen 1 ac mae swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(b) i'w benderfynu yn unol â

Amodau cymhwyster
    
5.  - (1) Mae'r amodau cymhwyster y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(2) fel a ganlyn - 

    (2) Mae'r ymrwymiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(ch) fel a ganlyn - 

Cyfyngiadau ar dderbyn ceisiadau
    
6.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â derbyn cais oni fydd yr amodau canlynol yn cael eu bodloni - 

    (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â derbyn cais gan geisydd sy'n meddiannu'r daliad sy'n destun y cais fel tenant oni bai bod y ceisydd wedi bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol fod y landlord uniongyrchol wedi'i hysbysu'n ysgrifenedig yngln â'r ffaith fod cais o'r fath wedi'i wneud.

Cyfyngiadau ar dalu cymorth
    
7.  - (1) Ni fydd cymorth yn daladwy ar gyfer cais ar gyfer unrhyw gyfnod cyn y dyddiad derbyn.

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod neu leihau cymorth a fyddai'n dyblygu unrhyw gymorth a roddwyd o'r blaen neu sydd i'w roi allan o arian sy'n cael ei ddarparu gan y Senedd neu gan y Gymuned Ewropeaidd, ac i'r perwyl hwn cymerir bod cymorth yn gymorth a fyddai'n dyblygu cymorth o'r fath os byddai (os câi ei dalu) yn cael ei dalu at unrhyw un o'r un dibenion ar gyfer unrhyw ran o'r un tir.

    (3) Rhaid peidio â gwneud unrhyw daliad cymorth ar gyfer parsel organig nes i'r Cynulliad Cenedlaethol gael tystysgrif gofrestru ar gyfer y parsel organig hwnnw neu gadarnhâd gan yr awdurdod archwilio y bydd tystysgrif yn cael ei roi.

    (4) Ni fydd cymorth yn daladwy ar gyfer unrhyw barsel organig, nac unrhyw uned organig sy'n cynnwys tir y mae cais yn ymwneud ag ef, - 

    (5) Ni fydd cymorth yn daladwy o dan Ran I o Atodlen 1 ar gyfer unrhyw barsel organig ar gyfer unrhyw gyfnod sy'n dechrau fwy na phum mlynedd ar ôl y dyddiad y daeth y taliad cymorth cyntaf yn daladwy arno ar gyfer y parsel organig hwnnw.

    (6) Ni fydd cymorth yn daladwy am fwy na 300 hectar o gyfanswm arwynebedd tir cymwys CTATA, cnydau parhaol a thir caeedig ar unrhyw ddaliad sy'n destun cais.

Cyfyngiadau ariannol
    
8.  - (1) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol, gyda golwg ar gyfanswm y ceisiadau sydd eisoes wedi'u derbyn neu wedi dod i law, o'r farn ar unrhyw bryd fod yr adnoddau ariannol sydd ar gael ar gyfer talu cymorth o dan y Rheoliadau hyn yn ystod unrhyw flwyddyn ariannol yn annigonol i wneud unrhyw daliad pellach yn ystod y flwyddyn ariannol honno, caiff ohirio ystyried unrhyw gais a ddaeth i law ar ddyddiad ei benderfyniad ond sydd heb gael ei dderbyn eto, neu unrhyw gais a all ddod i law ar ôl dyddiad ei benderfyniad ond cyn dyddiad cyhoeddi hysbysiad yn y London Gazette yn unol â pharagraff (4), tan y flwyddyn ariannol nesaf.

    (2) Rhaid peidio â gwneud unrhyw gais rhwng dyddiad cyhoeddi hysbysiad yn y London Gazette yn unol â pharagraff (4) fod gweithrediad y cynllun wedi'i ohirio yn unol â pharagraff (1), a'r penderfyniad i ail-agor y cynllun yn unol â pharagraff (3) isod.

    (3) Os yw gweithrediad y cynllun wedi ei ohirio o dan baragraff (1) uchod, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol bendefynu'r dyddiad yn y flwyddyn ariannol ddilynol y codir y gwaharddiad.

    (4) Rhaid cyhoeddi hysbysiad o benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (1) neu (3) yn y London Gazette.

Ffurf a chynnwys ceisiadau
    
9. Rhaid gwneud pob un o'r canlynol, sef - 

yn ysgrifenedig ac ar unrhyw ffurf a chydag unrhyw wybodaeth y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn eu cyfarwyddo'n rhesymol.

Y p er i amrywio ymrwymiadau
    
10.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'n ysgrifenedig, ar gais y buddiolwr, delerau unrhyw ymrwymiad sy'n cael ei roi gan y buddiolwr o dan reoliadau 5(1)(ch), 12(1)(b) neu 12(6)(ch), a gall unrhyw amrywiad o'r fath fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu'n rhesymol arnynt a gallant fod wedi'u datgan i fod yn gymwys am gyfnod penodedig yn unig.

    (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio ag amrywio telerau ymrwymiad oni chaiff ei fodloni, o ystyried unrhyw amodau y bwriedir eu hychwanegu at yr amrywiad, na fydd yr amrywiad yn effeithio'n andwyol ar y dibenion y rhoddwyd yr ymrwymiad ar eu cyfer.

Diwygio'r cynllun a gymeradwywyd
    
11. Ni fydd unrhyw ddiwygiad i gynllun sy'n cael ei gymeradwyo gan awdurdod archwilio yn cael effaith oni fydd y diwygiad hwnnw yn cael ei gymeradwyo gan yr awdurdod archwilio.

Newid meddiannaeth
    
12.  - (1) Pan fydd newid meddiannaeth ar y cyfan neu unrhyw ran o uned organig buddiolwr yn ystod y cyfnod penodedig oherwydd disgyniad yr uned neu'r rhan organig honno ar ôl marwolaeth y buddiolwr neu fel arall - 

    (2) Pan fydd y newid meddiannaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn dilyn marwolaeth y buddiolwr, ni fydd y pn â methiant y buddiolwr â chydymffurfio ag unrhyw ymrwymiad oherwydd y farwolaeth honno.

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan na fydd y newid meddiannaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn dilyn marwolaeth y buddiolwr, ni fydd y pwerau sy'n cael eu rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol gan reoliad 16(2) yngln ag unrhyw fethiant gan y buddiolwr i gydymffurfio ag unrhyw ymrwymiad, ac sydd yn y naill achos neu'r llall yn arferadwy o ganlyniad i'r ffaith fod y buddiolwr yn peidio â meddiannu'r uned organig neu'r rhan o'r uned organig (yn ôl fel y digwydd), yn gymwys, ar yr amod  - 

    (4) Ni fydd amodau (a) a (b) i baragraff (3) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw dir a drosglwyddwyd os yw'r cyfnod trosi, ar gyfer y cyfan o'r tir a drosglwyddwyd, wedi'i gwblhau a bod yr holl daliadau a oedd yn daladwy o dan y Rheoliadau hyn wedi'u gwneud.

    (5) Pan fydd newid meddiannaeth ar ran o'r uned organig, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu i ba raddau y mae'r rhwymedigaethau a dderbyniwyd gan y buddiolwr yn ymwneud â'r rhan honno, o ystyried - 

a bydd ymrwymiad sy'n cael ei roi o dan baragraff (1)(b) ar gyfer rhan o'r uned organig yn gymwys mewn perthynas â'r rhan honno i'r graddau y penderfynwyd arnynt.

    (6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â derbyn ymrwymiad o dan baragraff (1)(b) oni fydd yn cael ei fodloni - 

    (7) Mae'r ymrwymiad y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(ch) yn ymrwymiad y bydd y meddiannydd newydd yn parhau i ffermio'r rhan o'r daliad y cyfeirir ati yn y paragraff hwnnw yn unol â dulliau ffermio organig ar gyfer gweddill y cyfnod penodedig sy'n gymwys mewn perthynas â'r tir yr oedd ymrwymiadau meddiannydd blaenorol yr uned organig o dan sylw yn ymwneud ag ef.

    (8) Rhaid i feddiannydd newydd, sy'n rhoi ymrwymiad i gydymffurfio â'r rhwymedigaethau a dderbyniwyd gan y buddiolwr, ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol, o fewn unrhyw gyfnod ar ôl y newid meddiannaeth y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gyfarwyddo'n rhesymol, unrhyw dystiolaeth ac unrhyw wybodaeth ychwanegol ar unrhyw ffurf y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo'n rhesymol y dylid eu darparu.

    (9) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi derbyn ymrwymiad gan feddiannydd newydd i gydymffurfio â rhwymedigaethau buddiolwr - 

    (10) Ni fydd dim ym mharagraff (9)(b) yn effeithio ar atebolrwydd buddiolwr sydd wedi dod i'w ran cyn y dyddiad y bydd yr ymrwymiad a roddir gan y meddiannydd newydd yn effeithiol.

Cymhwyso Rheoliadau blaenorol
    
13.  - (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn, mae Rheoliadau 1994 yn parhau mewn grym mewn perthynas â buddiolwyr sydd yn derbyn taliadau o dan y Rheoliadau hynny ar y dyddiad y daw'r Rheolidau hyn i rym.

    (2) Diddymir Rheoliadau 1999 ac mae darpariaethau cyfatebol y Rheoliadau hyn yn cymeryd eu lle gyda'r eithriad y bydd y dewis i drosglwyddo o gynllun Rheoliadau 1994 yn dod i ben.

    (3) Mae darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gymwys i fuddiolwyr sydd yn derbyn taliadau o dan Reoliadau 1999 ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym yn lle'r darpariaethau cyfatebol yn Rheoliadau 1999.

    (4) Mae ymrwymiadau a roddwyd (neu y bernir eu bod wedi eu rhoi) o dan Reoliadau 1999 yn gymwys fel petaent wedi eu rhoi o dan y Rheoliadau hyn, ond gydag effaith o'r dyddiad y rhoddwyd hwy yn wreiddiol.

Dyletswydd i gadw cofnodion
    
14. Drwy gydol y cyfnod penodedig rhaid i geisydd gadw unrhyw ohebiaeth neu gofnodion eraill yngln ag unrhyw ddogfen a grybwyllir yn rheoliad 9, ac unrhyw gofnodion sy'n ymwneud â ffermio unrhyw dir yn unol â'i ymrwymiadau o dan y Rheoliadau hyn.

Dyletswydd i ganiatáu mynediad ac archwiliad
    
15.  - (1) Rhaid i geisydd ganiatáu i berson awdurdodedig, yng nghwmni unrhyw bersonau eraill sy'n gweithredu o dan unrhyw gyfarwyddiadau y mae'n ymddangos i'r person awdurdodedig hwnnw eu bod yn angenrheidiol i'r perwyl hwnnw, fynd ar unrhyw ran o ddaliad y ceisydd ar bob adeg resymol ac ar ôl dangos tystiolaeth yngln â'i awdurdod, os gofynnir iddo wneud hynny, er mwyn - 

    (2) Rhaid i geisydd roi pob cymorth rhesymol i berson awdurdodedig mewn perthynas â'r materion a grybwyllir ym mharagraff (1) uchod ac yn benodol rhaid iddo - 

    (3) Bydd paragraffau (1) a (2) uchod yn gymwys mewn perthynas â buddiolwr fel y maent yn gymwys mewn perthynas â cheisydd.

    (4) Ac eithrio i'r graddau y mae'n rhesymol ofynnol at ddibenion archwilio dogfen neu gofnod a grybwyllir ym mharagraff (1)(a), ni fydd paragraff (1) yn gymwys i unrhyw ran o'r daliad sy'n cynnwys annedd breifat.

Gwrthod ac adennill cymorth, terfynu a gwahardd
    
16.  - (1) Pan fydd unrhyw berson, gyda golwg ar gael taliad cymorth i'w hun neu i unrhyw berson arall, yn gwneud unrhyw ddatganiad neu'n rhoi unrhyw wybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth sy'n daladwy i'r person hwnnw neu i'r person arall mewn perthynas â'r cynllun hwn a chaiff adennill y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth o'r fath sydd eisoes wedi'i dalu i'r person hwnnw neu i'r person arall hwnnw.

    (2) Pan fydd buddiolwr - 

caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth sy'n daladwy i'r buddiolwr hwnnw o dan y cynllun hwn a chaiff adennill y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth sydd eisoes wedi'i dalu a chaiff ei gwneud yn ofynnol hefyd i swm heb fod yn uwch na 10% o'r cymorth a dalwyd neu sy'n daladwy i'r buddiolwr gael ei dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol.

    (3) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cymryd unrhyw gam a bennir ym mharagraff (1) neu (2), caiff drin unrhyw hawl sydd gan y buddiolwr i gael taliad cymorth o dan y Rheoliadau hyn fel hawl sydd wedi'i therfynu.

    (4) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ymdrin â hawl buddiolwr i gael cymorth fel hawl sydd wedi'i therfynu o dan baragraff (3), gall, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r buddiolwr, anghymwyso'r buddiolwr hwnnw rhag cymryd rhan mewn unrhyw gynllun amaeth-amgylcheddol am unrhyw gyfnod (heb fod yn fwy na dwy flynedd) o ddyddiad y terfyniad hwnnw a bennir yn yr hysbysiad.

    (5) Cyn cymryd unrhyw gam a bennir ym mharagraff (1), (2), (3) neu (4), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol - 

Adennill llog
    
17.  - (1) Pan fydd taliad cymorth yn cael ei wneud i fuddiolwr gan y Cynulliad Cenedlaethol a'i bod yn ofynnol ad-dalu'r cyfan neu ran o'r taliad gyda llog, yn rhinwedd Erthygl 48(1) o Reoliad y Comisiwn (sy'n darparu ar gyfer adennill taliadau anghywir gyda llog) bydd y cyfradd llog un pwynt canran uwchlaw y LIBOR fesul dydd.

    (2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr LIBOR yw cyfradd sterling tri-mis cyd-fanciau Llundain a gynigir sydd mewn grym yn ystod y cyfnod a bennir yn Erthygl 48(1) o Reoliad y Comisiwn.

    (3) Mewn unrhyw achos sy'n ymwneud ag adennill llog yn unol â'r rheoliad hwn, bydd tystysgrif gan y Cynulliad Cenedlaethol yn datgan y LIBOR sy'n gymwysadwy yn ystod cyfnod a bennir yn y dystysgrif yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r gyfradd sy'n gymwysadwy yn y cyfnod penodedig os yw'r dystysgrif hefyd yn datgan bod Banc Lloegr wedi hysbysu'r gyfradd honno i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Adennill taliadau
    
18. Mewn unrhyw achos lle mae swm i'w dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd y Rheoliadau hyn neu Reoliad y Comisiwn (neu yn rhinwedd camau a gymerir odanynt) i'r graddau y mae'n ymwneud â daliad buddiolwr, bydd y swm yn adennilladwy fel dyled.

Datganiadau ffug
    
19. Os bydd unrhyw berson, er mwyn sicrhau unrhyw gymorth iddo'i hun neu i unrhyw berson arall, yn fwriadol neu'n ddi-hid yn gwneud datganiad sy'n ffug mewn manylyn perthnasol, bydd y person sydd wedi gwneud y datganiad yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
    
20. Pan fydd corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan reoliad 19 a phan brofir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu oddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu os gellir priodoli'r tramgwydd i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol - 

bydd ef neu hi, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos yn eu herbyn ac i gael eu cosbi yn unol â hynny.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
11].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Chwefror 2001



ATODLEN 1
rheoliadau 4(2) a 13


CYFRIFO CYMORTH




RHAN I

Y TALIAD AR GYFER PARSEL ORGANIG

     1. Tir cymwys CTATA a chnydau parhaol:

    
(i) yn y flwyddyn gyntaf

£225 yr hectar
(ii) yn yr ail flwyddyn

£135 yr hectar
(iii) yn y drydedd flwyddyn

£50 yr hectar
(iv) yn y bedwaredd flwyddyn

£20 yr hectar
(v) yn y bumed flwyddyn

£20 yr hectar
     2. Tir wedi'i amgáu:

    
(i) yn y flwyddyn gyntaf

£175 yr hectar
(ii) yn yr ail flwyddyn

£105 yr hectar
(iii) yn y drydedd flwyddyn

£40 yr hectar
(iv) yn y bedwaredd flwyddyn

£15 yr hectar
(v) yn y bumed flwyddyn

£15 yr hectar
     3. Tir heb ei amgáu a choetir sy'n cael ei bori:

    
(i) yn y flwyddyn gyntaf

£25 yr hectar
(ii) yn yr ail flwyddyn

£10 yr hectar
(iii) yn y drydedd flwyddyn

£5 yr hectar
(iv) yn y bedwaredd flwyddyn

£5 yr hectar
(v) yn y bumed flwyddyn

£5 yr hectar

Yn Rhan I o'r Atodlen hon - 



RHAN II

Y TALIAD AR GYFER YR UNED ORGANIG GYFAN

Yn y flwyddyn gyntaf £300 am bob uned organig
Yn yr ail flwyddyn £200 am bob uned organig
Yn y drydedd flwyddyn £100 am bob uned organig



ATODLEN 2
rheoliad 5(2)(b)(ii) (iv) a (v)


Y SAFONAU I'W PARCHU


     1. Rhaid i'r buddiolwr beidio ag aredig, ailhadu na gwella, drwy ddefnyddio traeniau, teiliau neu asiantau calchu, unrhyw weundir, tir glas o werth cadwraeth, gan gynnwys tir glas toreithiog ei rywogaethau, neu dir pori garw. Rhaid i'r buddiolwr beidio â phori unrhyw gynefinoedd lled-naturiol a thrwy hynny achosi gorbori neu danbori a fyddai'n effeithio ar werth cadwraeth y cynefinoedd hynny.

     2. Rhaid i'r buddiolwr osgoi stocio'n drwm yn lleol yn y tymor nythu ar fannau llystyfiant lled-naturiol, gan gynnwys gweundir, tir glas toreithiog ei rywogaethau a thir pori garw.

     3. Rhaid i'r buddiolwr beidio â chyflawni gweithgareddau mewn caeau, megis llyfnu neu rolio, ar dir glas toreithiog ei rywogaethau neu dir pori garw yn ystod y tymor nythu.

     4. Rhaid i'r buddiolwr beidio â thrin y tir na rhoi gwrteithiau arno o fewn un metr o unrhyw nodweddion ffin, megis ffensys, perthi neu waliau.

     5. Rhaid i'r buddiolwr

     6. Rhaid gwneud gwaith cynnal ffosydd mewn cylchdro, ond nid rhwng 1 Mawrth a 31 Awst mewn unrhyw flwyddyn.

     7. Rhaid i'r buddiolwr gynnal nentydd, pyllau a gwlyptiroedd.

     8. Rhaid i'r buddiolwr gadw unrhyw brysgwydd, coetiroedd fferm neu grwpiau o goed.

     9. Rhaid i'r buddiolwr sicrhau, wrth ffermio'r tir, nad yw'n niweidio, dinistrio nac yn dileu unrhyw nodwedd o ddiddordeb hanesyddol neu archeolegol, gan gynnwys mannau cefn a rhych.

     10. Rhaid i'r buddiolwr gydymffurfio â thelerau'r Dulliau Gweithredu ar Arferion Amaethyddol Da ar gyfer Diogelu Pridd, Aer, Dwr a, lle bo'n gymwys, ar gyfer Plaleiddiaid, a gyhoeddir o bryd i'w gilydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn darparu bod cymorth yn cael ei dalu i ffermwyr sy'n ymrwymo i gyflwyno dulliau ffermio organig ac i gydymffurfio ag amodau penodol yngln â rheoli'r amgylchedd, yn unol ag Erthygl 22 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 (OJ Rhif L160, 26.06.1999, t.80) ("y Rheoliad Datblygu Gwledig").

Bu Rheoliadau Ffermio Organig (Cymorth) 1994 a wnaed o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd cynharach yn darparu gynt ar gyfer cymorth ar gyfer ffermio organig. Caewyd y cynllun o dan Reoliadau 1994 i geiswyr newydd gan Reoliadau Ffermio Organig) Cymru 1999. Darparwyd ynddynt hefyd y gallai'r rhai a oedd yn derbyn taliadau o dan Reoliadau 1994 barhau i wneud hynny neu ddewis i dderbyn taliadau o dan Reoliadau 1999.

Ni fydd y dewis hwnnw bellach ar gael ac fe fydd y rhai sydd yn derbyn taliadau o dan Reoliadau 1994 yn parhau i wneud hynny hyd nes y bydd y taliadau yn dod i ben yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau hynny.

Fe fydd y Rheoliadau presennol yn cymeryd lle Rheoliadau 1999, ac fe fyddant yn gymwys i'r rhai a fu'n derbyn taliadau o dan Reoliadau 1999.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu darpariaethau penodol Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750/1999 (OJ Rhif L214, 13.08.1999, t.31) ("Rheoliad y Comisiwn"), sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso'r Rheoliad Datblygu Gwledig.

Mae'r Rheoliadau - 

Mae'r safonau UKROFS (y Cyfeirir atynt yn rheoliadau 2(1) a 5(2)) yn cael eu cyhoeddi gan Swyddfa Ysgrifennydd UKROFS, Ystafell G47, Nobel House, 17 Smith Square, Llundain SW1P 3JR ac mae copïau ar gael oddi wrthynt.

Ceir archwilio copïau o Fap Rhostiroedd Cymru 1992 yn ystod oriau swyddfa yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd;

Adeiladau'r Llywodraeth, Penrallt, Caernarfon;

Adeiladau'r Llywodraeth, Teras Picton, Caerfyrddin; ac

Adeiladau'r Llywodraeth, Spa Road East, Llandrindod.

Mae copïau o'r Dulliau Gweithredu ar Arferion Amaethyddol Da er diogelu Pridd, Aer, D r ac ar gyfer Plaleiddiaid (y cyfeirir atynt ym mharagraff 10 o Atodlen 2) ar gael yn rhad ac am ddim oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Notes:

[1] Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) (O.S.1999/2788) ("y Gorchymyn"). Mae pwer y Cynulliad Cenedlaethol, fel corff sydd wedi'i ddynodi mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, i wneud rheoliadau sy'n gymwys i ddaliadau sy'n cynnwys tir y tu allan i Gymru, wedi'i gadarnhau gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn.back

[2] 1972 p.68.back

[3] OJ Rhif L160, 26.06.1999, t.80.back

[4] O.S. 1992/2111; a ddiwygwyd gan O.S. 1994/2286.back

[5] OJ Rhif L198, 22.7.1991, t.1.back

[6] OJ Rhif L214, 13.8.1999, t.31.back

[7] O.S. 1994/1721; a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3109 ac O.S. 1998/1606.back

[8] O.S. 1999/2611; a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/3337 (Cy. 45).back

[9] 1986 p.5.back

[10] 1995 p.8.back

[11] 1998 p.38.back

[12] O.S. 1996/3142, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/2969back



English version



ISBN 0-11-090225-4


  Prepared 12 June 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010424w.html