BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ardollau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010429w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 429 (Cy. 19)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU,

CYLLID

Rheoliadau Ardollau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2001

  Wedi'u gwneud 15 Chwefror 2001 
  Yn dod i rym 16 Chwefror 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 74, 140(4) a 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 [1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Enwi, cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardollau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Cymru)(Diwygio) 2001 a deuant i rym ar 16 Chwefror 2001.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn:

Diddymu Rheoliadau 2000
     2. Diddymir trwy hyn Reoliadau 2000.

Ailsefydlu darpariaethau'r Prif Reoliadau
    
3. Bydd y darpariaethau a wnaed gan y Prif Reoliadau (fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau 1996) yn effeithiol fel yr oeddent yn union cyn i Reoliadau 2000 ddod i rym.

Darpariaeth ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddechreuodd yn 2000
    
4. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn unol â darpariaethau Rheoliadau 2000 mewn perthynas ag unrhyw ardoll gan awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddechreuodd ar 1 Ebrill 2000.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [
5]


D. Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

15 Chwefror 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rheoliadau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Ardollau) (Cymru) 1995 ("y Prif Reoliadau") yn darparu bod Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol yn gosod ardollau ar gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol Cymru fel awdurdodau bilio ar gyfer y Parciau Cenedlaethol yng Nghymru.

Diwygiwyd y Prif Reoliadau gan Reoliadau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Ardollau) (Cymru) (Diwygio) 1996 ("Rheoliadau 1996").

Gwnaed diwygiadau pellach i'r Prif Reoliadau gan Reoliadau Ardollau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2000 ("Rheoliadau 2000").

Effaith Rheoliadau 2000 oedd:

Effaith y Rheoliadau hyn yw ailsefydlu'r darpariaethau hynny yn y Prif Reoliadau (fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau 1996) a ddiddymwyd gan Reoliadau 2000 ond heb effeithio ar y darpariaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddechreuodd yn 2000.


Notes:

[1] 1988 p. 41back

[2] OS 1995 / 3019back

[3] OS 1996 / 291back

[4] OS 2000 / 244 (Cy. 2)back

[5] p. 38back



English version



ISBN 0 11090322 6


  Prepared 14 August 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010429w.html