BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Taliadau S<IMG SRC="images/wcirc.gif">n Priffyrdd (Cartrefi Symudol) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010604w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 604 (Cy.27)

ADEILADU AC ADEILADAU, CYMRU

Rheoliadau Taliadau Sn Priffyrdd (Cartrefi Symudol) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 27 Chwefror 2001 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2001 


TREFN Y RHEOLIADAU

1. Enwi, cychwyn a chymhwyso.
2. Dehongli
3. Y pw er i wneud taliadau swn.
4. Sut i asesu lefelau swn.
5. Swm y taliadau swn.
6. Adegau pan na chaniateir gwneud taliadau swn.
7. Cartrefi cymwys.
8. Y cyfnod cymhwyso.
9. Y personau y gellir gwneud taliadau swn iddynt.
10. Y weithdrefn ar gyfer gwneud cais am daliadau swn.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 20A o Ddeddf Iawndal Tir 1973[
1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: - 

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Sn Priffyrdd (Cartrefi Symudol) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn - 

Y pn
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy, os yw defnyddio priffordd berthnasol yn achosi sn o'r fath, caiff yr awdurdod wneud taliad o dan y paragraff hwn o'r rheoliad hwn.

    (2) At ddibenion paragraff (1) o'r rheoliad hwn mae defnyddio priffordd berthnasol yn achosi sn o'r fath  - 

    (3) Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy, os yw gwaith ar gyfer adeiladu neu newid priffordd ar unrhyw bryd ar ôl y dyddiad cychwyn, yn achosi sn ar lefel sydd, ym marn yr awdurdod, wedi cael effaith andwyol ddifrifol ar fwynhad cartref cymwys dros gyfnod di-dor o nid llai na chwe mis, caiff yr awdurdod wneud taliad o dan y paragraff hwn o'r rheoliad hwn.

    (4) Pan ddaw priffordd yn briffordd y gellir ei chynnal ar gost y cyhoedd o fewn ystyr adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980[
6] o fewn tair blynedd ar ôl y dyddiad perthnasol, caiff yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd wneud taliad o dan baragraffau (1) neu (3) o'r rheoliad hwn mewn perthynas â chartref cymwys os byddai per i wneud hynny wedi codi petai'r briffordd wedi bod yn briffordd y gellid ei chynnal ar gost y cyhoedd ar y dyddiad perthnasol a phetai gwaith adeiladu neu newid y briffordd wedi'i gyflawni gan yr awdurdod priffyrdd hwnnw.

    (5) Cyfeirir at daliad o dan y rheoliad hwn fel "taliad sn" yn y Rheoliadau hyn.

Sut i asesu lefelau sn
     4. At ddibenion rheoliad 3(2) rhaid i'r lefel sn berthnasol sy'n cael ei achosi neu y disgwylir iddo gael ei achosi gan draffig sy'n defnyddio priffordd neu y disgwylir iddo ei defnyddio gael eu hasesu yn unol â Chod 1988.

Swm y taliadau sn
    
5. Swm taliad sn yw'r swm y mae'r awdurdod yn penderfynu arno yn ôl ei ddisgresiwn ond ni chaiff fod yn fwy na £1,650.

Adegau pan na chaniateir gwneud taliadau sn
    
6. Os oes taliad sn mewn perthynas â'r cartref cymwys hwnnw yn codi yn sgil y newid hwnnw i'r briffordd neu ei defnyddio fel y'i newidiwyd felly.

Cartrefi cymwys
    
7.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) o'r rheoliad hwn, mae cartref cymwys yn gartref symudol sydd, drwy gydol y cyfnod cymhwyso  - 

    (2) Nid yw cartref symudol yn gartref cymwys os oedd yn gerbyd modur o fewn ystyr adran 185(1) o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988[8] neu os oedd yn adeilad neu'n rhan o adeilad ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cymhwyso.

    (3) At ddibenion taliad sn sy'n codi o waith perthnasol nid yw cartref symudol yn gartref cymwys  - 

Y cyfnod cymhwyso
     8.  - (1) Os oes taliad sn o dan reoliad 3(1) yn cael ei wneud o ganlyniad i waith perthnasol y mae'r dyddiad perthnasol ar ei gyfer yn digwydd cyn y dyddiad cychwyn, y cyfnod o dair blynedd sy'n dod i ben ar y dyddiad cychwyn yw'r cyfnod cymhwyso.

    (2) Os oes taliad sn o dan reoliad 3(1) yn cael ei wneud o ganlyniad i waith perthnasol y mae'r dyddiad perthnasol ar ei gyfer yn digwydd un flwyddyn ar ôl, y dyddiad cychwyn neu o fewn un flwyddyn ar ei ôl, y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ddwy flynedd ar ôl y dyddiad perthnasol yw'r cyfnod cymhwyso.

    (3) Os oes taliad sn o dan reoliad 3(1) yn cael ei wneud o ganlyniad i waith perthnasol y mae'r dyddiad perthnasol ar ei gyfer yn digwydd fwy na blwyddyn ar ôl y dyddiad cychwyn, y cyfnod sy'n dechrau un flwyddyn cyn y dyddiad perthnasol ac sy'n dod i ben ddwy flynedd ar ôl y dyddiad perthnasol yw'r cyfnod cymhwyso.

    (4) Os oes taliad sn sy'n cael ei achosi gan y gwaith hwnnw wedi cael effaith andwyol ddifrifol ar fwynhad y cartref cymwys dros gyfnod di-dor o chwe mis yw'r cyfnod cymhwyso.

Y personau y gellir gwneud taliadau sn iddynt
    
9.  - (1) Dim ond i'r personau canlynol y gellir gwneud taliad sn  - 

    (2) Os yw'n ymddangos i'r awdurdod, mewn perthynas â chartref cymwys, fod yna fwy nag un person y byddai paragraff (1) o'r rheoliad hwn yn awdurdodi gwneud taliad swn iddynt, caiff yr awdurdod, yn ôl ei ddisgresiwn, ddyrannu unrhyw daliad sn y mae'n penderfynu ei wneud rhwng y personau hynny ac, os yw'n gwneud hynny, ymdrinnir â thaliadau y mae'n eu gwneud i bersonau gwahanol o dan yr is-baragraff hwn at ddibenion rheoliad 5 fel un taliad o gyfanswm y taliadau hynny.

Y weithdrefn ar gyfer gwneud cais am daliadau sn
    
10.  - (1) Gall yr awdurdod ystyried cais am daliad sn os yw'n cael ei wneud yn ystod y cyfnod o chwe blynedd sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod cymhwyso.

    (2) Rhaid i gais am daliad sn gael ei gyflwyno yn ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth ganlynol - 

    (3) Rhaid i gais o dan y rheoliad hwn gael ei lofnodi gan y ceisydd a rhaid iddo ymgorffori datganiad gan y ceisydd fod yr wybodaeth y mae'n ei chynnwys yn gywir hyd eithaf gwybodaeth a chred y ceisydd.

    (4) Ni fernir bod cais o dan y rheoliad hwn wedi'i wneud oni bai ei fod yn cynnwys yr holl wybodaeth a ragnodir gan y rheoliad hwn a'i fod yn ymgorffori'r datganiad sy'n ofynnol gan baragraff (3) o'r rheoliad hwn ac ni fernir ei fod wedi'i wneud nes i'r awdurdod y bwriedir ei gyflwyno iddo ei gael mewn gwirionedd.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
9]


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Chwefror 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi pn 1975 (O.S. 1975/1763 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1988/2000). Am resymau ymarferol ni ellir cymhwyso'r darpariaethau hynny at gartrefi symudol.

Gellir cael y memorandwm sy'n dwyn y teitl "Calculation of Traffic Noise" a gyhoeddwyd gan Wasg Ei Mawrhydi (1988) o Siop Lyfrau Oriel, 18-19 Heol Fawr, Caerdydd CF10 2BZ.

Gellir cael Safon Brydeinig 4197:1967 o unrhyw fan werthu sy'n cael ei gweithredu gan y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) neu drwy'r post o'r BSI yn 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.


Notes:

[1] 1973 p.26; mewnosodwyd adran 20A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34), adran 70 ac Atodlen 15, paragraff 5(1). Mae'r p er i wneud rheoliadau o adran 20A o Ddeddf Iawndal Tir 1973 wedi'i ddatganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, erthygl 2 ac Atodlen 1 (O.S. 1999/672).back

[2] 1973 p.26.back

[3] 1960 p.62.back

[4] 1968 p. 52.back

[5] 1980 p.66.back

[6] 1980 p.66.back

[7] 1968 p.62.back

[8] 1988 p.52.back

[9] 998 p.38back



English version



ISBN 0-11-090179-7


  Prepared 19 April 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010604w.html