BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Offerynnau Statudol 2001 Rhif 605 (Cy. 28)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010605w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 605 (Cy. 28)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (Cyfathrebu Electronig) (Cymru) 2001

  Wedi'i wneud 27 Chwefror 2001 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r farn bod awdurdodi defnyddio cyfarthrebu electronig gan y Gorchymyn hwn at unrhyw ddiben yn gyfryw nes na fydd cofnodion o bethau a wneir at y diben hwnnw ar gael ar raddfa lai boddhaol (os o gwbl) mewn achosion lle caiff cyfarthrebu electronig ei ddefnyddio nag mewn achosion eraill. Gan hynny, mae'n gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 8 a 10 (2), (3)(d),(3)(e), (4) a (5) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000[1] a chyda chydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (Cyfathrebu Electronig) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Ebrill 2001.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

    (3) Yn y Gorchymyn hwn,

Diwygiadau i Ddeddf 1989
     2.  - (1) Mae'r diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1989 gan Orchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (Cyfathrebu Electronig) (Lloegr) 2000 [3] fel y'u nodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru hefyd.

    (2) Mae cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y diwygiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Chwefror 2001



Rwy'n cydsynio i'r Gorchymyn hwn.


Paul Murphy
Ysgrifennydd Gwladol Cymru

27 Chwefror 2001



ATODLEN
ERTHYGL 2


Cyfathrebu'r penderfyniad terfynol ar swm cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai yn electronig


     1. Yn adran 80A o Ddeddf 1989[
5] (y penderfyniad terfynol ar swm cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai) ar ôl is-adran (1), mewnosodir yr is-adrannau canlynol  - 

Cyfathrebu dyfarniadau a chyfarwyddiadau yn electronig
     2. Yn adran 87 o Ddeddf 1989[6] (penderfyniadau a chyfarwyddiadau) ar ôl is-adran (3), mewnosodir yr is-adrannau canlynol  - 

Dehongli Rhan VI o Ddeddf 1989 a'i chymhwyso
     3. Yn adran 88(1) o Ddeddf 1989  - 

    (1) ar ddiwedd paragraff (c) dilëir "and";

    (2) ar ôl paragraff (d) mewnosodir  - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae adran 8 o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000 ("Deddf 2000") yn rhoi p er i'r Gweinidog priodol (fel y'i diffinnir yn adrannau 9(1) a 10(1) o Ddeddf 2000) addasu deddfwriaeth er mwyn awdurdodi neu hwyluso defnyddio dulliau cyfathrebu electronig neu ddulliau storio electronig.

Mae adran 10 o Ddeddf 2000 yn nodi o dan ba amgylchiadau ac ym mha fodd y mae'r p er yn Adran 8 yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae adrannau 80A, 87 ac 88 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ("Deddf 1989") yn cael eu diwygio gan y Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1989 (gyda rhai eithriadau) yn arferadwy yng Nghymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd darpariaethau Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Gan hynny, mae pob cyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y diwygiadau i Ddeddf 1989 yn gyfeiriadau i bob pwrpas (yng Nghymru) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r diwygiadau'n cael eu gwneud drwy gymhwyso'r diwygiadau i Ddeddf 1989 sydd wedi'u gwneud gan Orchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (Cyfathrebu Electronig) (Lloegr) 2000 (OS 2000/3056) at Gymru. Nodir y diwygiadau hynny yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Effaith y Gorchymyn hwn yw diwygio adran 80A o Ddeddf 1989 er mwyn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddefnyddio dulliau cyfathrebu electronig:

Effaith y Gorchymyn hwn hefyd yw diwygio adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, i ganiatàu i'r Cynulliad:

Mae'r diwygiad hwn hefyd yn caniatàu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyflawni ei rwymedigaeth i anfon copi o ddyfarniad at awdurdod drwy gyhoeddi'r dyfarniad ar wefan a hysbysu'r awdurdod y gellir dod o hyd iddo yno, a sut y gellir cael gafael arno yno (os yw wedi cytuno felly gyda'r awdurdod).

Caiff awdurdod nad yw mwyach yn fodlon derbyn dyfarniad neu benderfyniad drwy ddull electronig hysbysu ei fod yn tynnu ei hysbysiad ynghylch y cyfeiriad y gall gohebiaeth electronig gael ei hanfon ato yn ôl, a'i fod yn diddymu cytundeb y gellir ei hysbysu drwy edrych ar wefan. Daw'r tynnu'n ôl neu'r diddymu i rym ar ddyddiad a bennir gan yr awdurdod sy'n gorfod bod o leiaf fis o'r dyddiad y mae'r awdurdod yn rhoi'r hysbysiad ynghylch y tynnu'n ôl neu'r diddymu.

Yn olaf, effaith y Gorchymyn hwn yw diwygio adran 88 o Ddeddf 1989 drwy fewnosod diffiniad o ddulliau cyfathrebu electronig a diffiniad o gyfeiriad at ddibenion cyfathrebu electronig.


Notes:

[1] 2000 p.7. I gael y diffiniad o "the appropriate Minister" gweler adrannau 9(1) a 10(1).back

[2] 1989 p.42.back

[3] OS 2000/3056back

[4] 1998 c.38.back

[5] Mewnosodwyd adran 80A gan baragraff 5 o Atodlen 18 i Ddeddf Tai 1996 (1996 p.52). Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 80A yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan y Cynulliad yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (1999 Rhif 672).back

[6] Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 87 yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan y Cynulliad yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.back

[7] 1984 p.12.back



English version



ISBN 0-11-090165-7


  Prepared 26 March 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010605w.html