BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Offerynnau Statudol 2001 Rhif 606 (Cy. 29)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010606w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 606 (Cy. 29)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 27 Chwefror 2001 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2001 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 527A(4) a (5) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau
    
2. Yn rheoliad 3 (ymgynghori) o Reoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) 1998[3]  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4])


D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Chwefror 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) 1998 mewn perthynas â Chymru i drosglwyddo swyddogaethau gweinyddol clercod ustusiaid i brif weithredwyr ustusiaid yn unol ag adran 90 o Ddeddf Cyfle i Gael Cyfiawnder 1999 (p.22) ac Atodlen 13 iddi.

Mae is-adran (5) o'r adran honno yn darparu mai holl swyddogaethau clercod ustusiaid yw eu swyddogaethau gweinyddol at ddibenion yr adran honno ar wahân i'r rhai sy'n swyddogaethau cyfreithiol o fewn yr ystyr a roddir iddynt gan adran 48(2) o Ddeddf Ynadon Heddwch 1997 (p.25), fel y'i hamnewidiwyd gan adran 89(1) o Ddeddf 1999.


Notes:

[1] 1996 p.56. Mewnosodwyd adran 527A gan adran 9 o Ddeddf Addysg 1997 (p.44) ac mae diwygiadau dilynol nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau presennol. Ar gyfer ystyr "prescribed" gweler adran 579(1) o Ddeddf 1996.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1998/644.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090166-5


  Prepared 26 March 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010606w.html