BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Cynllun Grantiau Ailstrwythuro'r Diwydiant Moch (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010643w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 643 (Cy. 32)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Cynllun Grantiau Ailstrwythuro'r Diwydiant Moch (Cymru) 2001

  Wedi'i wneud 28 Chwefror 2001 
  Yn dod i rym 1 Mawrth 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 1 o Ddeddf Tir Ffermio a Datblygu Gwledig 1988[1] ac adrannau 28 a 29 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970[2] yn gwneud y Cynllun canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn
     1. Teitl y Cynllun hwn yw Cynllun Grantiau Ailstrwythuro'r Diwydiant Moch (Cymru) 2001, bydd yn gymwys i Gymru a daw i rym ar 1 Mawrth 2001.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Cynllun hwn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall - 

    (2) Yn y Cynllun hwn, mae unrhyw gyfeiriad - 

Talu'r grantiau a symiau'r grantiau
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y Cynllun hwn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi grant i unrhyw berson cymwys tuag at y gwariant a dynnir wrth dalu'r llogau ar y rhan berthnasol o fenthyciad cymwys.

    (2) At ddibenion y Cynllun hwn, benthyciad cymwys yw benthyciad sydd wedi'i gael, neu sydd i'w gael, oddi wrth fanc er mwyn gweithredu cynllun busnes ar gyfer ailstrwythuro busnes cynhyrchu moch.

    (3) At ddibenion y Cynllun hwn, y rhan berthnasol o fenthyciad cymwys, yn achos gwariant y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn wariant o natur gyfalaf neu'n wariant a dynnwyd mewn cysylltiad â gwariant o natur gyfalaf, yw'r rhan honno o'r benthyciad - 

    (4) At ddibenion y Cynllun hwn, y rhan berthnasol o fenthyciad cymwys, yn achos gwariant y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol nad yw'n wariant o natur gyfalaf nac yn wariant wedi'i dynnu mewn cysylltiad â gwariant o natur gyfalaf, yw'r rhan honno o'r benthyciad cymwys sydd wedi'i thynnu neu sydd i'w thynnu at ddibenion ailstrwythuro, mewn cysylltiad ag ailstrwythuro neu mewn cysylltiad ag unrhyw gynigion ar gyfer ailstrwythuro, drwy'r canlynol - 

    (5) Os oes benthyciad wedi'i dynnu'n rhannol at ddibenion ailstrwythuro neu mewn cysylltiad ag ailstrwythuro busnes cynhyrchu moch ac yn rhannol at ddibenion eraill, at ddibenion grant o dan y paragraff hwn caiff y Cynulliad Cenedlaethol drin cymaint o'r benthyciad hwnnw ag y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol y gellir ei gyfeirio at yr ailstrwythuro hwnnw fel benthyciad cymwys.

    (6) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu'r grant o dan is-baragraff (1) uchod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae'n rhesymol iddo eu pennu.

    (7) Ni chaiff unrhyw grant o dan y Cynllun hwn fod yn fwy na 5% o'r benthyciad cymwys (heb gynnwys y llogau sydd wedi cronni).

Personau cymwys
    
4.  - (1) Bydd y personau canlynol yn gymwys i gael grant o dan y Cynllun hwn - 

Hawliadau grant
    
5. Rhaid i unrhyw hawliadau am grant o dan y Cynllun hwn gael eu gwneud ar y ffurf, yn y modd ac ar yr adeg y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdanynt o dro i dro, a rhaid i'r hawliwr grant roi'r holl fanylion a'r holl wybodaeth ynghylch yr hawliad a chopïau o'r dogfennau a chofnodion sy'n gysylltiedig ag ef y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn amdanynt.

Dal y grant yn ôl neu ei adennill
    
6.  - (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddal y cyfan neu unrhyw ran o grant sy'n daladwy o dan y Cynllun hwn yn ôl neu adennill ar gais swm sy'n gyfartal â'r taliad sydd wedi'i wneud o dan y Cynllun hwn, neu unrhyw ran ohono y gall ei phennu, os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol - 

    (2) Cyn dal y cyfan neu unrhyw ran o grant yn ôl neu adennill unrhyw swm sy'n gyfartal â'r taliad sydd wedi'i wneud neu ran o'r taliad sydd wedi'i wneud o dan ddarpariaethau paragraff (1) uchod, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Chwefror 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Cynllun)


Mae'r Cynllun hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Mae'n gwneud darpariaeth ar gyfer talu grantiau tuag at gost benthyciadau a dynnwyd mewn cysylltiad â:

Diffinir y personau hynny sy'n gymwys ar gyfer grantiau o dan y Cynllun ym mharagraff 4.

Mae'r Cynllun yn darparu y bydd hawliadau am grant i gael eu gwneud ar ffurf y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdanynt (paragraff 5) ac yn caniatau dal grant yn ôl neu ei adennill o dan rhai amgylchiadau (paragraff 6).

Ni pharatowyd Arfarniad Rheoliadol ynghylch y Cynllun hwn.


Notes:

[1] 1998 p.16. Cafodd holl swyddogaethau un o Weinidogion y Goron o dan y Ddeddf hon, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[2] 1970 p.40; mae adran 28(1) yn diffinio "the appropriate authority" a "the appropriate Minister". Cafodd holl swyddogaethau un o Weinidogion y Goron o dan adran 28 a 29, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 1987 p.22.back

[4] O.S. 1992/3218.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090218-1


  Prepared 4 June 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010643w.html