BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Cofnodion Disgyblion) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010832w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 832 (Cy. 37)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cofnodion Disgyblion) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 8th Mawrth 2001 
  Yn dod i rym 16 Ebrill 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 563 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cofnodion Disgyblion) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 16 Ebrill 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ysgolion yng Nghymru yn unig.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn  - 

ystyr "diwrnod ysgol" ("school day") yw unrhyw ddiwrnod y mae sesiwn ysgol yn digwydd yn yr ysgol;

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y rhif hwnnw.

Ystyr cofnodion addysgol
     3.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "cofnod addysgol" ("educational record") yw unrhyw gofnod o wybodaeth  - 

heblaw gwybodaeth a brosesir gan athro at ddefnydd yr athro yn unig.

    (2) Dyma'r ysgolion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a)  - 

    (3) Dyma'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(c)  - 

Dyletswyddau pennaeth - cofnodion cwricwlaidd
     4. Rhaid i bennaeth pob ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, ac eithrio ysgol feithrin, a phob ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal felly, gadw cofnod cwricwlaidd, a ddiweddarir o leiaf unwaith y flwyddyn, mewn perthynas â phob disgybl cofrestredig yn yr ysgol.

Dyletswyddau pennaeth - cofnodion addysgol
    
5.  - (1) Ar ôl cael cais ysgrifenedig gan riant i ddatgelu cofnod addysgol disgybl, rhaid i bennaeth ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, ac eithrio ysgol feithrin, a phennaeth ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal felly, o fewn pymtheng niwrnod ysgol, drefnu ei fod ar gael i'w archwilio, yn rhad ac am ddim, i'r rhiant.

    (2) Ar ôl cael cais ysgrifenedig gan riant am gopi o gofnod addysgol disgybl, rhaid i bennaeth ysgol o'r fath, o fewn pymtheng niwrnod ysgol, roi copi ohono i'r rhiant pan delir ffi (nad yw'n fwy na chost ei gyflenwi), os oes ffi, fel y caiff y corff llywodraethu ei ragnodi.

    (3) Ym mhob achos lle'r ydys yn ystyried derbyn y disgybl i ysgol arall (gan gynnwys ysgol annibynnol) neu i sefydliad addysg bellach neu addysg uwch neu i unrhyw le addysg neu le hyfforddiant arall, rhaid i'r pennaeth drosglwyddo cofnod cwricwlaidd y disgybl i'r person cyfrifol, yn rhad ac am ddim, os yw'r person yn gwneud y cais hwnnw, cyn pen pymtheng niwrnod ysgol ar ôl cael y cais.

    (4) Ni fydd y cofnod a roddir o dan baragraff (3) yn cynnwys canlyniadau unrhyw asesiad o gyraeddiadau'r disgybl.

    (5) Wrth gydymffurfio ag unrhyw gais i ddatgelu neu i gael copi o gofnod addysgol disgybl o dan baragraff (1) neu (2) o'r rheoliad hwn, rhaid i'r pennaeth beidio â datgelu unrhyw ddogfennau sy'n destun unrhyw orchymyn o dan adran 30(2) o Ddeddf Diogelu Data 1998[
5].

Cyfieithu
     6.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol trefnu ei bod ar gael i'w harchwilio neu ei rhoi o dan reoliad 5(1), (2) neu (3).

    (2) Os yw'n ymddangos i bennaeth yr ysgol ei bod yn ofynnol cyfieithu unrhyw ddogfen o'r fath i Gymraeg neu Saesneg, rhaid i'r pennaeth drefnu ei chyfieithu ac yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd rheoliad 5 yn gymwys i'r ddogfen a gyfieithwyd fel ag y mae'n gymwys i'r ddogfen wreiddiol.

    (3) Os yw'n ymddangos i bennaeth yr ysgol ei bod yn ofynnol cyfieithu unrhyw ddogfen o'r fath i iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg, rhaid i'r pennaeth drefnu ei chyfieithu ac yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd rheoliad 5 yn gymwys i'r ddogfen a gyfieithwyd fel ag y mae'n gymwys i'r ddogfen wreiddiol.

    (4) Pan godir tâl am gopi o'r ddogfen wreiddiol, rhaid peidio â chodi tâl uwch am gopi o'r ddogfen a gyfieithwyd fel hyn.

Diddymu
    
7. Mae Rheoliadau Addysg (Cofnodion Ysgol) 1989[6] wedi'u diddymu.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].


Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Mawrth 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n disodli darpariaethau a geid yn flaenorol yn Rheoliadau Addysg (Cofnodion Ysgol) 1989, yn darparu i bennaeth yr ysgol gadw cofnodion am gyraeddiadau academaidd a medrau a galluoedd a chynnydd (cofnodion cwricwlaidd) disgybl mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol (ac eithrio ysgol feithrin) ac ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal felly (rheoliad 4).

Maent hefyd yn darparu i'r pennaeth ddatgelu a throsglwyddo cofnodion addysgol (fel y'u diffinnir yn rheoliad 3) i rieni ac i ysgolion y mae disgyblion yn trosglwyddo iddynt (rheoliad 5).

Os yw hynny'n ofynnol, rhaid darparu'r cofnodion addysgol gwreiddiol ynghyd â chyfieithiad i Gymraeg neu Saesneg neu i iaith arall (rheoliad 6).

Mae Rheoliadau 1989 yn cael eu diddymu (rheoliad 7).


Notes:

[1] 1996 p.56. Diddymwyd adran 563(3)(b) gan Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). I gael ystyr "regulations", gweler adran 579(1).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.back

[3] 1988 p.40 fel y'i diwygiwyd gan baragraff 49 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13).back

[4] Yr un diffiniad yw hwn â'r diffiniad o "educational record" a geir yn Atodlen 11 i Ddeddf Diogelu Data 1998 (p.29).back

[5] 1998 p.29.back

[6] O.S. 1989/1261.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090177-0


  Prepared 19 April 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010832w.html