BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010833w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 833 (Cy.38)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 8 Mawrth 2001 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Rheoliadau 1992" yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992[
2].

    (3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau 1992
     2. Yn Atodlen 2 i Reoliadau 1992 (Telerau Gwasanaeth), yn lle paragraff 36 rhoddir y paragraff canlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru[5])


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Mawrth 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach ar Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 (O.S.1992/635), sy'n rheoleiddio'r telerau y mae Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn cael eu darparu arnynt o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Mae'r telerau gwasanaeth ar gyfer meddygon a geir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny yn cael eu diwygio er mwyn galluogi meddygon i gadw cofnodion meddygol sy'n ymwneud â'u cleifion naill ai ar bapur neu ar gyfrifiadur neu ar y ddau.

Pan fydd am gadw cofnodion naill ai yn gyfan gwbl ar gyfrifiadur neu yn rhannol ar gyfrifiadur, rhaid i'r meddyg sicrhau cydsyniad yr Awdurdod Iechyd yn gyntaf.

Pan yw'n ofynnol i'r meddyg anfon copïau o'i gofnodion i'r Awdurdod Iechyd, dim ond os yw'r Awdurdod Iechyd wedi rhoi ei gydsyniad y caiff y meddyg eu darparu ar ffurf heblaw ffurf ysgrifenedig.

Ym mhob achos, bydd yr Awdurdod Iechyd yn rhoi ei gydsyniad os yw wedi'i fodloni gan y meddyg ynghylch amryw o faterion a bennir yn y rheoliadau hyn.


Notes:

[1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) a (i) i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".

Cafodd adran 29 ei hymestyn gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adrannau 1 a 7 ac Atodlen 1, paragraff 42(b); gan Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 (p. 41), Atodlen 6, paragraff 2; gan Ddeddf Feddygol 1983 (p.54), adran 56(1) ac Atodlen 5, paragraff 16(a); gan O.S.1985/39, erthygl 7(3); gan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1, paragraff 18; a chan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), Atodlen 2, paragraff 8.

Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2); a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p. 8), Atodlen 4, paragraff 37(6). Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (O.S.1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[2] O.S.1992/635 y ceir diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[3] Gellir cael copïau drwy ysgrifennu at Gangen Datblygiadau Gwybodaeth Glinigol, Yr Is-adran Technoleg a Rheoli Gwybodaeth, Cyfarwyddiaeth yr NHS, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.back

[4] Gellir cael copïau drwy ysgrifennu at Gangen Datblygiadau Gwybodaeth Glinigol, Yr Is-adran Technoleg a Rheoli Gwybodaeth, Cyfarwyddiaeth yr NHS, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.back

[5] 1998 p.38back



English version



ISBN 0-11-090236-X


  Prepared 13 June 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010833w.html