BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Proffesiynau sy'n Atodol i Feddygaeth) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011075w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 1075 (Cy.51)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Proffesiynau sy'n Atodol i Feddygaeth) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 13 Mawrth 2001 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 10(1) o Atodlen 5 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] i'r Ysgrifennydd Gwladol ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol[2] ar ôl ymgynghori yn unol â pharagraff 11(1) o'r Atodlen honno â chyrff sy'n cael eu cydnabod gan y Cynulliad Cenedlaethol fel rhai sy'n cynrychioli personau sy'n debygol o gael eu heffeithio, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: - 

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Proffesiynau sy'n Atodol i Feddygaeth) (Cymru) 2000, a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Proffesiynau sy'n Atodol i Feddygaeth) 1974[
3].

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio rheoliad 3 o'r prif Reoliadau
     2.  - (1) Diwygir rheoliad 3 o'r prif Reoliadau (cyflogi swyddogion) fel a ganlyn:

    (2) Ym mharagraff (1), yn lle "radiographer or remedial gymnast" rhoddir "or radiographer"[
4].

    (3) Ar ôl paragraff (1), mewnosodir y paragraff canlynol  - 

    (4) Yn lle paragraff (2) rhoddir  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Mawrth 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Proffesiynau sy'n Atodol i Feddygaeth) 1974 (y "prif Reoliadau").

Estynnwyd Deddf Proffesiynau sy'n Atodol i Feddygaeth 1960 ("y Ddeddf") ym 1997 i gynnwys prosthetegwyr ac orthotegwyr a therapyddion celfyddydau ymhlith y proffesiynau sy'n cael eu rheoleiddio o dan y Ddeddf.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ychwanegu'r proffesiynau hynny at y rhai y gwaherddir eu cyflogi gan Awdurdodau Iechyd ac Awdurdodau Iechyd Arbennig at ddibenion darparu gwasanaethau o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac eithrio pan gynhwyswyd eu henwau yn y gofrestr a gedwir yn unol ag adran 2(1) o'r Ddeddf gan y Byrddau sy'n cadw cofrestrau ar gyfer y proffesiynau hynny, neu pan y'u cyflogid yn y swyddi hynny yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Yn ychwanegol, mae rheoliad 2(2) yn dileu'r cyfeiriad at gymnastwyr adferol o'r prif Reoliadau am nad yw'r Ddeddf bellach yn cynnwys y proffesiwn hwn ar wahân. Daeth yn rhan o broffesiwn y ffisiotherapyddion.

Diweddarwyd rhestr yr awdurdodau y mae'r prif Reoliadau'n gymwys iddynt gan reoliad 2(4).


Notes:

[1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) adran 26(2)(g) ac (i), ar gyfer y diffinadau o "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd paragraff 10(1) o Atodlen 5 gan Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 (p.41), Atodlen 6, paragraff 3; gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48), Atodlen 3, paragraff 14, ac Atodlen 8, Rhan I; a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1, paragraff 60(c).back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y darpariaethau y gwneir y rheoliadau hyn o danynt i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosgwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1974/494, a ddiwygiwyd gan O.S. 1978/1090, 1982/288 ac 2000/523.back

[4] Dileodd O.S. 1986/630 gymnastwyr adferol o'r rhestr o broffesiynau y mae Deddf Proffesiynau sy'n Atodol i Feddygaeth 1960 (p.66) yn gymwys iddynt.back

[5] 998 c.38back



English version



ISBN 0-11-090178-9


  Prepared 19 April 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011075w.html