BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ardrethu Annomestig(Newid Rhestri ac Apelau)(Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011203w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 1203 (Cy. 64 )

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig(Newid Rhestri ac Apelau)(Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 27 Mawrth 2001 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 55(2) a (6), 140 a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau 1993
    
2.  - (1) Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) 1993[3] yn cael eu diwygio yn unol â'r paragraff canlynol.

    (2) Yn Rheoliad 13A[4]) (yr amser y daw'r newid yn effeithiol: cyffredinol) - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].


D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2001, yn diwygio ymhellach ar Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) 1993 mewn perthynas â Chymru.

Mae Rheoliadau 1993 yn ymwneud â newid rhestri ardrethu annomestig sy'n cael eu llunio o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.

Maent yn cynnwys darpariaeth bod newid mewn rhestr sydd wedi'i llunio ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny, a hwnnw'n cael ei wneud ar sail newid perthnasol mewn amgylchiadau, yn dod yn effeithiol o'r diwrnod cyntaf y cododd yr amgylchiadau sy'n arwain at y newid yn y rhestr neu o'r diwrnod cyntaf yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn cael ei gyflwyno, p'un bynnag yw'r olaf. Oherwydd hyn, ni fydd y newid yn y rhestr yn dod yn effeithiol o'r diwrnod cyntaf y cododd y newid amgylchiadau oni fydd y cynnig yn cael ei gyflwyno cyn diwedd y flwyddyn ariannol y digwyddodd y newid amgylchiadau gyntaf.

Os yw'r rhestr a gafodd ei llunio ar 1 Ebrill 2000 yn cael ei newid yn sgil cynnig ar sail newid perthnasol mewn amgylchiadau a gododd gyntaf ar ddiwrnod ar ôl 31 Rhagfyr 2000 ond cyn 1 Ebrill 2001, yna mae'r Rheoliadau hyn yn golygu y bydd y newid yn y rhestr yn effeithiol o'r dyddiad hwnnw ymlaen os caiff y cynnig ei gyflwyno cyn 1 Gorffennaf 2001.


Notes:

[1] 1988 p. 41.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1993/291.back

[4] Mewnosodwyd Rheoliad 13A, mewn perthynas â Chymru, gan Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/792) (Cy. 29).back

[5] 1998 p.38back



English version



ISBN 0-11-090211-4


  Prepared 30 May 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011203w.html