BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cyfyngu Pithio (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011303w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 1303 (Cy. 80)

BWYD, CYMRU

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Cyfyngu Pithio (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 22 Mawrth 2001 
  Yn dod i rym
  (a) yn achos pob darpariaeth heblaw rheoliad 3 1 Ebrill 2001 
  (b) yn achos rheoliad 3 1 Gorffennaf 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd gan weithredu ar y cyd i arfer y pwerau sydd wedi'u rhoi iddynt gan yr adran honno bellach yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfyngu Pithio (Cymru) 2000.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

    (3) Yn achos pob darpariaeth heblaw rheoliad 3, daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2001. Daw rheoliad 3 i rym ar 1 Gorffennaf 2001.

Cyfyngu Pithio
    
2.  - (1) Ni chaiff neb bithio unrhyw anifail buchol, defeidiog neu afraidd cyn ei gigyddio i gael ei fwyta gan bobl neu gan anifeiliaid.

    (2) At ddibenion y rheoliadau hyn, "pithio" anifail yw torri ei feinwe nerfol canolog, ar ôl ei stynio, ag offeryn hir ar siâp rhoden a roddir i mewn i geudod y benglog.

    (3) Bydd unrhyw berson sy'n torri paragraff (1) yn euog o dramgwydd.

Gwaredu anifeiliaid a bithiwyd yn anghyfreithlon
    
3. Os oes unrhyw anifail buchol, defeidiog neu afraidd wedi'i bithio yn groes i reoliad 2(1), bernir bod pob rhan o'i garcas (ac eithrio'r croen) - 

Diwygiad i Reoliadau Lles Anifeiliaid (Cigyddio neu Ladd) 1995
     4. I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigyddio neu Ladd) 1995[5] wedi'u diwygio drwy fewnosod y rheoliad canlynol yn union ar ôl rheoliad 3 (cymhwyso ac esemptiadau) - 

Pwerau arolygwyr
    
5.  - (1) Os gofynnir iddo wneud hynny, bydd gan arolygydd, ar ôl cyflwyno rhyw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol i fynd i unrhyw dir neu adeilad (heblaw adeilad domestig nad yw'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn) er mwyn darganfod a yw rheoliad 2(1) yn cael neu wedi cael ei dorri.

    (2) Ym mharagraff (1), ystyr "arolygydd" yw person a benodir yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, neu awdurdod lleol.

    (3) Ym mharagraffau (2) (4) ac yn rheoliad 8, ystyr "awdurdod lleol" yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

    (4) Bernir bod unrhyw berson a benodir yn arolygydd at ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981[
6] gan - 

wedi'i benodi yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan yr awdurdod hwnnw neu yn ôl fel y digwydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu yn ôl fel y digwydd gan y Gweinidog hwnnw.

Rhwystro
     6.  - (1) Ni chaiff neb - 

a bydd unrhyw berson sy'n torri'r rheoliad hwn neu'n methu â chydymffurfio ag ef yn euog o dramgwydd.

    (2) Rhaid peidio â dehongli dim ym mharagraff (1)(b) uchod fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gais am wybodaeth a allai daflu bai arno pe bai'n gwneud hynny.

Cosbi
    
7.  - (1) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 6(1)(a) neu(b) yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am gyfnod na fydd yn fwy na thri mis neu'r ddau.

    (2) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 2(1) neu reoliad 6(1)(c) yn agored - 

Gorfodi
    
8. Caiff y Rheoliadau hyn eu gorfodi - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]


D. Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

22 Mawrth 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn rhoi ei heffaith yng Nghymru i Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2000/418/EC (OJ Rhif L158, 30.6.2000, t.70).

    
2. Mae'r Rheoliadau hyn - 

     3. Mae'r Rheoliadau hyn (heblaw Rheoliad 3, sy'n dod i rym ar 1 Gorffennaf 2001) yn dod i rym ar 1 Ebrill 2001.

    
4. Mae arfarniad rheoleiddiol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EN.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 1997/2965, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/3062, O.S. 1998/2405 (a ddiwygiwyd ei hun gan O.S. 1998/2431), O.S. 1999/539 ac, mewn perthynas â Chymru, gan O.S. 2000/2659 (Cy.172) ac O.S. 2000/3387 (Cy.224).back

[4] O.S. 1997/2964, a ddiwygiwyd mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2000/2811 ac O.S. 2000/3387 (Cy.224).back

[5] O.S. 1995/731, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/400 ac O.S. 2001/656.back

[6] 1981 p.22.back

[7] O.S. 1995/539.back

[8] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090213-0


  Prepared 1 June 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011303w.html