BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011360w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 1360 (Cy. 88)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 29 Mawrth 2001 
  Yn dod i rym- 1 Ebrill 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 6(4), 17(2) a 26(3) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enw, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) (Cymru) 2001; byddant yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn - 

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.

Yr awdurdod cymwys
     3. Y Cynulliad Cenedlaethol fydd yr awdurdod cymwys at ddibenion Teitl II o Reoliad 1760/2000, Rheoliad y Comisiwn 1141/97 a Rheoliad y Comisiwn 1825/2000.

Gorfodi gofynion labelu gorfodol a gwirfoddol
    
4.  - (1) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio - 

yn euog o dramgwydd.

    (2) Os oes cig eidion wedi'i labelu a'i farchnata mewn modd nad yw'n cydymffurfio - 

gall un o swyddogion awdurdod gorfodi o fewn ystyr paragraff (1) o reoliad 5 neu berson a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno hysbysiad i'r person sydd â meddiant y cig eidion yn ei gwneud yn ofynnol rhoi'r gorau i'w gynnig ar werth nes i'r cig eidion gael ei ail-labelu yn unol â'r gofynion hyn.

    (3) Mewn perthynas â chig eidion sy'n deillio o anifeiliaid a gafodd eu cigydda ar neu ar ôl 1 Medi 2000, gall hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) uchod awdurdodi anfon y cig eidion yn uniongyrchol i'w brosesu yn gynhyrchion heblaw'r rhai a nodwyd yn indentiad cyntaf Erthygl 12 o Reoliad 1760/2000.

    (4) Bydd unrhyw berson na fydd yn cydymffurfio â darpariaethau hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) uchod yn euog o dramgwydd.

Yr Awdurdodau Gorfodi
    
5.  - (1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn, cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol fydd yr awdurdodau gorfodi mewn perthynas â phob sir a bwrdeistref sirol.

    (2) Caiff y Rheoliadau hyn eu gorfodi mewn perthynas â lladd-dai, safleoedd torri a chyfanwerthwyr gan yr awdurdodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) o'r rheoliad hwn a chan y Cynulliad Cenedlaethol.

Cosbi
    
6. Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, o'i gollfarnu'n ddiannod, yn agored i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990
    
7.  - (1) Bydd y darpariaethau canlynol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf honno ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, rhaid i unrhyw gyfeiriad at y darpariaethau hynny yn y Ddeddf honno gael eu dehongli fel cyfeiriad i'r darpariaethau hynny fel y cymhwysir hwy at ddibenion y Rheoliadau hyn - 

    (2) Bydd adrannau 32 a 33 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (pwerau mynediad, rhwystro etc. swyddogion) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys at ddibenion y Ddeddf honno; a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at y Ddeddf yn yr adrannau hynny at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad - 

Diddymu
    
8. Diddymir Rheoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) 1998[5] i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Mawrth 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi'r canlynol yng Nghymru - 

Mae'r Rheoliadau hyn - 


Notes:

[1] 1990 p.16; mae swyddogaethau y dywedir eu bod yn arferadwy gan "the Secretary of State" yn arferadwy bellach mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Ychwanegwyd adran 48(4A) gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28), Atodlen 5, paragraff 21.back

[2] OJ Rhif L165, 24.6.97. t.7, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 824/98 (OJ Rhif L117, 21.4.98, t. 4).back

[3] OJ Rhif L216, 26.8.00, t.8.back

[4] OJ Rhif L204, 11.8.00, t.1.back

[5] O.S. 1998/616.back

[6] 1998, p 38.back



English version



ISBN 0-11-090240-8


  Prepared 22 June 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011360w.html