![]() |
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | |
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2001 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011362w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 29 Mawrth 2001 | ||
Yn dod i rym | 1 Ebrill 2001 |
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997
2.
Yn rheoliad 8 o Reoliadau 1997 (cymhwyster - cyflenwi cyfarpar optegol), ym mharagraffau (3)(c) (derbyn credyd treth teuluoedd sy'n gweithio) a (g) (credyd treth pobl anabl), yn lle "£70" rhowch "£71".
Diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997
3.
Yn rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer amnewid neu drwsio) -
Diwygio'r Atodlenni i Reoliadau 1997
4.
- (1) Yn Atodlen 1 i Reoliadau 1997 (codau llythrennau talebau a'u gwerth ar yr wyneb - cyflenwi ac amnewid) yng ngholofn (3) (gwerth y daleb ar ei hwyneb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod rhowch y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw.
TABL
(1) | (2) |
Yr hen swm | Y swm newydd |
£ 29.30 | £ 30.00 |
£ 44.50 | £ 45.60 |
£ 60.60 | £ 62.10 |
£ 136.90 | £ 140.30 |
£ 50.50 | £ 51.80 |
£ 64.30 | £ 65.90 |
£ 77.30 | £ 79.60 |
£ 150.50 (Yn y ddau fan lley'i gwelir) | £ 154.30 |
£ 42.80 | £ 43.90 |
(3) Yn lle Atodlen 3 i Reoliadau 1997 (gwerthoedd talebau - trwsio), rhowch yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986
5.
Yn rheoliad 13 o Reoliadau 1986 (Profion Golwg - cymhwyster), ym mharagraffau (2)(c) (derbyn credyd treth teuluoedd sy'n gweithio) a (2)(g) (derbyn credyd treth pobl anabl), yn lle "£70" rhowch "£71".
Defnyddio'r Rheoliadau hyn
6.
- (1) Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 2 a 5 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â dyfarniadau credyd treth teuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth pobl anabl sy'n cael eu gwneud ar neu ar ôl 10 Ebrill 2001 yn unig.
(2) Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 3 a 4 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â thaleb a dderbynnir neu a ddefnyddir yn unol â rheoliadau 12 neu 17 o Reoliadau 1997 ar neu ar ôl 10 Ebrill 2001 yn unig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Mawrth 2001
(1) | (2) | |||||||
Nature of repair | Letter Codes - Values | |||||||
A | B | C | D | E | F | G | H&I | |
£ | £ | £ | £ | £ | £ | £ | £ | |
Repair or replacement of one lens | 9.35 | 17.15 | 25.40 | 64.50 | 20.25 | 27.30 | 34.15 | 71.50 |
Repair or replacement of two lenses | 18.70 | 34.30 | 50.80 | 129.00 | 40.50 | 54.60 | 68.30 | 143.00 |
Repair or replacement of the front of a frame: | 9.60 | 9.60 | 9.60 | 9.60 | 9.60 | 9.60 | 9.60 | 9.60 |
the side of a frame | 5.70 | 5.70 | 5.70 | 5.70 | 5.70 | 5.70 | 5.70 | 5.70 |
the whole frame | 11.30 | 11.30 | 11.30 | 11.30 | 11.30 | 11.30 | 11.30 | 11.30 |
Diwygiwyd adran 38 gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) ("Deddf 1980"), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 51; gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) ("Deddf 1984"), adran 1(3); gan O.S.1985/39, erthygl 7(11); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) ("Deddf 1988"), adran 13(1); a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), Atodlen 1, paragraff 27.
Estynnwyd adran 39 gan Ddeddf 1988, adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) , adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 52, gan Ddeddf 1984, adran 1(4) ac Atodlen 1, paragraff 1 ac Atodlen 8; gan O.S.1985/39, erthygl 7(12); a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 28.
Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6). Amnewidiwyd paragraff 2(1) o Atodlen 12 gan Ddeddf 1988, Atodlen 2, paragraff 8(1); mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 12 gan Ddeddf 1984, Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 3 a'i ddiwygio gan Ddeddf 1988, adran 13(2) a (3).
Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 38, 39, 78, 126(4) a 127 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back
[2] O.S.1997/818; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1997/2488, 1998/499, 1999/609, 2000/978 a 3119.back
[3] O.S.1986/975; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1988/486, 1989/395 a 1175, 1990/1051, 1991/583, 1992/404, 1995/558, 1996/705 a 2320, 1999/693 a 2481.back